Cemeg 1.2 Flashcards
Beth yw rhif atomig?
Nifer y protonau yn niwcles atom.
Beth yw rhif mas?
Nifer y protonau + nifer y niwtronau yn niwclews atom.
Beth yw isotopau?
Atomau gyda’r un nifer o brotonau ond niferoedd gwahanol o niwtronau.
Beth yw ion?
Gronyn lle nad yw nifer yr electronau yn hafal i nifer y protonau.
Beth yw gronynnau alffa?
2 broton a 2 niwtron, felly gyda gwefr positif (niwclews heliwm).
Beth yw gronunnau beta?
Electronau sy’n symud yn gyflym, felly gyda gwefr negatif.
Beth yw pelydriad gama?
Pelydriad electromagnetig egni uchel - dim gwefr.
Beth yw hanner oes?
Amser y mae ymbelydredd radio isotop yn ei gymryd i ostwng i hanner ei werth gwreiddiol.
Beth sy’n digwydd pan fydd rhai isotopau mawr, ansefydlog yn torri?
Bydd y niwclews yn rhyddhau egni ac ymbelydredd.
Beth ydy hwn yn ffurfio?
Ffurfir niwclews sefydlog.
Beth yw enw’r broses sy’n ffurfio niwclews sefydlog?
Dadfeiliad ymbelydrol.
Beth yw’r tri math o belydriad sy’n cael ei ryddhau yn ystod dadfeiliad ymbelydrol?
Gronynnau alffa, gronynnau beta a phelydriad y.
Beth ydy gronynnau alffa yn cael ei rhwystro gan?
Cael ei rhywstro’n hawdd gan bapur.
Beth ydy gronynnau beta yn cael ei rhwystro gan?
Gallu mynd trwy papur ond yn cael ei rhwystro gan 5mm alwminiwm.
Beth ydy gronynnau gamma yn cael ei rhwystro gan?
Gallu treiddio trwy rhan fwyaf o bethau yn hawdd, ond mae 2cm o blwm yn ei rhwystro.
Beth ydy gronynnau alffa, beta a gama yn cael eu hatynnu at?
Alffa - plat negatif.
Beta - plat positif.
Gama - dim effaith.
Beth yw gronyn alffa a beth yw ei rhif mas a rhif atomig?
Niwclews atom heliwm.
Rhif mas - 4.
Rhif atomig - 2.
Beth sy’n digwydd mewn allyriant alffa?
Bydd rhif mas yr atom yn lleihau 4 a bydd rhif atomig yr atom yn lleihau 2.
Beth dy’n digwydd yn ystod dadfeiliad beta?
Mae un niwtron o niwclews yr atom yn hollti i roi proton ac electeon egni uchel sef e-1 bein B-1.
Beth ydy’r atom yn cael ei gadael gyda?
Un niwtron llai ac un proton ychwanegol yn y niwclews.
Felly?
Bydd y rhif mas yn aros yr un peth. Ond bydd y rhif atomig yn cynyddu gan un.
Beth yw dadfeiliad beta gildro?
Dal electron yw’r enw ar gyfer hyn - mae un o’r electronau mewn orbital yn cael ei ddal gan broton yn y niwclews, gan ffurfio niwtron ac allyrru niwtrino electron (Ve).
Beth yw dadfeiliad Beta +?
Proses wahanol sy’n cael ei alw yn ddadfeiliad positron. Mae proton yn dadfeilio yn yr achos hwn i roi niwtron a phositron. Y positron yw gwrthonnyn yr electron. Mae ganddo’r un mas ond mae ganddyn nhw wefr ddirgroes.
Beth ydy’r atom yn cael ei gadael gyda yn ystod dadfeiliad Beta +?
Un proton yn llai yn y niwclews ac un niwtron ychwanegol yn y niwclews.
Felly?
Bydd y rhif mas yn aros yr un peth. Ond bydd y rhif atomig yn lleihau gan un.
Beth yw pelydrau gama?
Tonnau electromagnetig egni uchel, gyda thonfedd tua 1 miliwn gwaith llai na thonfedd golau. Byddant yn cael eu colli ar yr un pryd a gronyn Beta.
Beth sy’n digwydd pan fydd niwclews yn colli gronyn Beta?
Mae’r niwclews yn cael eiu adael wedi’i gynhyrfu.
Sut ydy’r niwclews yn dod nol i sefyllfa sefydlog?
Mae’r atom yn rhyddhau’r egni fel pelydredd gamma.
Beth ydy pelydriad gamma ddim yn effeithio ar?
Mas cymharol yr atom na rhif atomig yr atom.
Beth yw’r cyfradd dadfeiliad ymbelydrol?
Diffinio gan y gostwng yn nifer yr atomau ansefydlog mewn amser penodol.
Beth yw hanner oes?
Hanner oes yw’r amser mae’n ei gymryd i ymbelydredd radio isotop ostwng i hanner ei werth gwreiddiol.
Defnyddir pelydriad gama i…?
Steryllu bwyd, offer meddygol ac ati;
Teryllu gwrywod gwahanol bryfed sy’n achosi pla er mwyn lleihau eu bridio;
Therapi pelydriad i ladd celloedd canser.
Beth ydym yn defnyddio isotopau ymbelydrol ar gyfer?
Darganfod tyfiant ar yr ymennydd.
Darganfod rhydweliau wedi blocio ac ati.
I ymchwilio i brosesau’r ymennydd.
Beth ydym yn defnyddio Plwtoniwm-238 yn?
Fel tanwydd ac ar gyfer reolyddion calon.