cemeg organig - diffiniadau Flashcards
isomeredd adeileddol
cyfansoddion gwahanol sydd a’r un fformiwla foleciwlaidd ond fformiwla adeileddol gwahanol
isomeredd E-Z
dyma isomeredd mewn alcenau, sy’n bodoli oherwydd bod cylchdroi o amgylch y bond dwbl rhwng atomau carbon yn cael ei atal gan y bond pi
radical
rhywogaeth sydd ag electron heb eu paru
ymholltiad homolytig
pan fydd bond yn torri a phob atom yn y bond yn derbyn un o electronau’r bond
ymholltiad heterolytig
pan fydd bond yn torri ac mae un atom yn y bond yn derbyn y ddau electron o’r bond i ffurfio ionau
electroffil
rhywogaeth sydd ag electron diffygiol sy’n gallu derbyn par unig o electronau
saeth dau ben
mae saeth gyrliog yn dangos symudiad par o electronau
niwcleoffil
rhywogaeth sydd a par unig o electronau y mae’n gallu ei rhoi i rywogaeth electron diffygiol
adio
adwaith lle mae adweithyddion yn cyfuno gan roi un cynnyrch
dileu
colli moleciwl bach gan ffurfio bond dwbl
amnewid
atom/grwp yn cael ei gyfnewid am un arall
adlifiad
proses o anweddiad a chyddwysiad di-dor
hydrolysis
adwaith a dwr i gynhyrchu cynnyrch newydd