Cemeg 2.5 Cyfansoddion Organig Flashcards
Beth yw manteision defnyddio tanwyddau ffosil?
> Ar gael trwy’r amser
Ar gael mewn amrywiaeth o ffurfiau - gelli’r dewis yr un gorau ar gyfer defnyddiau gwahanol.
Beth yw anfanteision defnyddio tanwyddau ffosil?
> Adnewyddadwy
Hylosgi yn cynhyrchu nwyon ty gwydr
Hylosgi yn cynhyrchu sylffwr deuocsid nitrogen sydd yn ffurfio glaw asid.
Ffurfio carbon monocsid - hylosgiad anghyflawn.
Beth yw fformiwla arferol alcanau?
CnH2n+2.
Beth yw bond sigma?
Mae pob atom carbon wedi bondio i bedwar bond sengl cofalent.
Pa fath o ardal yw bond sigma?
Ardal lle mae dau orbital s a p yn gorgyffwrdd, ac mae croesrywedd yn digwydd.
Beth ydy ‘s a p’ ac ‘p a p’ yn ffurfio?
Orbital sigma moleciwlaidd.
Beth yw ymholltiad homolyotig?
Pan fydd bond yn torri a phob atom yn y bond yn derbyn un o electronau’r bond.
Ffurfio 2 radical.
Beth yw Radical?
Rhywogaeth sydd ag un electron heb ei paru.
Beth yw ymholltiad heterolytig?
Pan fydd bond yn torri ac mae un atom yn y bond yn derbyn y ddau electron o’r bond.
Beth yw Halogeniad?
Adwaith ag unrhyw halogen.
Beth yw cam 1 halogeniad?
Cam 1 - Adwaith cychwynnol - adwaith sy’n dechrau’r broses.
> Caiff alcanau eu clorineiddio ym mhresenoldeb golau uwchfioled.
> Mae ffoton o olau yn achosi i’r moleciwl clorin ymhollti’n homolytig.
Beth yw’r fformiwla dechreuol?
Cl2 + hf = 2Cl.
Beth yw cam 2 halogeniad?
Lledaeniad - adwaith sy’n peri i’r broses barhau/tyfu.
> Cl + CH4 = CH3 + HCl.
> CH3 + Cl2 = CH3CL + Cl
Beth yw cam 3 haogeniad?
Terfyniad - adwaith sy’n terfynu/gorffen y broses.
> CH3 + CH3 = C2H6.
> CH3 + Cl = CH3Cl.
Beth yw’r alcenau?
Gyfres homologaidd annirlawn o hydrocarbonau sydd yn cynnwys bond dwbk rhwng atomau carbon.
Beth yw fformiwla cyffredinol alcenau?
CnH2n.
Beth ydy’r bond dwbwl mewn alcenau yn cynnwys?
Bond sigma a bond pi rhwng yr atomau carbon.
Beth yw’r onglau bond?
Beth ydy orbital Pi yn golygu?
120 gradd.
Mae dwysedd electronau uchel uwchben ac islaw y moleciwl.
Beth sydd gan alcenau?
Par o electronau mewn orbital p sy’n gwneud yn agored i ymosodiad gan electroffil.
Beth yw electroffil?
Rhywogaeth sy’n electron diffygiol sy’n gallu derbyn par unig o electronau.
Beth ydy saeth cyrliog yn dangos?
Symudiad par o electronau.
Beth ydy’r adwaith yn ffurfio?
Halogenoalcan.
Beth sy’n digwydd os yw’r moleciwl yn amholar?
Deupol yn cael ei anwytho gan y wefr negatif.
Beth yw’r prawf ar gyfer adnabkd bond dwbl carbon-carbon?
Bromin (colli ei liw)
Oren i di liw.
Beth yw priodweddau carbocationau cynradd?
Ar ben y cadwyn.
Ion positif.
Beth yw priodweddau carbocationau eilaidd?
2 carbon wedi bondio ato.
Beth yw priodweddau carbocationau trydyddol?
3 carbon wedi’i bondio ato.
Beth yw’r trefn sefydlogrwydd y carbocationau?
Trydyddol>Eilaidd>Cynradd.
Beth ydy’r effaith anwythol yn disgrifio?
