cwestiynau anghywir o'r moc Flashcards
cwblhewch adeiledd electronig atom fanadiwm
(gyda saethau)
craidd neon
3s2
3p6
3d3
4s2
cyfrifwch nifer y molau o atomau ocsigen sydd mewn 0.5 mol o CuSO4.5H2O
4.5 mol
mae sampl o 0.717g o nwy yn llenwi 1000cm3 ar 273K ac 1 atm. cyfrifwch beth yw mas fformiwla cymharol y nwy
mr = 16.1
disgrifiwch yr adeiledd a’r bondio mewn diemwnt ac mewn graffit
mae gan pob atom carbon mewn diemwnt 4 bond cofalent ar onglau tetrahedrol
mae gan pob atom carbon mewn graffit 3 bond cofalent a ffurfio hecsagonau yn y planau
nodwch un briodwedd ffisegol sy’n gyffredin i diemwnt ac i graffit ac un sydd ddim. esboniwch y ddwy briodwedd yn nhermau’r bondio ac adeiledd
mae gan y ddau ymdoddbwyntiau uchel oherwydd adeiledd moleciwlaidd enfawr o fondiau cofalent cryf
mae’r ddau yn anhydawdd mewn dwr oherwydd eu bod nhw’n amholar
nodwch pam mae adeileddau grisial sodiwm clorid a cesiwm clorid yn wahanol
ion Na+ yn llai na’r ion Cs+ (felly gall llai o ionau Cl- bacio o’i gwmpas)
mae gan elfen Y rhif atomig sydd un yn llai nag X, ac mae gan elfen Z rhif atomig sydd un yn fwy nag X.
Gan fod egnion ioneiddiad cyntaf yn cynyddu’n gyffredinol ar draws cyfnod, mae un disgybl yn dweud:
‘Bydd egni ioneiddiad cyntaf elfen X yn uwch nag ar gyfer elfen Y ac yn is nag ar gyfer elfen Z’
Ydy e’n gywir?
disgybl yn rhannol gywir
mae X yn uwch nag Y gan fod gan X wefr niwclear fwy ond dim cysgodi ychwanegol
nid yw X yn is na Z gan fod electronau allanol Z yn cael ei gysgodi’n rhannol (ac felly’n haws i golli)
ail egni ioneiddiad sodiwm yw 4560kJmol-1.
cyfrifwch werth tonfedd mewn nm, y pelydriad sy’n cyfateb i’r newid mewn egni hyn
26.3 x 10-8
defnyddiwch eich gwybodaeth am ddamcaniaeth VSEPR i esbonio pam mae ‘y mwyaf yw nifer y bondiau mewn unrhyw foleciwl y lleiaf yw’r ongl bond’ yn anghywir. rhowch enghraifft i gefnogi’r ateb.
cyfanswm nifer y parau electronau sy’n bwysig nid dim ond y parau bondio
e.e mae ongl y bond mewn H2O yn llai na’r ongl mewn AlCl3 er bod llai o fondiau mew H2O
cyfrifwch economi atom ffurfio haearn yr adwaith hwn -
Fe2O3 (s) + 3CO (n) –> 2Fe (h) + 3CO2 (n)
rhowch eich ateb i nifer priodol o ffigyrau ystyrlon
45.8%
cyfrifwch gyfaint, mewn m3, y carbon deuocsid fyddai’n cael ei gynhyrchu pe bai 20 tunnell fetrig o haearn (III) ocsid yn cael ei rydwytho ar dymheredd o 1100 gradd C a gwasgedd o 1 atm
(Fe2O3 (s) + 3CO (n) –> 2Fe (h) + 3CO2 (n))
42460m3
mas fformiwla cymharol Na2CO3.xNaHCO.yH2O yw 226. cyfrifwch werth Y
y = 2