Cemeg 1.7 Ecwilibria Syml ac Adweithiau Asid-Bad Flashcards
Bethy ydy adweithiau cildroadwy yn golygu?
Mae’r adwaith yn digwydd i’r ddau gyfeiriad.
Beth yw diffiniad ecwilibriwm dynamig?
Sefyllfa pan fydd y blaenadwaith ar ol adwaith yn digwydd ar yr un gyfradd mewn system gaeedig.
Pa fath o adwaith sy’n digwydd os ydy’r newid tymheredd yn bositif?
Endothermig.
Pa fath o adwaith sy’n digwydd os ydy’r newid tymheredd yn negatif?
Ecsothermig.
Beth ydy egwyddor Le Chatelier yn dynodi am tymheredd?
Os ydy’r tymheredd yn cynyddu, bydd y system yn symud i gyfeiriad yr adwaith endothermig, er mwyn amsugno’r gwres a lleihau’r tymheredd.
Beth ydy egwyddor Le Chatelier yn dynodi am gwasgedd?
Os ydy’r gwasgedd yn cynyddu, bydd y safle ecwilibriwm yn symud i gyfeiriad y cemegau gyda’r lleiaf o folau nwyol, er mwyn lleihau gwasgedd yn y system.
Beth ydy egwyddor Le Chatelier yn dynodi am crynodiad?
Os ydy crynodiad un o’r rhywogaethau yn y system yn cynyddu (ychwanegu mwy), bydd y system yn newid y safle ecwilibriwm i gyfeiriad fel bod y sylwedd hwnnw yn adweithio, er mwyn lleihau’r crynodiad unwaith eto.
Beth ydy egwyddor Le Chatelier yn dynodi am catalydd?
Nid yw catalydd yn cael unrhyw effaith ar y safle ecwilibriwm.
Bydd y catalydd yn cyflymu’r amser i’r adwaith cyrraedd ecwilibriwm dynamig.
Beth yw catalydd Heterogenaidd?
Cyflwr ffisegol gwahanol i’r adweithyddion e.e haearn o’r broses haber.
Beth yw catalydd Homogenaidd?
Catalydd gyda’r un cyflwr a’r adweithyddion.
Beth yw’r unig peth sy’n effeithio ar faint Kc?
Tymheredd.
Sut ydym yn ysgrifennu mynegiant ecwilibriwm?
aA + bB —> cC + dD.
Kc= Cc Dd
Aa Bb
Beth yw damcaniaeth Lowry yn dynodi am asid?
Asid yn ion neu foleciwl sy’n gallu rhoi proton (i fas).
Beth yw damcaniaeth Lowry yn dynodi am bas?
Bas yw ion neu foleciwl sy’n gallu derbyn proton (o asid).
Beth yw alcali?
Bas hydawdd.
Beth ydym yn ystyried yn asid cryf?
Asid fel HCl sy’n cael ei ioneiddio bron yn llwyr mewn hydoddiant dyfrllyd.
Beth ydym yn ystyried yn asid gwan?
Asid fel asid ethanoig (finegr) sy’n cael ei ioneiddio’n rhannol yn unig mewn dwr.
Beth ydy Metel + Asid yn ffurfio?
Metel + Asid Halwyn + Hydrogen.
Beth ydy asidau a basau yn ffurfio?
Asid + Bas Halwyn + Dwr.
Beth ydy asidau a charbonadau yn ffurfio?
Hawlyn + Dwr + CO2.
Beth yw diffiniad a fformiwla pH?
-log10(H+).
Beth yw fformiwla ar gyfer cyfrifo H+ gan wybod y pH?
H+ = 10 i pwer -pH.
Beth yw diffiniad crynodedig?
Nifer o folau uchel o asid/bas wedi hydoddi mewn cyfaint penodol o ddwr.
Beth yw diffiniad gwanedig?
Nifer o folau isel o asid/bas wedi hydoddi mewn cyfaint penodol o ddwr.
Beth yw diffiniad [H+]?
Crynodiad ionau H+.