uned 2.4 - cemeg organig Flashcards
pa bondiau ydy cyfansoddion organig yn cynnwys?
carbon-hydrogen
beth yw prif ffynhonnellau cyfansoddion organig?
pethau fyw neu pethau sydd wedi deillio o ffynhonnellau byw
meth = __ carbon
1
eth = __ carbon
2
prop = __ carbon
3
bwt = __ carbon
4
pent = __ carbon
5
hecs = __ carbon
6
ydy bondiau sengl carbon-carbon yn alcen/alcan?
alcan
ydy bondiau dwbl carbon-carbon yn alcen/alcan?
alcen
beth yw enw’r grwp alcyl CH3?
methyl
beth yw enw’r grwp alcyl CH3CH2?
ethyl
beth yw enw’r grwp alcyl CH3CH2CH2?
propyl
beth yw enw’r grwp alcyl CH3CH2CH2CH2?
bwtyl
beth yw fformiwla gyffredinol alcan?
Cn+H2n+2
beth yw fformiwla gyffredinol alcen?
CnH2n
sut ydy enw cyfansoddyn yn gorffen os yw’n cynnwys alcohol?
-ol
pa grwp gweithredol byddai cyfansoddyn yn cynnwys os yw’n alcohol?
OH
pa grwp gweithredol byddai cyfansoddyn yn cynnwys os yw’n asid carbocsylig?
COOH
beth yw’r templed wrth enwi cyfansoddyn sy’n cynnwys asid carbocsylig?
asid ___oig
pa rhif carbon ydy’r carbon mewn COOH yn cael ei gyfri fel mewn gadwyn?
1
beth ydy fformiwla foleciwlaidd yn dangos?
dangos yr atomau a nifer o bob math sydd mewn moleciwl o gyfansoddyn. bob atom o’r un elfen yn cael eu grwpio gyda’ gilydd
beth ydy fformiwla fyrrach yn dangos?
dangos y grwpiau sydd yn y moleciwl mewn digon o fanylder i ddadansoddi ei strwythr
beth ydy fformiwla graffig yn dangos?
dangos sut mae’r atomau’n cael ei trefnu o fewn moleciwl
beth ydy fformiwla sgerbydol yn dangos?
dangos y grwpiau gweithredol yn unig
pa grymoedd sydd gan hydrocarbonau?
grymoedd VDW gwan
beth sy’n digwydd i ferwbwynt cyfansoddion organig wrth i hyd y gadwyn cynyddu?
cynyddu
beth sy’n digwydd i hydoddedd hydrocarbonau wrth cynyddu’r cadwyni mewn moleciwlau organig?
lleihau
beth yw diffiniad isomeredd adeiledol?
cyfansoddion gwahanol sydd a’r un fformiwla foleciwlaidd ond fformiwla adeileddol gwahanol
ydy isomeredd E-Z yn digwydd mewn alcanau neu alcenau?
alcenau
pam ydy isomeredd E-Z yn bodoli?
achos bod cylchdroi o amgylch y bond dwbl rhwng atomau o garbon yn cael eu atal gan y bond pi
beth sy’n achosi’r isomeredd E-Z?
arddwysedd electronau uwchben ac o dan y bond
pa elfen sydd gyda blaenoriaeth mewn isomeredd E-Z?
yr elfen sydd wedi bondio yn uniongyrchol i un o’r carbon gyda’r rhif atomig uchaf
sut gallwn cofio beth yw E a beth yw Z mewn isomeredd E-Z? (dywediad)
Zee Zame ZIde
beth yw priodweddau isomerau E?
-gallu ffitio yn agosach
-grymoedd rhyng-foleciwlaidd cryfach
-tymeredd ymdoddi uwch
beth yw trefn blaenoriaeth grwpiau gweithredol? (cynnwys 5 grwp)
mwy pwysig
asid carbocsylig
aldehyd/ceton
alcohol
alcen
halogen
llai pwysig