uned 1.7 Flashcards
beth yw diffiniad ecwilibriwm dynamig?
sefyllfa pan fydd y blaenadwaith a’r ol adwaith yn digwydd ar yr un gyfradd mewn system gaeedig
beth yw egwyddor LeChatalier?
pan fydd adwaith/system mewn ecwilibriwm cemegol yn cael ei effeithio gan newid mewn ffactor allanol (tymheredd/gwasgedd/crynodiad), bydd y system yn newid safle’r ecwilibriwm er mwyn lleihau effaith y newid hwn
sut ydy tymheredd yn cysylltu gyda egwyddor LeChatalier?
os yw’r tymheredd yn cynyddu, bydd y system yn symud i gyfeiriad yr adwaith endothermig i amsugno’r gwres a lleihau’r tymheredd
sut ydy gwasgedd yn cysylltu gyda egwyddor LeChatalier?
os yw’r gwasgedd yn cynyddu, bydd y safle ecwilibriwm yn symud i gyfeiriad y cemegion gyda’r lleiaf o folau nwyol i leihau’r gwasgedd yn y system
sut ydy crynodiad yn cysylltu gyda egwyddor LeChatalier?
os ydy crynodiad un o’r rhywogaethau yn y system yn cynyddu, bydd y system yn newid y safle ecwilibriwm i gyfeiriad fel bod y sylwedd hwnnw yn adweithio i leihau’r crynodiad eto
sut ydy catalydd yn cysylltu gyda egwyddor LeChatalier?
dim yn cael effaith ar safle ecwilibriwm , ond yn cyflymu’r amser i’r adwaith cyrraedd ecwilibriwm dynamig
ΔH positif = ecso/endo?
endothermig
ΔH negatif = ecso/endo?
ecsothermig
beth yw ystyr catalydd heterogenaidd?
cyflwr ffisegol gwahanol i’r adweithyddion
beth yw ystyr catalydd homogenaidd?
yr un cyflwr ffisegol a’r adweithyddion
ecsothermig - tymheredd yn cynyddu/lleihau?
tymheredd yn lleihau
endothermig - tymheredd yn cynyddu/lleihau?
tymheredd yn cynyddu
beth yw’r mynegiant defnyddir i fesur ecwilibriwm?
mynegiant Kc = aA + bB <> cC + dD
[C]c [D]d / [A]a [B]b
lle mae’r ecwilibriwm os yw’r Kc llawer dros 1?
mwy o gynhyrchion na adweithyddion felly ecwilibriwm i’r dde
lle mae’r ecwilibriwm os yw’r Kc llawer llai na 1?
mwy o adweithyddion na gynhyrchion felly ecwilibriwm i’r chwith
beth yw asid?
ion neu foleciwl sy’n gallu rhoi proton (H+) i fas trwy daduno
beth yw bas?
ion neu foleciwl sy’n gallu derbyn proton (H+) o asid
beth yw alcali?
bas hydawdd
metel + asid –> ____
metel + asid –> halwyn + hydrogen
asid + bas –> ____
asid + bas –> halwyn + dwr
asid + carbonad –> ____
asid + carbonad –> halwyn + dwr + carbon deuocsid
beth yw diffiniad pH?
-log10[H+]
beth yw diffiniad [H+]?
10^-pH