uned 2.5 - cemeg organig Flashcards
hefyd gyda set papur
beth yw’r fformwila gyffredinol am alcanau?
CnH2n+2
sut disgrifir y bondio mewn alcanau?
-pob atom carbon wedi bondio i 4 bond sengl cofalent (bondiau sigma)
nodwch 3 math o adweithiau alcanau
-ymholltiad heterolytig
-ymholltiad homolytig
-halogeniad
beth yw ymholltiad homolytig?
pan fydd bond cofalent yn torri a phob atom yn y bond yn derbyn un o electronau’r bond sy’n ffurfio 2 radical
beth yw radical?
rhywogaeth ag electron heb eu paru
beth yw ymholltiad heterolytig?
pan fydd bond cofalent yn torri ac mae un atom yn y bond yn derbyn y ddau electron o’r bond
beth sy’n digwydd yn ystod cam un o halogeniad?
-caiff alcanau eu clorineiddio ym mhresenoldeb golau uwchfioled
-ffoton o olau yn achosi’r moleciwl clorin ymhollti’n homolytig
beth yw’r hafaliad am gam un o halogeniad?
Cl2 + hf –> 2Cl*
beth yw enw cam 2 halogeniad?
lledaeniad
beth sy’n digwydd yn ystod cam 2 o halogeniad?
2 radical newydd yn cael ei ffurfio
beth sydd wastad yn rhwygo’r hydrogen yn ystod cam 2 halogeniad?
halogenau
beth yw enw cam 3 halogeniad?
terfyniad
beth sy’n digwydd yn ystod cam 3 o halogeniad?
-terfynu/gorffen y broses
-dewis unrhyw dau radical o’r camau blaenorol a’u adweithio
beth yw fformiwla gyffredinol alcenau?
CnH2n
sut disgrifir y bondio mewn alcenau?
-bond dwbl yn cynnwys bond sigma a pi
-ardal o ddwysedd electronau uchel uwchben ac islaw’r moleciwl
-trigonol planar
-onglau bond 120 gradd
beth yw electroffil?
rhywogaeth sy’n electron diffygiol sy’n gallu derbyn par unig o electronau
beth yw newid lliw Bromin wrth profi am alcenau?
oren –> di-liw
beth yw trefn sefydlogrwydd carbocationau?
trydyddol>eilaidd>cynradd
pa catalyddion ychwanegir ar dymheredd ystafell i wneud hydrogenaid catalytig?
Platinwm (Pt) neu Paladiwm (Pd)
pa catalydd gellir defnyddio am hydrogeniad catalytig sy’n rhatach?
Nicel
beth yw’r anfantais o ddefnyddio catalydd nicel am hydrogeniad catalytig?
angen tymheredd o 300 gradd C am gynhaliad
beth yw’r newid lliw mewn prawf potasiwm manganad am alcenau?
porffor –> di-liw
beth yw catalydd heterogenaidd?
catalydd sydd yn cyflwr ffisegol gwahanol i’r adweithyddion
beth yw catalydd homogenaidd?
catalydd sydd yn yr un cyflwr ffisegol a’r adweithyddion
beth yw polymeriad?
cyfuniad nifer mawr iawn o foleciwlau o’r enw monomerau gan ffurfio moleciwl mawr sef polymer
beth yw polymer adio?
ble mae’r bond dwbl yn cael ei ddefnyddio i uno’r monomerau a does dim yn cael eu dileu
beth defnyddir Poly(propen) am?
-cynhwysion bwyd
-powlenni cymysgu
-bwcedi
beth defnyddir Poly(cloroethan) neu PVC am?
-ynysu ceblau a pibellau
sut ffurfir Poly(cloroethan) neu PVC?
polymeriad adio radical rhydd
sut ffurfir Poly(phenylethen) neu Polystyren?
polymeriad adio radical rhydd
sut defnyddir Poly(phenylethen) neu Polystyren?
-tegannau
-cydrannau plastig mewn ceir
nodwch 3 ffyrdd o wneud polymerau yn fwy cynaliadwy
-gwahanu i bolymerau a’u ailgylchu
-llosgi mewn gorsaf pwer a defnyddio’r egni a rhyddhawyd
-cracio nhw i greu moleciwlau llai mwy defnyddiol
beth ychwanegir i plastigion sy’n cynnwys yr halogenau i niwtralu’r nwy niweidiol sy’n rhyddhau wrth llosgi?
bas neu garbonad