Cemeg 1.5: Adeileddau Solidau Flashcards
Priodweddau Metelau?
> Dim ond nifer bach o electronau falens sydd gan electronau metelig.
Nid ydynt yn ffurfio bondiau cofalent a’i gilydd mewn crisial.
Mae’r electronau falens yn cael eu rhyddhau o’r plisgyn allanol i ffurfio’r mor o electronau dadleoledig o amgylch ionau metelig positif.
Ble ydy’r bond metelig?
Mae atyniad electrostatig rhwng yr ionau positif a’r electronau dadleoledig.
Sut ydy cryfder y bond metelig yn cryfhau?
Cynydd yn nifer yr electronau falens sy’n cael eu cydrannu i’r mor o electronau, e.e yng nghyfnod 3, cryfder cymharol y bond metelig yw: Al>Mg>Na.
Beth yw trefn yr ionau?
Strwythur metelaidd enfawr (dim gwefr ar y metel yn gyfan gwbwl).
Mae gwahanol drefniant o’r ionau yn dibynnu ar y metel.
Pam ydy strwythur cyfansoddion ionig yn fwy cymhleth na strwythur metelau?
Oherwydd bod yr ionau o feintiau gwahanol ac mae’r gymhareb ion +: ion - yn gallu amrywio.
Beth yw geometreg y strwythur yn ddibynol ar?
Radiws y cation a’r amion. Yn gyffredinol bydd radiws y cation yn llai na’r anion oherwydd eu bod wedi colli electronau tra bod anion wdi ennill electronau.
Beth ydy’r ionau positif yn cael eu amgychynu gyda?
Gyda’r nifer mwyaf posib o ionau negatif.
Faint o Clorin sy’n amgylchynu Sodiwm?
Mae 6 ion Sodwim Na+ yn cael eu hamgylchynu gyda 6 ion Clorid Cl-.
Beth ydy’r ionau negatif yn ffurfio?
Ffurfio octahedron gyda’r ion positif yn ganolog (ac i’r gwrthwyneb).
Beth ydy’r dellten yn cael ei disgrifio fel?
Ciwbig wyneb canolog.
Beth yw rhif cyd-drefnol NaCl?
6:6 (nifer yr ionau sy’n amgylchynu ei gilydd).
Faint o Cesiwm sy’n cael ei amgylchynu gan Clorin?
Oherwydd bod yr ion Cs+ yn fwy na’r ion Na+ mae pob ion Cs+ yn cael ei amgylchynu gan 8 ion Cl-. Mae’r ddau ion o feintiau cymharol.
Beth yw enw’r dellten sy’n ffurfio?
Dellten giwbig gorff canolog.
Mae’r ion Cs+ fel canolbwynt ciwb ac mae’r 8 Cl- ymhob cornel o’r ciwb.
Beth yw rhif cyd-drefnol CsCl?
8:8.
Beth yw’r berthynas rhwng priodweddau cyfansoddion ionig a’u strwythur?
Hydawdd mewn dwr.