Cemeg 2.6: Halogenoalcanau Flashcards
Beth yw niwclioffil?
Rhywogaeth sydd a phar unig o electronau y mae’r gallu ei roi i rywogaeth electron diffygiol.
Beth yw’r term adio?
Adwaith lle mae adweithyddion yn cyfuno gan roi un cynnyrch.
Beth yw’r term dileu?
Colli moleciwl bach gan ffurfio bond dwbl.
Beth yw’r term amnewid?
Atom/grwp yn cael ei gyfnewid am un arall.
Beth yw’r term adlifiad?
Y proses o anweddiad a chyddwysiad di-dor.
Beth yw’r term hydrolysis?
Adwaith a dwr i gynhyrchu cynnyrch newydd.
Sut ydy hi’n bosib amnewid grwpiau mewn moleciwlau o halogenoalcanau?
Trwy ddefnyddio niwclioffilau.
Pam dydy’r mecanwaith ddim i wneud gyda radicalau tro yma?
Oherwydd mae gan halogenoalcanau ardaleodd adweithiol, megis y bond polar, C-Halogen, ac felly yn fwy adweithiol na alcanau.
Beth yw’r 2 enghraifft o adwaith a beth sy’n cael ei gynhyrchu bob tro?
R-X + H2O —> R-OH + HX
R-X + OH- —> R-OH + X-
Cynhurchu alcohol cynradd bob tro.
Beth ydy’r adwaith gyda dwr yn cael ei galw?
Hydrolysis ac mae’n araf ar dymheredd ystafell.
Beth ydy’r adwaith gyda ionau OH- yn cael ei alw?
Hydrolysis Alcaliaidd ac mae’n llawer cyflymach oherwydd bod OH- yn niwclioffil gwell na dwr.
Beth yw’r amodau ar gyfer y dau adwaith hyn?
> Digwydd ar tymheredd ystafell
Gyda hydoddiant sodiwm neu botasiwm hydrocsid.
DYSGU’R MECWNAWAITH AR GYFER ADWAITH AMNEWID GYDA OH-.
Beth sy’n ffurfio pan gaiff 1-bromobwtan ei gynhesu gyda sodiwm hydrocsid dyfrllyd?
Ffurfio bwtan-1-ol.
C4H9Br + NaOH —> C4H9OH +NaBr.
Sut ydy’r adwaith yn cael ei chynnal yn y labordy?
Gan ddefnyddio techneg o’r enw adlifo.
Beth ydy’r techneg adlifo yn oresgyn?
> Adweithiau sy’n cymryd amser.
Adweithiau ar dymhereddau uchel.
Beth ydy’r offer adlifo yn wneud o fewn y system?
Cadw’r holl hylifau ac anweddau o fewn y system ac felly yn rhoi’r cyfle i’r adweithyddion a’r cynhyrchion cyrraedd ecwilibriwm.
Beth yw adlifo gydag adiad?
Weithiau mae angen ychwanegu sylweddau yn ystod yr adwaith felly gall dwndis gael ei gysylltu i’r fflasg.
Ble mae’r adwaith hydrolysis alcaliaidd yn ddefnyddiol?
> Ffordd dda o brofi am bresenoldeb atom halogen mewn cyfansoddyn organig.
Beth ydy’r adwaith yn rhyddhau?
Beth sydd angen ystyried?
Yr ion halid X- o’r moleciwl organig ac felly gallwch brofi amdano trwy ddefnyddio’r prawf arian nitrad.
Angen ystyried electronegatifedd a cryfder bond.
Beth yw dull yr adwaith?
- Hydrolysis o’r halogenoalcan gyda bas dyfrllyd fel NaOH i ryddhau’r ion halid.
- Niwtralu unrhyw OH- sydd mewn gormodedd gan ychwanegu asid nitrig (HNO3).
- Gwresogi ac yna ychwanegu hydoddiant arian nitrad a chymharu lliw’r gwaddod.
Ychwanegu hydoddiant amonia.
1-Clorobwtan - lliw’r gwaddod a adwaith y gwaddod gyda gormodedd o amonia?
Gwyn
Hydoddi mewn amonia dyfrllyd.
1-Bromobwtan - lliw’r gwaddod a adwaith y gwaddod gyda gormodedd o amonia?
Hufen
Hydoddi mewn amonia crynodedig.
1- Iodobwtan - lliw’r gwaddod a adwaith y gwaddod gyda gormodedd o amonia?
Melyn
Anhydawdd mewn amonia.
Beth yw’r tuedd electronegatifedd?
> Lleihau wrth i faint yr halogen cynyddu.
Y mwyaf positif, yr hawsach mae’r niwclioffil yn ymosod.
Beth ydy cryfder y bond yn golygu?
Mae’n anodd i rhagfynegi y cyfradd adwaith.
Beth yw’r tuedd o rhan cyfradd adwaith?
Cyflymach= Iodo>Bromo>Cloro = Arafach.
