Cemeg 2.7: Alcoholau ac Asidau Carbocsilig Flashcards
Beth yw Alcoholau?
Gyfansoddion organig sy’n cynnwys y grwp gweithredol OH-.
Beth yw fformiwla cyffredinol Alcoholau?
CnH2n+1 OH
Beth yw Alcohol Cynradd?
Alcohol sy’n cynnwys grwp CH2OH (OH- ar ddiwedd y gadwyn).
Beth yw Alcohol Eilaidd?
Alcohol sy’n cynnwys grwp CH(OH) (OH- wedi ei fondio i garbon yng nghanol y gadwyn).
Beth yw Alcohol Trydyddol?
Alcohol sy’n cynnwys grwp OH- wedi ei fondio i atom carbon heb unrhyw atomau hydrogen (grwp alcyl wedi ei fondio i’r un carbon).
Beth ydy presenoldeb y grwp OH yn ei olygu?
Bydd yr alcoholau yn ffurfio bondiau hydrogen gyda’i gilydd a gyda dwr.
Pam bod yr alcoholau yn ffurfio bondiau hydrogen gyda’i gilydd a gyda dwr?
Oherwydd y gwahaniaeth mewn electronegatifedd rhwng yr atomau ocsigen a hydrogen i gynhyrchu’r bond polar.
Pa fath o rym yw’r bond hydrogen?
Grym rhyngfoleciwlaidd deupol-deupol.
Pryd ydy’r rym yma yn digwydd?
Pan mae Hydrogen wedi’i fondio’n gofalent i elfen electronegatif iawn fel ocsigen, nitrogen neu fflworin.
Beth yw’r dull diwydiannol a’r fformiwla ar gyfer paratoi Ethanol mewn diwydiant?
Dull: Hydradu alcen
CH2=CH2 (n) + H2O (n) —> CH3CH2 OH(h)
Beth ydy’r adwaith yn cychwyn gyda, adweithydd, amodau a’r math o adwaith?
Ethen
Ager
300 celsiws/ 70 atmosffer gwasgedd/ asid ffosfforig CATALYDD
Adiad electroffilig
Beth yw 4 rheswm dros yr amodau?
> Tymheredd o 300 celsiws - mae’r blaenadwaith yn ecsothermig ond rhaid cael cyfradd adwaith digon uchel.
Gwasgedd 60-70 atmosffer. 2 mol o adweithyddion a 1 mol o gynnyrch.
Trawsnewidiad effeithlon = caiff yr ager a’r ethen eu hailgylchu gan mai dim ond tua 5% sy’n cael ei drawsnewid bob tro.
100% yw’r economi atom damcaniaethol.
Beth yw Eplesiad?
Y broses o drawsnewid siwgrau yn ethanol.
Beth yw’r hafaliad ar gyfer Eplesiad?
C6H12 —> 2C2H5OH + 2CO2.
Sut gellir gwahanu’r gymysgedd?
Distyllu ffracsiynnol.
Defnyddio ensymau fel burum.
Sut ydym yn cynhyrchu bioethanol?
Cynhyrchir o siwgrau mewn planhigion trwy eplesiad.
Sut ydym yn cynhyrchu biodiesel?
Cynhyrchir o olewau a’r brasterau sy’n bresennol mewn hadau rhai planhigion.
Beth yw 3 mantais biodanwyddau?
> Adnewyddadwy
Carbon niwtral
Diogelwch economaidd a gwleidyddol
Beth yw 3 anfantais biodanwyddau?
> Defnyddio tir
Defnyddio adnoddau
Niwtraliaeth carbon - gellir dadlau nad yw’r tanwyddau yn garbon niwtral ganj fod angen tyfu a cludo’r tanwyddau
Pa fath o adwaith ydy dadhydradiad alcoholau?
Fath o adwaith dileu (tynnu’r moleciwl dwr i ffwrdd).
Beth ydy dadhydradu alcoholau yn wneud?
Ffurfio alcen
e.e CH3CH2OH —> H2O + CH2=CH2
Sut gallwn gynnal yr adwaith hwn yn y labordy?
Trwy basio anwedd ethanol dros alwminiwm ocsid a’i wresogi.
Beth yw dull arall o gynnal yr adwaith?
Gwresogi’r alcohol gydag asid sylffwrig crynodedig mewn gormodedd ar tua 170 celsiws.
