uned 1.2 Flashcards
beth ydy gronyn alffa?
- 2 proton a 2 niwtron
- gwefr positif
- niwclews heliwm
os gan alffa pwer treiddio ac ioneiddio uchel neu isel?
pwer treiddio isel
pwer ioneiddio uchel
pa blat ydy alffa’n cael eu atynnu ato mewn meysydd trydanol?
plat negatif
sut gallwn rhwystro alffa?
papur
beth sy’n newid i niwclews heliwm yn ystod allyriant alffa?
- rhif mas yr atom yn lleihau 4
- rhif atomig yr atom yn lleihau 2
oes gan beta pwer treiddio ac ioneiddio mwy neu llai (na alffa)
treiddio mwy
ioneiddio llai
beth ydy gronyn beta?
- electronau sy’n symud yn gyflym
- gwefr negatif
sut gallwn rhwystro beta?
5mm o alwminiwm
pa blat ydy beta yn cael ei atynnu ato mewn meysydd trydanol?
plat positif
beth ydy dadfeiliad beta?
niwtron o niwclews yr atom yn hollti i roi proton ac electron egni uchel
beth sy’n digwydd i’r rhif atomig wrth golli gronyn beta mewn dadfeiliad beta?
cynyddu
beth ydy pelydriad gama?
- pelydriad electromagnetig egni uchel
- dim gwefr
oes gan pelydriad gama pwer treiddio ac ioneiddio uchel neu isel?
pwer treiddio uchel
pwer ioneiddio isel
sut gallynt rhwystro gama?
2cm o blwm
beth yw diffiniad hanner oes?
yr amser i hanner yr atomau mewn radio isotop ddadfeilio neu’r amser y mae ymbelydredd radio isotop yn ei gymryd i ostwng i hanner ei werth wreiddiol
enwch tri defnydd o pelydriad gama
- steryllu bwyd ac offer meddygol
- steryllu gwrywod gwahanol bryfed sy’n achosi pla er mwyn lleihau ei bridio
- therapi pelydriad i ladd celloedd canser
enwch tri defnydd o isotopau ymbelydrol
- darganfod tyfiant (tiwmor) ar yr ymennydd
- darganfod rhydweliau wedi blocio
- ymchwilio i brosesau’r ymennydd
beth ydy radio-ddyddio?
defnyddio’r isotop Carbon-14 i gymharu faint ohono sydd mewn rhwybeth marw i’w gymharu a rhywbeth byw er mwyn dyddio pryd farwodd.
(achos ar ol marw ni ellir amsugno carbon-14 felly’r niferoedd yn lleihau wrth dafeilio trwy hanner oes)
sut defnyddir radio-ddyddio?
engreifftiau penodol nid esboniad
- dyddio creigiau
- rhew dwfn
- symudiadau’r cefnforoedd
- arteffactau a gweddillion archeolegol
- mecanweithiau cemegol
- adnabod gwaith arlunio ffug
beth ydy tracers ymbelydrol?
labelu moleciwlau gyda atom ymbelydrol i ddilyn ei symudiad trwy system e.e y corff
beth yw pedair effaith o ymbelydredd ar y corff?
- egni uchel yr allyriadau ymbelydrol yn torri’r bondiau cemegol yn moleciwlau’r celloedd
- dognau ymbelydredd cryf yn lladd celloedd
- dognau ymbelydredd llai yn achosi gostyngia yn y cyfradd tyfu, mwtaniadau a ffurfio celloedd canseraidd
- achosi difrod difrifol i’r DNA
beth ydy diffiniad orbitalau atomig?
rhan mewn atom sy’n dal hyd at dau electron gyda sbiniau dirgroes
beth ydy diffiniad egni ioneiddiau cyntaf molar?
yr egni sydd angen i dynnu un mol o electronau o un mol o atomau nwyol
beth ydy diffiniad egni ioneiddiad olynol?
yr egni sydd angen i dynnu pob electron yn ei dro nes bod yr electronau i gyd wedi’i tynnu o atom
ydy electronau yn llenwi’r orbitalau gyda’r lefel egni isaf neu uchaf yn gyntaf
isaf yn gyntaf sef agosaf at y niwclews
faint o electronau ydy pob orbital yn dal?
2 electron gyda sbiniau dirgroes
pa fath o sbin sydd gan yr electronau yn yr orbitalau?
sbiniau dirgroes
pa is lefel sy’n dal 2 electron a pham?
is lefel S achos mae’n cynnwys un orbital
pa is lefel sy’n dal hyd at 6 electron a pham?
is lefel P achos mae’n cynnwys 3 orbital
pa is lefel sy’n cynnwys hyd at 10 electron a pham?
is lefel D achos mae’n cynnwys 5 orbital
pa is lefel sy’n cynnwys hyd at 14 electron a pham?
is lefel F achos mae’n cynnwys 7 orbital
beth yw’r trefn o lefelau ac is lefelau egni?
