Cemeg 1.6 Tabl Cyfnodol Flashcards
Beth yw electronegatifedd?
Tueddiad unrhyw elfen i dynnu dwysedd electronau mewn bond cofalent.
Beth yw egni ioneiddiad?
Yr egni anghenrheidiol i dynnu 1 mol o electronau o 1 mol o atomau yn y cyflwr nwyol.
Beth sy’n digwydd wrth i electronegatifedd cynyddu?
E.I hefyd yn cynyddu.
Pryd ydy tymhereddau ymoddi yn cynyddu?
Ar draws gyfnod i gyrraedd uchafswm yn grwp 4.
Pryd ydy tymhereddau ymdoddi yn lleihau?
Lleihau’n sylweddol trwy’r anfetelau.
Beth sy’n digwydd ar gyfer elfennau grwp 7?
Mae’r ymdoddbywnt yn cynyddu i lawr y grwp.
Beth yw 4 priodwedd i elfennau bloc s?
> I gyd yn fetelau ac yn perthyn i grwp 1 neu 2.
Maent yn elfennau electropositif sydd yn golygu bod ganddynt electronegatifedd isel.
Ffurfio ionau positif mewn cyfansoddion ionig gyda gwefr sy’n cyfateb i rhif y grwp.
Beth ydy metelau grwp 1 a 2 yn gwneud gyda dwr oer?
Adweithio a dwr oer.
Adweithedd yn cynyddu wrth mynd lawr y grwp.
Metelau grwp 1 yn dueddol o fod yn fwy adweithiol na metelau grwp 2 gyda dwr.
Beth ydy’r adwaith gyda metelau grwp 1 a 2 gyda dwr yn ffurfio?
Metel hydrocsid ac yn rhyddhau nwy hydrogen H2 (heblaw am Magnesiwm).
Beth yw yr eithriad i’r rheol hyn?
Magnesiwm - mae’n adweithio’n araf iawn gyda dwr oer.
Felly mae’n adweithio gyda stem yn llawer gyflymach i ffurfio Magnesiwm Ocsid a Hydrogen, sy’n cynnu mewn aer.
Beth yw’r fformiwla ar gyfer yr adwaith rhwng Magnesiwm a dwr?
Mg(s) + H2O —> MgO(s) + H2.
Beth ydy metelau grwp un yn ffurfio wrth adweithio ag asidau?
Sut ydy’r adweithedd yn cynyddu?
Adweithio’n ffyrnig ag asidau i ffurfio halwyn a nwy hydrogen.
Adweithedd yn cynyddu wrth mynd i lawr y grwp ac mae elfennau grwp 1 yn adweithio’n fwy ffyrnig na grwp 2.
Beth ydy adweithiau grwp 1 a 2 gyda ocsigen yn ffurfio?
Cynhyrchu metel ocsid.
Beth yw priodweddau ocsidau?
> I gyd yn fasig.
Os ydynt yn hydoddi mewn dwr maent yn ffurfio hydrocsidau (alcali) neu maent yn adweithio ag asidau i ffurfio halwyn a dwr.
Beth yw priodweddau halwynau metelau grwp 1?
I gyd yn hydawdd.