uned 2.3 - cemeg gwyrdd Flashcards
- atal - ?
-mae’n well i atal gwastraff nag yw gorfod ei drin neu lanhau ar ol iddo gael ei greu
- economi atomig - ?
-dylid dylunio dulliau o greu sylweddau yn ofalus fel bod y swm uchaf posib o’r deunyddiau a defnyddir yn y broses yn cael eu ymgorffori yn y cynnyrch
- synthesis cemegol llai peryglus - ?
-lle bo modd, dylai dulliau synthetig gael eu dylunio i ddefnyddio a chreu sylweddau nad sy’n amharu ar iechyd yr unigolyn nac i’r amgylchedd
- dylunio cemegion mwy diogel - ?
-dylai cynhyrchion cemegol gael eu dylunio er mwyn chwarae’r rol sy’n ofynnol ohonynt ond sy’n isel eu gwenwynedd
- hydoddion/cynorthwywyr mwy diogel - ?
-ni ddylai fod angen defnyddio cynorthwywyr cemegol
-os nad oes modd osgoi hyn, ni ddylent achosi unrhyw niwed i iechyd yr unigolyn nac i’r amgylchedd
- dylunio ar gyfer defnydd effeithiol o egni - ?
-dylid cydnabod fod gan anghenion egni prosesau cemegol effaith amgylcheddol ac economig, a dylid lleihau’r effeithiau yma
-lle bo modd, dylai’r prosesau gymryd lle ar dymheredd yr amgylchedd a gwasgedd atmosfferig
- defnydd o borthiant adnewyddadwy - ?
-dylai adweithyddion crai neu borthiant fod yn adnewyddadwy lle mae’n dechnolegol ac yn economig bosib
- lleihau deilliadau - ?
-dylid lleihau neu osgoi’n llwyr prosesau sy’n creu deilliadau di-angen gan fod camau o’r fath yn defnyddio adweithyddion ychwanegol ac yn gallu creu gwastraff
- catalysis - ?
-mae adweithyddion catalytig yn llawer gwell nag adweithyddion arferol
- dylunio ar gyfer di-raddio - ?
-dylid dylunio cynhyrchion cemegol sy’n torri lawr ar ddiwedd eu hoes defnyddiol i roi sylweddau diniwed
- analysis yn ystod prosesau i atal llygredd - ?
-mae angen datblygu methedoleg dadansoddol er mwyn monitro prosesau yn barhaus er mwyn rheoli’r broses cyn fod sylweddau sy’n llygru yn cael eu ffurfio
- cemeg diogel er mwyn atal damweiniau - ?
-dylid dewis a dethol sylweddau a ddefnyddir yn ystod prosesau cemegol er mwyn lleihau’r potensial ar gyfer damweiniau megis tanau, ffrwydradau a gollyngdod