Cemeg 2.1: Egnieg Flashcards
Beth yw’r egwyddor cadwraeth egni?
Ni all egni cael ei greu na’i ddinistrio, ond gellir ei newid o un ffurf i ffurf arall.
Beth yw adwaith ecsothermig?
Adwaith sy’n rhoi allan egni fel gwres ac yn ffurfio bondiau. Mae’n adwaith negatif.
Beth yw adwaith endothermig?
Adwaith sy’n amsugno egni fel gwres ac yn torri bondiau. Mae’n adwaith positif.
Beth yw newid enthalpi’r adwaith?
Y newid yn yr egni cemegol y ystod yr adwaith, gyda’r symbol delta H.
Beth yw’r ffactorau sy’n effeithio’r newidiadau egni yn ystod adwaith?
> Cyflwr ffisegol yr adweithyddion a’r cynhyrchion.
Mae angen egni i newid solid i hylif neu nwy.
Rhyddheir egni pan mae nwy yn ffurfio hylif neu solid.
Beth yw’r enthalpi bond cyfartalog?
Y cyfartaledd o’r egni sydd ei angen i dorri bond penodol mewn cannoedd o gyfansoddion cyffelyb yn y cyflwr nwyol.
Beth yw’r fformiwla ar gyfer newid enthalpi?
Egni’r adweithyddion - Egni’r cynhyrchion.
Beth yw newid enthalpi molar safonol (Delta H)?
Y newid egni sy’n digwydd pan fo meintiau molar o adweithyddion yn eu cyflyrau safonol yn adweithio o dan amodau safonol.
Beth yw enthalpi ffurfiant molar safonol (Delta H ff)?
Y newid enthalpi pan caiff un mol o sylwedd yn ei gyflwr safonol ei greu allan o’i elfennau yn eu cyflyrau safonol o dan amodau safonol.
Angen ffurfio 1 mol o sylweddau.
Beth yw’r fformiwla i gyfrifo newid enthalpi ffurfiant?
Egni’r cynnyrch - Egni’r adweithyddion.
Beth ydy deddf Hess yn dynodi?
Os gellir adwaith digwydd trwy fwy nag un llwybr, bydd y newid egni yn hafal ar gyfer pob llwybr wahanol.
Beth yw’r fformiwla ar gyfer egni gwres?
E= M x C x Delta T.
Beth sydd yn rhan o galorimedr syml?
> Thermomedr
Hydoddiant dyfrllyd
Dau gwpan polystyren gyda haen o aer rhyngddynt yn ynysur adwaith
Beth yw’r fformiwla ar gyfer newid enthalpi yr adwaith?
-M x C x Delta T dros molau (sylwedd sydd ddim mewn gormodedd)