Cemeg 1.4: Bondio Flashcards
Beth sy’n digwydd yn ystod bondio ionig?
Caiff electronau eu trosglwyddo o un atom i atom arall gann ffurfio gronynnau gwefredig, sef ionau.
Mae’r atom sy’n colli electronau yn ffurfio ion positif (cation), ac mae’r atom sy’n ennill electronau yn ffurfio ion negatif (anion).
Beth sydd fel arfer yn ffurfio’r cation?
Metel gan fod nhw’n colli electronau’n haws h.y mae ganddynt egni ioneiddiad isel.
Sut ydy anion yn ffurfio?
O anfetel sy’n medru ennill electronau.
Ble ydy rhan fwyaf o ddwysedd yr electronau wedi ei leoli?
Yn yr ionau, gyda dwysedd y cwmwl electronau yn lleihau wrth fynd yn bellach o’r niwclews.
Mae’r cwmwl electronau ar siap sffer, gyda dim electronau rhwng yr ionau.
Pam ydy’r cationau a’r anionau mewn bond ionig wedi’u trefnu fel bod pob anion wedi’i amgylchynu a nifer penodol o gationau ac i’r gwrthwyneb?
I sicrhau cymaint a phosibl o atyniad a chyn lleied a phosibl o wrthyriad.
Beth yw y grymoedd atyniadol a beth yw’r grymoedd gwrthyrru?
Atyniadol: Grymoedd rhwng yr ionau positif a negatif.
Gwrthyrru: Gwrthyriadau rhwng yr ionau o’r un wefr, rhwng plisg mewnol electronau yn yr ionau ac, i raddau llai, rhwng y niwclysau positif.
Beth ydy’r union cydbwysedd rhwng yr holl rymoedd hyn yn penderfynu?
Pa mor agos y gall cationau ac anionau agosau at ei gilydd.
Beth yw bondio cofalent?
Pan mae dau atom yn agosau at ei gilydd, gall eu horbitalau gorgyffwrdd ac maent yn cyfuno i ffurfio un orbital moleciwlaidd allan o’r ddau orital atomig.
Yn wreiddiol roedd un electron yr un yn yr orbitalau, ond maent yn ffurfio orbital gyda dau electron h.y orbital llawn.
Beth sy’n anghenreidiol ar gyfer bondio cofalent?
Mae’n rhaid fod gan yr electronau sbiniau dirgroes, gan eu bod yn yr un orbital.
Pryd ydy bondiau dwbl yn ffurfio?
Os bydd angen dau electron ar atom.
Er mwyn ffurfio’r bond dwbwl rhaif i ddau bar o orbitalau gorgyffwrdd i ffurfio dau orbital moleciwlaidd.
Dim ond un o’r rhain all fod yn orbital O (sigma), ac mae’r ail orbital moleciwlaidd yn orbital pi a ffurfir o ddau orbital p yn gorgyffwrdd i’r ochr.
Beth yw priodweddau bondiau pi?
Wannach na bond sigma, gan fod y gorgyffwrdd yn llai effeithiol ac nid yw’r dwysedd electronau rhwng y ddau niwclews.
Maent yn torri’n haws yn ystod adweithiau, ac felly ble bynnag bydd bond dwbl yn adweithio, y bond pi sy’n torri ac nid y bond o.
Beth ydy cyfuniad o orbitalau s a p yn ffurfio?
Orbital moleciwlaidd o.
Beth ydy cyfuniad o ddau orbital p yn ffurfio?
Orbital moleciwlaidd o.
Beth yw bondiau cyd-drefnol?
Ffurfio bond cofalent o bar o electronau rhanedig gyda’r dau electron yn dod o’r un atom.
Dangosir y bond cyd-drefnol fel saeth ac nid llinell, gyda phen y saeth yn pwyntio tuag at yr atom sy’n derbyn y par o electronau.
Beth yw esiampl o fond cyd-drefnol?
Y bondiau yn yr ion amoniwm - mae’r par o electronau yn dod o’r atom nitrogen, heb unrhyw electronau’n dod o’r ion hydrogen.
Sut ydym yn ffurfio bond cyd-drefnol?
> Rhaid bod gan un atom par o electronau yn y plisgyn allanol sydd heb eu defnyddio mewn bond, sef par unig.
Rhaid bod diffyg electronau yn un atom (mae’n electron-diffygiol) - mae ganddo llai nag wyth electron yn ei blisgyn allanol.
Mewn bond cyd-drefnol, mae par o electronau yn cael eu rhannu rhwng dau atom, gyda’r ddau electron yn dod o’r un atom.
Beth ydy alwminwm clorid yn wneud er mwyn ffurfio plisgyn allanol llawn?
(Beth yw deumer?)
Mae’r moleciwl yn ffurfio deumer wedi cysylltu gan ddau fond cyd-drefnol.
> Deumer yw moleciwl sy’n ffurfio o ddau foleciwl llai wedi’u huno gyda’i gilydd.
> Caiff par o electronau o atom clorin eu rhannu gydag alwminiwm electron-diffygiol i greu plisgyn allanol llawn yn yr alwminiwm.
> Caiff par unig o electronau o’r atom clorin arall eu rhannu gyda’r alwminiwm arall i greu plisgyn allanol llawn yn yr ail alwminiwm.
Pryd ydym yn dweud fod gan yr atomau electronegatifedd wahanol?
Pan fo’r atomau yn wahanol, gall un atom denu ato’i hun gyfran fwy o’r dwysedd electronau.