1S
2S 2P
3S 3P
4S
3D
beth sy’n ffurfio pan mae atom yn colli electron?
ion positif
beth yw’r hafaliad ar gyfer egni ioneiddiad cyntaf molar?
X(n) → X’+(n) + e’-
‘ = dylai’r symbol fod ar dop dde yr elfen (fel gwefr)
pa cyflwr ydy’r elfennau mewn egni ioneiddiad molar?
cyflwr nwyol
beth yw’r hafaliad ar gyfer egni ail ioneiddiad molar?
X’+(n) → X’2+(n) + e’-
wrth ystyried egni ioneiddiad cyntaf, ydy’r egni ioneiddiad yn cynyddu neu lleihau wrth fynd lawr grwp?
lleihau
e.e Li i Na i K
beth yw’r tair ffactor sy’n effeithio gwerth egni ioneiddiad?
- pellter yr electron allanol o’r niwclews
- gwefr niwclews yn cynyddu wrth i atyniad yr electron pellaf cynyddu
- effaith cysgodi’r electronau mewnol
ffactorau gwerth egni ioneiddiad
esboniwch y ffactor ‘pellter yr electron allanol o’r niwclews’
wrth i’r pellter cynyddu mae’r atyniad niwclews positif at yr electron negatif yn lleihau felly gwerth yr egni ioneiddiad yn lleihau
ffactorau gwerth egni ioneiddiad
ydy’r egni ioneiddiad yn cynyddu neu lleihau wrth ystyried bod y gwefr niwclews yn cynyddu wrth i atyniad yr electron pellaf cynyddu?
egni ioneiddiad yn cynyddu
ffactorau gwerth egni ioneiddiad
esboniwch y ffactor ‘effaith cysgodi’r electronau mewnol’
mae’r electronau yn y plisgynau mewnol yn cysgodi’r rhai allanol o’r wefr niwclear felly’r egni ioneiddiad yn lleihau. y mwyaf o blisgynau sydd, y fwyaf o gysgodi
pam ydy cysgodi rhannol yn digwydd?
(enghraifft gyda Boron a Beryliwm)
er bod gan boron mwy o wefr, mae’r electron allanol mewn is-blisgyn 2P yn bellach o’r niwclews ac felly’n cael ei gysgodi’n rhannol o’r wefr niwclear gan yr electronau yn yr is-blisgyn 2S, ac felly’n haws ei dynnu
pam ydy egni ioneiddiad wastad yn cynyddu?
- gwefr niwclear effeithiol fwy gan fod yr un nifer o brotonau ond llai o electronau
- wrth i bellter pob electron o’r niwclews lleihau, mae’r atyniad yn cynyddu
- wrth i bob electron cael ei dynnu mae llai o wrthyrriad electron - electron
beth yw’r hafaliad egni?
E = hf
h = cysonyn planc
f = amledd
wrth i’r amledd cynyddu, mae’r egni’n cynyddu
beth yw’r hafaliad buanedd golau?
C = fλ
f = amledd
λ = tonfedd
wrth i’r amledd cynyddu mae’r tonfedd yn lleihu
beth yw’r sbectrwm di-dor?
amrediad di-dor o donfeddi
pam a elwir yn sbectrwm allyrru?
pan mae electronau yn symud yn ol i lefel egni is, rhyddheir egni ar ffurf pelydriad
beth ydy ystyr y llinellau mewn sbectrwm allyrru?
pob llinell yn cyfateb i drosiad egni penodol o un lefel egni i’r llall
pam a elwir yn sbectrwm amsugno?
pan mae pelydriad electromagnetig yn cael ei basio drwy sampl elfen yn y cyflwr nwyol, mae’r electronau’n amsugno rhai tonfeddi.
felly bydd y pelydriad yn pasio drwyddo gyda rhai tonfeddi ar goll, sy’n ymddangos fel bandiau tywyll
beth ydy’r sbectrwm allyrru yn edrych fel?
cefndir du gyda llinellau lliwgar
beth ydy’r sbectrwm amsugno yn edrych fel?
cefndir lliwgar gyda llinellau du
pa lefel egni ydy’r electronau yn gostwng i yn y cyfres balmer?
n = 2
beth ydy’r llinellau yn y cyfres balmer yn cyfateb i?
trosiadau sy’n amsugno/allyrru cwanta yn y rhanbarth gweladwy
pa lefel egni ydy’r electronau yn gostwng i yn y cyfres lyman?
n = 1
beth ydy n = 1 yn hafal i a pham?
n = 1 –> n = ∞
mae nhw’r un pellter felly’r un tonfedd