Cemeg Llwybrau Adweithio a Phrofion Cemegol Uned 2 Flashcards
Sut ydym yn mydn o Alcan i Halogenoalcan?
Categori: Amnewid radicalaidd rhydd
Adweithyddion: Cl2
Amodau: Golau uwchfioled
Sut ydym yn mynd o Alcen i Bromoalcan?
Categori: Adiad electroffilig
Adweithyddion: HBr
Sut ydym yn mynd o Alcen i deubromoalcan?
Categori: Adiad electroffilig
Adweithyddion: Br2
Nodiadau: Prawf ar gyfer alcenau
Sut ydym yn mynd o Alcen i Alcan?
Categori: Adiad electroffilig
Adweithyddion: H2
Amodau: Catalydd Nicel/Pt
Sut ydym yn mynd o Halogenoalcan i Alcohol?
Categori: Amnewid Niwcleoffilig
Adweithyddion: NaOH
Amodau: Dyfrllyd/Gwresogi o dan adlifiad
Nodiadau: Cyfradd amnewid I>Br>Cl
Sut ydym yn mynd o Halogenoalcan i Alcen?
Categori: Dileu
Adweithyddion: NaOH
Amodau: Ethanol/Gwres uchel
Sut ydym yn mynd o Alcen i Alcohol?
Categori: Adiad electroffilig
Adweithyddion: H2O
Amodau: Catalydd H3PO4, 70 atm, 300 celsiws
Sut ydym yn mynd o Alcohol i Alcen?
Categori: Dileu
Adweithyddion: H2SO4
Amodau: 180 celsiws
Sut ydym yn mynd o Alcohol cynradd i Aldehyd?
Categori: Ocsidiad
Adweithyddion: H+/K2Cr2O7
Amodau: Gwresogi a distyllu
Potasiwm deucromad mewn asid
Sut ydym yn mynd o Alcohol cynradd i Asid carbocsilig?
Categori: Ocsidiad
Adweithyddion: H+/K2Cr2O7
Amodau: Gwresogi dan adlifiad
Sut ydym yn mynd o Alcohol eilaidd i Ceton?
Categori: Ocsidiad
Adweithyddion: H+/K2Cr2O7
Amodau: Gwresogi dan adlifiad
Sut ydym yn mynd o Alcohol i Ester?
Categori: Cyddwyso
Adweithyddion: Asid carbocsilig
Amodau: H2SO4 (catalydd), gwresogi dan adlifiad
Sut ydym yn mynd o Asid Carbocsylig i Ester?
Categori: Cyddwyso
Adweithyddion: Alcohol
Amodau: H2 SO4(catalydd), gwresogi dan adlifiad
Beth yw diffiniad isomeredd adeileddol?
Cyfansoddion gwahanol sydd gyda’r un fformiwla foleciwlaidd ond fformiwla adeileddol gwahanol.
Beth yw isomeredd E-Z?
Isomeredd mewn alcenau, sy’n bodoli oherwydd bod cylchdroi o amgylch y bond dwbl yn cael ei atal gan y bond pi.