Y graddau y bydd electronau yn cael eu tynnu wrth yr atom carbon, neu’n cael eu gwthio tuag ato, gan yr atomau neu’r grwp y mae wedi bondio a nhw.
Beth yw Hydrogenaidd Catalytig?
> Adio hydrogen.
Alcen —> Alcan.
Bond dwbwl yn cael ei dorri.
Beth sy’n digwydd i hydrogen ar dymheredd ystafell?
Adio at fond dwbl carbon-carbon pan fydd catalydd platinwm neu baladiwm yn bresennol.
Pa fath o catalydd sy’n cael ei defnyddio?
Catalydd nicel gan ei fod yn rhataf, ond mae angen tymheredd uchel hyd at 300c ar gyfer gynhaliad (sustainment).
Beth ydy potasiwm manganad yn wneud i alcenau?
Ocsidio.
Beth ydy potasiwm manganad yn cael ei ddefnyddio am?
Ffordd o brofi am alcen trwy chwilio am newid lliw.
Troi o borffor i di-liw.
Ffurfio deuol
Beth yw polymeriad?
Cyfuniad nifer mawr iawn o foleciwlau o’r enw monomerau gan ffurfio moleciwl mawr o’r enw polymer.
Beth yw polymer adio?
Ble mae’r bond dwbl yn cael ei ddefnyddio i uno’r monomerau a does dim yn cael ei ddileu.
Beth ydy polypropen yn cael ei ddefnyddio ar gyfer?
Cynwysyddion bwyd a chynwysyddion eraill fel powlenni cymysgu a bwcedi.
Gallu gwrthsefyll tymhereddau uchel, felly gallwn defnyddio mewn offer ysbytai, sy’n gallu cael eu diheintio.
Sut ydy polycloroethan (PVC) yn cael ei ffurfio?
Polymeriad adio radical rhydd.
Y monomer yw cloroethan neu finyl clorid a’r polymer yw polyfinylclorid.
Beth ydy priodweddau PVC a beth ydy’n cael ei ddefnyddio ar gyfer?
> Solid anhyblyg.
Gellir addasu ei briodweddau trwy adio cemegau eraill.
Gallu wneud e’n ddigon meddal i wneud ffilmiau a lledr artiffisial.
Gwneud defnydd ynysu ceblau, pibellau, ffitiadau a defnydd pecynnu.
Beth yw monomer ffenylethen?
Hylif di-liw anweddol.
Beth ydy’r polymer yn cael ei wneud o?
Plastig caled, cyffredin.
Ble ydy polystyren yn cael ei ddefnyddio?
> Teganau
Rhigolau offer trydanol fel cyfrifiaduron ac offer cegin.
Cydrannau ceir.
Sut ydych yn creu polystyren ehangedig?
Chwythu nwy trwy’r defnydd tawdd ac mae’n gyfarwydd fel defnydd pecynnu.
Pam ydy polymerau yn bwysig yn economaidd?
Gan eu bod nhw’n defnyddiau defnyddiol ym mywyd bob dydd.
Beth ydy polymerau wwedi wneud o?
Olew crai sydd yn anadnewyddadwy ac yn deunydd prin.
Llawer o ymchwil yn cael ei wneud mewn i ddatblygu deunyddiau fwy cynaliadwy.
Beth yw’r tri ffordd cynaliadwy i gwaredu polymerau yn hytrach na’u llosgi neu eu claddu?
> Gwahanu nhw mewn i’r gwahanol fathau o bolymerau a’u hailgylchu.
Llosgi nhw mewn gorsaf pwer a defnyddio’r egni sydd yn cael ei rhyddhau i gynhyrchu trydan.
Cracio nhw i gynhyrchu moleciwlau llai, sydd yn gallu cael eu defnyddio i wneud deunyddiau arall neu mwy o blastigion.
Beth ydy plastigau sydd yn cynnwys yr halogenau yn cynhyrchu?
Nwy niweidiol wrth eu llosgi.
Beth ydy cemegwyr yn ceisio wneud i atal hwn?
Ceisio tynnu’r nwyon niweidiol yma cyn iddynt gyrraedd yr atmosffer, trwy ychwanegu bas neu carbonad i’r simne sydd yn adweithio gyda’r nwy.
Beth arall ydy cemegwyr yn ceisio datblygu?
Polymerau sydd yn ‘biodegradable’ neu sy’n gallu cael eu compostio.