Sut ydym yn brofi am alcohol cynradd ac eilradd?
Potasiwm deucromad (VI) mewn asid, troi o oren i wyrdd.
Beth yw’r camau ocsidiad gyda alcohol cynradd?
Cael ei ocsidio i aldehyd gyntaf ac wedyn i asid carbocsilig.
Ffurfio aldehyd - beth ydy’r adwaith yn dechrau gyda, adweithyddion, hafaliad ac amodau?
Alcohol cynradd
Potasiwm deucromad (VI) mewn asid
R-CH2OH(h) —> R-CHO(h)
Gwresogi a distyllu’r aldehyd wrth iddo ffurfio.
Pam oes gan aldehyd tymheredd berwi is a beth ydy arwyddocad hwn?
Aldehyd methu ffurfio bondiau hydrogen, sy’n arwain at dymheredd berwi is felly mae hwn yn distyllu cyn yr alcohol a’r asid carbocsilig.
Ffurfio asid carbocsilig - beth ydy’r adwaith yn dechrau gyda, adweithyddion, hafaliad ac amodau?
Alcohol cynradd
Potasiwm deucromad (VI) mewn asid
R-CH2OH(h) —> R-COOH(h)
Gwresogi o dan adlifiad
Beth ydym methu ffurfio o alcohol eilaidd?
Methu ffurfio asid carbocsilig.
Ffurfio ceton - beth ydy’r adwaith yn dechrau gyda, adweithyddion, hafaliad ac amodau?
Alcohol eilaidd
Potasiwm deucromad (VI) mewn asid
R-CH(OH)-R’(h) —> R-CO-R’(h)
Gwresogi o dan adlifiad
Pam dydy alcohol trydyddol methu cael ei droi mewn i asid carbocsilig?
Dim yn ocsidio.
Pam ydy asidau carbocsilig yn asidau gwan?
Gan ei fod yn daduno’n rhannol, maent yn rhyddhau ionau H+ wrth gael eu hychwanegu at dwr.
Beth yw’r adwaith asid carbocsilig gyda basau?
Asid + Bas —> Halwyn + Dwr
e.e NaOH + CH3COOH —> CH3COONa + H2O
Beth yw’r adwaith asid carbocsilig gyda carbonadau?
Asid + Carbonad —> Halwyn + Carbon Deuocsid + Dwr
e.e Na2CO3 + HCOOH —> HCOONa + CO2 + H2O
Beth sy’n digwydd wrth i’r carbon deuocsid cael ei rhyddhau?
Mae eferwad i’w weld - gellir profi’r nwy yma gyda dwr calch.
Sut ydym yn ffurfio esterau?
Alcoholau yn adweithio ag asidau carbocsilig ym mhresenoldeb ychydig o asid sylffwrig crynodedig gan ffurfio esterau.
Beth yw ester?
Cyfansoddyn organig sy’n cynnwys y grwp gweithredol C=O
C-R
C-OR’
Beth yw 2 priodwedd ester?
Anhydawdd mewn dwr ond hydawdd mewn hydoddyddion organig.
Arogl melys, nodweddiadol.
Beth yw’r adwaith Esteriad?
Pa fath o adwaith sy’n digwydd.
Adwaith rhwng alcoholau ag asidau carbocsilig.
Alcohol + Asid = Ester + Dwr
Adwaith yn cildroadwy.
Beth ydy’r adwaith cildroadwy yn olygu yn yr achos hon?
Bydd cymysgedd o’r 4 sylwedd pan fydd yr adwaith yn cyrraedd ecwilibriwm. Rhaid dewis yr amodau optimwm i gael y swm gorau o gynnyrch.
Ffurfio ester - dechrau gyda, adweithyddion, math o adwaith ac amodau?
Alcohol
Asid carbocsilig
Cyddwysiad
Asid sylffwrig crynodedig/ gwresogi dan adlifiad
Beth ydy’r asid sylffwrig yn wneud?
Catalydd ac yn amsugno dwr o’r cymysgedd (dadhydradydd) sy’n gwthio’r ecwilibriwm i’r dde i greu fwy o gynnyrch.
Pam ydy distylliad yn dull addas i puro esterau?
Gan fod dim bondiau O-H yn yr ester, sy’n arwain at dymheredd berwi is ar gyfer yr ester.