Cemeg 1.3: Cyfrifiadau Cemegol Flashcards
Beth yw diffiniad mas atomig cymharol?
Mas cymedrig un atom o elfen mewn sampl naturiol mewn cymhariaeth ag 1/12fed o fas atom o garbon-12.
Beth yw diffiniad mas isotopig cymharol?
Mas un atom o isotop penodol.
Beth yw diffiniad mas moleciwlaidd cymharol?
Mas cymedrig un moleciwl o sylwedd mewn sampl naturiol.
Beth yw diffiniad mas fformiwla cymharol?
Mas cymedrig un uned fformiwla o sylwedd mewn sampl naturiol.
Sut ydym yn gallu mesur masau atomig a moleciwlaidd cymharol?
Trwy defnyddio sbectromedr mas.
Beth ydy’r sbectromedr mas yn helpu ni i wneud?
> Darganfod strwythur moleciwlau, yn ogystal a darganfod cyflenwad cymharol o isotopau gwahanol atomau.
Gallu darganfod mas isotopau cymharol ac yna gallwn ddefnyddio’r wybodaeth i gyfrifo’r mas atomig cymharol.
Sut ydy’r atomau yn cael ei wahanu?
Yn ol eu cymhareb mas/ gwefr.
Mae’n dangos y swm cymharol o’r gwahanol isotopau o atomau sy’n bresennol.
Beth ydy camau 1-2, 3-5 a 6-7 yn wneud?
1-2: Creu’r ionau nwyol (anweddu ac ioneiddio)
3-5: Cyflymu a gwyro yn ol mas a gwefr
6-7: Canfod a chofnod
BALADR
Beth sy’n digwydd yn y sbrectomedr mas?
- Mae’r sampl yn cael ei anweddu i greu sampl nwyol.
- mae’r sampl yn cael ei ioneiddio i greu ionau positif. Digwyddir hyn trwy saethu electronau cyflym, egni uchel o’r gwn electron at y sampl.
- Cyfyngir yr ionau positif i baladr cul.
- Mae’r ionau positif yn cael ei cyflymu i fuanedd uchel gan faes trydanol.
- Mae’r ionau yn teithio trwy faes magnetig lle mae’r ionau yn cael eu gwyro yn ol eu cymhareb mas/gwefr.
- Mae’r ionau sydd a’r gymhareb mas/gwefr gywir yn mynd trwy’r hollt a’u canfod gan offeryn fel electromedr.
- Caiff y signal ei fwyhau a’i recordio.
- Er mwyn canfod yr holl ionau atomig/moleciwlaidd yn y sampl bydd angen addasu cryfder yr electromagnet trwy newid y cerrynt sy’n llifo trwyddo. Wrth leihau cryfder y magnet mae’r ionau yn cael eu gwyro llai ac mae ionau ysgafnach yn cyrraedd y canfodydd.
Beth yw’r hafaliad ar gyfer atom X, a’r hafaliad o gankhniad i ail ioneiddiad?
X (n) + e- -> X+ (n) + 2e-
X+ (n) a e- -> X2+ + 2e- (digwydd os mae cryfder y gwn electronau yn rhy uchel)
Mae ionau 2+ yn gwyro dwywaith yn fwy na ionai 1+.
Beth sy’n digwydd i ionau a chymhareb mas/gwefr lai?
Beth sy’n diwgydd i ionau a chymhareb mas/gwefr uwch?
> Cael ei gwyro gormod.
> Cael ei gwyro digon i gyrraedd y canfodydd.
Cynyddu’r cryfder maes magnetig = Ionau o fas cynyddol yn cael eu canfod.
Beth ydy’r sbectromedr mas yn rhoi i ni? Sut ydym yn gallu gweithio allan Ar o’r sbectromedr mas?
> Sawl isotop o’r elfen sy’n bodoli.
Llaweredd cymharol bob isotop.
Ar: Llaweredd 10B x Mas 10B + Llaweredd 11B x Mas 11B
Dros 100
Pa isotopau ydy clorin yn cynnwys?
Clorin-35 (75%)
Clorin-37 (25%)
Beth yw’r tebygolrywdd bod dau Clorin yn 35-35?
Mas/gwefr: 70+
Tebygolrwydd: 3/4 x 3/4= 9/16
Cymhareb y brigau: 9
Beth yw’r tebygolrwydd bod dau Clorin yn 37-35?
Mas/gwefr: 72
Tebygolrwydd: 1/4 x 3/4= 6/16
Cymhareb y brigau: 6
Beth yw’r tebygolrwydd bod dau Clorin yn 37-37?
Mas/gwefr: 74
Tebygolrwydd: 1/4 x 1/4= 1/16
Cymhareb y brigau: 1
Sut ydym yn gallu defnyddio’r sbectromedr mas i dadansoddi moleciwlau?
Mae’r safle’r brig gyda’r gymhareb mas/gwefr fwyaf yn rhoi Mr y moleciwl.
Pam ydy’r sbectrwm mas yn arddangos sawl brig?
Bydd llawer o foleciwlau yn torri lan neu ddarnio wrth fynd drwy’r sbectromedr.
Gellir defnyddio mas y darnau i ddarganfod mwy am strwythur y moleciwl gwreiddiol.