Beth yw’r hafaliad ar gyfer adwaith dileu Hbr o bromoethan?
CH3CH2Br + NaOH —> CH2CH2 + NaBr + H2O.
Beth yw’r adweithyddion?
Halogenoalcan a NaOH crynodedig mewn ethanol (dim dwr yn bresennol).
Beth yw’r amodau?
Gwresogi.
Pam ydy’r adwaith yn ddefnyddiol?
Mae’n ffordd dda o gyflwyno bond dwbl C=C i’r moleciwl.
Beth ydy’r math o halogen yn effeithio ar?
Ba mor rhwydd yw hydrolysu halogenoalcanau mewn adwaith amnewid niwclioffilig.
Beth yw’r dau ffactor i ystyried?
Polaredd y bond a chryfder y bond.
Beth yw’r bond sydd fwyaf tebygol o dorri a ffurfio ionau?
Electronegatifedd yn lleihau wrth mynd lawr grwp felly’r bond fwyaf polar, felly C-C I.
Beth yw’r bond cryfaf?
C-Cl gan fod ei enthalpi yn uwch na C-Br a C-I ac felly’r bond C-Cl yw’r un anoddad i’w dorri.
Beth ydy Clorofflworocarbonau (CFCau)?
Halogenoalcanau sy’n cynnwys sgerbwd o atomau carbon gydag atomau fflworin a chlorin wedi’u bondio i’r sgerbwd carbon.
dinistrio’r haen oson ac felly yn cyfrannu i gynhesu byd eang a’r cynnydd mewn cancr y croen yn y byd.
Beth ydym yn galw yr effaith hyn?
Darwagiad oson.
Beth yw defnydd CFCau dros y flynyddoedd?
> Rhewyddion mewn oergelloedd
Hydoddyddion
Diffoddyddion tan.
Beth yw 2 priodwedd o CFCau?
Sefydlog iawn yn gemegol
Gallu parhau i fodoli yn yr atmosffer am lawer o flynyddoedd.
Beth ydy’r haen oson yn wneud?
Amddiffyn y ddaear o belydrau uwchfioled niweidiol sy’n gallu arwain at gancr y croen.
Sut mae CFCau yn dinistrio’r oson?
> CFC yn cael ei ffotolysu gan olau uwchfioled yn y stratosffer.
Mae’r golau uwchfioled yn darparu’r egni angenrheidiol i hollti’r bond C-Cl yn homolytig gan ffurfio radicalau adweithiol iawn.
Dyma’r adwaith cychwynnol.
Beth yw’r ail rhan i CFCau yn dinistrio’r oson?
Radicalau yn ymosod ar oson gan ffurfio radicalau eraill.
Radical rhydd CIO yn gallu adweithio mewn nifer o ffyrdd ac mae rhai o’i adweithiau yn ail-gynhyrchu’r radical Cl.
Beth yw’r fformiwlau ar gyfer yr adwaith?
CCl2F2 —> CCl.F2 + Cl.
O3 + Cl. —> O2 + ClO.
ClO. + O3 —> 2O2 + Cl.
Pa fath o adwaith sy’n digwydd?
Adwaith gadwynnol - Radical yn adweithio i gynhyrchu radicalau arall.
Beth sy’n dylanwadu ar effaith y cyfansoddion CFCau ar yr haen oson?
Cryfder y bond C-Halogen.
Beth yw trefn cryfder y bondiau?
Cryfach = C - F
C - H
C - Cl
C - Br
Gwanach = C - I
Pam does dim ymholltiad yn achos y bond C - F neu C- H?
Mae’r bondiau yn rhy gryf ac nid oes ddigon o egni gan y golau uwchfioled er mwyn eu ymhollti.
Beth ydy golau uwchfioled yn ddigon egniol i achosi ymholltiad o?
Bondiau C-Cl, C-Br a C-I.
Pa bondiau felly sydd yn dinistrio’r oson?
Bondiau C-Cl, C-Br a C-I.
Pam ydym yn defnyddio HFCau yn hytrach na CFCau e.e mewn oergellau?
Oherwydd nid oes bondiau C-Cl y y moleciwl.
Pa bondiau sydd gan HFCau?
Bondiau C-H a C-F yn unig sydd yn gryfach ac yn annhebygol o dorri yn y stratosffer i ffurfio radicalau rhydd.
Beth yw enghraifft, mantais ac anfantais o Hydoddyddion?
CCl4
M= Hydoddi olew
A= Niweidio’r system nerfol
Beth yw enghraifft, mantais ac anfantais o Anaesthetig?
CHCl3
M= Priodweddau anesthetig ar y corff
A= Clorofform ddim yn cael ei ddefnyddio bellach oherwydd ei natur wenwynig i’r afu
Beth yw enghraifft, mantais ac anfantais o Rhewyddion?
CCl2F2
M= Troi yn hylif yn hawdd o dan wasgedd, anadweithiol
A= Adwaith ffotolysu gyda oson yn achosi darwagiad a chynnydd yn canser y croen.