Cemeg 1.1: Fformiwlau a hafaliadau Flashcards
Beth yw priodweddau cyfansoddion elfennau grwp 1 ac amoniwm?
Hydawdd.
Priodweddau nitradau metelau?
Hydawdd
Priodweddau carbonadau metelau?
Anhydawdd (heblaw grwp 1)
Priodweddau cyfansoddion plwm?
Anhydawdd (heblaw nitrad ac ethanoad)
Priodweddau hydrocsidau metelau?
Anhydawdd (heblaw grwp 1 a gwaelod grwp 2)
Priodweddau mwyafrif o gloridau?
Hydawdd (heblaw Pg, Ag)
Priodweddau mwyafrif o sylffadau?
Hydawdd (heblaw Pg, gwaelod grwp 2)
Beth yw Ocsidydd a Rhydwythydd?
Ocsidydd: Sylwedd sy’n ocsidio rhywbeth arall, ac yn y broxses caiff ei rhydwytho.
Rhydwythydd: Sylwedd sy’n rhydwytho rhywbeth arall, ac yn y broses caiff ei ocsidio.
Beth yw’r rheolau ar gyfer rhifau ocsidiad?
- Mae gan atomau mewn elfennau rhifau ocsidiad o sero e.e He, Mg, O2.
- Cyfansoddion metelau grwp 1: +1.
- Cyfansoddion metelau grwp 2: +2.
- Cyfansoddion fflworin: -1.
- Cyfansoddion ocsigen: -2, heblaw perocsidau neu pan eu gyfunir a fflworin (+2).
- Cyfansoddion hydrogen: +1 heblaw hydridau metealu grwp 1 a grwp 2 (-1).
- Cyfansoddion clorin: -1, heblaw gyda fflworin neu ocsigen.
- Mewn rhywogaetj niwtral, cyfanswm y rhifau ocsidiad yw 0.
- Mewn ion, mae cyfanswm y rhifau ocsidiad yn hafal i’r wefr.
COFIO: Arwydd yn dod o flaen y rhif, nid ar ol.