uned 2.1 - egnieg Flashcards
beth yw adwaith ecsothermig?
adwaith sy’n rhoi allan egni fel gwres
beth yw adwaith endothermig?
adwaith sy’n amsugno egni fel gwres
beth yw ystyr newid enthalpi adwaith? (beth yw’r symbol ∆H yn cynrhychioli)
y newid yn yr egni cemegol
beth yw’r newid egni os ydych yn torri bondiau?
positif
ydy torri bondiau yn endothermig/ecsothermig?
endothermig
beth yw’r newid egni os ydych yn ffurfio bondiau?
negatif
ydy ffurfio bondiau yn endothermig/ecsothermig?
ecsothermig
beth yw diffiniad enthalpi bond cyfartalog?
y cyfartaledd o’r egni sydd ei angen i dorri bond penodol mewn cannoedd o gyfansoddion cyffelyb/tebyg yn y cyflwr nwyol
beth yw’r hafaliad i gyfrifo newid enthalpi?
∆H = adweithyddion - cynhyrchion
beth yw diffiniad newid enthalpi molar safonol? ΔH°
newid egni sy’n digwydd pan fo meintiau molar o adweithyddion yn eu cyflyrau safonol yn adweithio o dan amodau safonol
beth yw ystyr cyflwr safonol?
cyflwr arferol y sylwedd o dan amodau safonol
beth yw amodau safonol newid enthalpi molar safonol?
tymheredd 298K
crynodiad o 1 moldm-3 am bob hydoddiant
gwasgedd 100kPa neu 1 atmosffer am nwyon
beth yw diffiniad enthalpi ffurfiant molar safonol? ΔH°ff
newid enthalpi pan caiff un mol o sylwedd yn ei gyflwr safonol ei greu allan o’i elfennau yn eu cyflyrau safonol o dan amodau safonol
beth yw enthalpi ffurfiant unrhyw elfen yn ei gyflwr safonol?
sero
beth yw diffiniad enthalpi hylosgiad molar safonol? ΔH°hyl
newid enthalpi pan fo un mol o sylwedd yn ei gyflwr safonol yn adweithio’n gyfan gwbl gyda nwy ocsigen o dan amodau safonol
beth yw’r hafaliad i gyfrifo newid enthalpi ffurfiant? ΔH°
ΔH° = cynhyrchion - adweithyddion
beth yw diffiniad deddf hess?
os gellir adwaith digwydd trwy fwy nag un llwybr, bydd y newid egni yn hafal ar gyfer pob llwybr gwahanol
pa hafaliad defnyddir i gyfrifo hylosgiad gyda cylchredau egni?
hylosgiad = adweithyddion - cynhyrchion
pa hafaliad defnyddir i gyfrifo ffurfiant gyda cylchredau egni?
ffurfiant = cynhyrchion - adweithyddion