Cemeg 2.3: Cemeg Gwyrdd Flashcards
Atal?
Mae’n well i atal gwastraff nag yw gorfod ei drin neu lanhau ar ol iddo gael ei greu.
Economi atomig?
Dylid dylunio dulliau o greu sylweddau yn ofalus fel bod y swm uchaf posib o’r deunyddiau a defnyddir yn y broses yn cael eu ymgorffori yn y cynnyrch.
Synthesis cemegol llai peryglus?
Lle bo modd, dylai dulliau synthetig gael eu dylunio i ddefnyddio a chreu sylweddau nad sy’n amharu ar iechyd yr unigolyn nac i’r amgylchedd.
Dylunio cemegion mwy diogel?
Dylai cynhyrchion cemegol gael eu dylunio er mwyn chwarae’r rol sy’n ofynnol ohonynt ond sy’n isel eu gwenwynedd.
Hydoddion/cynorthywyr mwy diogel?
Ni dyllai fod angen defnyddio cynorthywyr cemegol.
Os nad oes modd osgoi hyn, ni ddylent achosi unrhyw niwed i iechyd yr unigolyn nac i’r amgylchedd.
Dylunio ar gyfer defnydd effeithiol o egni?
Dylid cydnabod fod gan anghenion egni prosesau cemegol effeaith amgylcheddol ac economig, a dylid lleihau’r effeithiau yma.
Lle bo modd, dylai’r prosesau gymryd lle ar dymheredd yr amgylchedd a gwasgedd atmosfferig.
Defnydd o borthiant adnewyddadwy?
Dylai adweithyddion crai neu borthiant fod yn adnewyddadwy lle mae’n dechnolegol ac yn economig bosib.
Lleihau deilliadau?
Dylid lleihau neu osgoi’n llwyr prosesau sy’n creu deilliadau di-angen gan fod camau o’r fath yn defnyddio adweithyddion ychwanegol ac yn gallu creu gwastraff.
Catalysis?
Mae adweithyddion catalytig yn llawer gwell nag adweithyddion arferol.
Dylunio ar gyfer di-raddio?
Dylid dylunio cynhyrchiob cemegol sy’n torri lawr ar ddiwedd eu hoes defnyddiol i roi sylweddau diniwed.
Analysis yn ystod prosesau i atal llygredd?
Mae angen datblygu methedoleg dadansoddol er mwyn monitro prosesau yn barhaus er mwyn rheoli’r broses cyn fod sylweddau sy’n llygru yn cael eu ffurfio/
Cemeg diogel er mwyn atal damweiniau?
Dylid dewis a dethol sylweddau a ddefnyddir yn ystod prosesau cemegol er mwyn lleihau’r potensial ar gyfer damweiniau megis tanau, ffrwydradau a gollyngdod.