2.1 Systemau Cardiofasgiwlaidd a Resbiradol Flashcards
Swyddogaethau’r System Cardiofasgiwlaidd
1 - cyflenwi a chludo ocsigen a maetholion eraill i’r corff ar gyfer cyfangiad cyhyrol
2 - gwaredu gwastraff CO2 ac wrea, cymryd wastraff o gelloedd
3 - celloedd gwyn y gwaed yn helpu amddiffyn y corff rhag clefydau
4 - thermoreoli, sefydlogi tymheredd craidd y corff sef 37gradd
beth? pam ydyn yn chwysu?
Fasoymlediad (oeri)
capilariau o dan y croen yn ehangu i gynyddu’r llif o waed i’r croen sy’n galluogi’r corff i golli gwres trwy belydriad.
chwys yn anweddu ar arwyneb y croen, yn helpu gyda oeri
beth?
Fasogyfyngiad (cadw’n gynnes)
stopio chwysu a’r cyhyrau yn dechrau crynu
pibellau gwaed o dan y croen yn cyfyngu fel bod llif gwaed yn llai ger yr arwyneb
ysgyfeiniol vs systemig - route? chwith vs dde
Systemau Cylchrediad
ysgyfeiniol - calon i’r ysgyfaint a nol
systemig - calon i’r corff a nol
chwith - gwaed di-ocsigenedig, cludo CO2 ac asid lactig
dde - gwaed ocsigenedig, cludo O2 a maetholynnau
beth? beth sy’n digwydd yn ystod ymarfer? dros amser oherwydd ymarfer?
Cyfradd curiad y galon
beth - nifer y curiadau mewn MUNUD
yn ystod ymarfer - gyfradd curiad y galon yn cynyddu i symud gwaed o gwmpas y corff
dros amser oherwydd ymarfer -
- cyfradd curiad y galon yn gostwng wrth orffwys oherwydd ei fod yn gallu cyflenwi’r un faint o waed gyda churiadau llai
- cyfradd y galon tra’n gweithio yn is oherwydd gall ymdopi a gwaith yn haws
- cyfradd ymadfer yn llai oherwydd gall y calon ddychwelyd i normal gyda llai o ymdrech
hafaliad ar gyfer y macsimwm?
Cyfradd Curiad y Calon
220-oed
e.e 220-16 = 204 curiad y munud
diffiniad? yn ystod ymarfer? dros amser?
Cyfaint Stroc
diffiniad - cyfaint o waed sy’n cael ei bwmpio allan o’r fentrigl chwith pob CURIAD
yn ystod ymarfer - cynyddu o tua 5L/mun i 30L/mun oherwydd bod y cyhyrau’n cyfangu ar y rhydweli a gwthio mwy o waed yn ol i’r galon
dros amser - cyfaint stroc yn dyblu o’i gymharu a person arferol
diffiniad? hafaliad?
Allbwn Cardiaidd
diffiniad - cyfaint o waed sy’n cael ei bwmpio allan o’r fentrigl chwith bob MUNUD
hafaliad - cyfaint stroc x curiad y galon
diffiniad? yn ystod ymarfer? dros amser?
Pwysedd Gwaed
diffiniad - grym y gwaed yn erbyn muriau’r rhydweli
yn ystod ymarfer - cynnydd yn y cyfradd systolig ond ddim yn y diastolig
dros amser - hypertroffedd (cynyddiad yn cyhyrau’r calon). calon yn dal mwy o waed ac yn datblygu’n pwmp mwy effeithiol. gostwng yn pwysedd y gwaed
systolig vs diastolig
Pwysedd Gwaed
systolig (ar y top) - pwysedd yn y rhydweli wrth i’r galon cyfangu - 120 neu llai
diastolig - pwysedd yn y rhydweli wrth i’r calon llaesu rhwng curiadau - 80 neu llai
ffactorau sy’n gallu effeithio pwysedd gwaed?
Pwysedd Gwaed
colestrol uchel
deiet anghytbwys
amlder ymarfer
oed
rhyw
dwysedd ymarfer
straen
alcohol
cyffuriau
4
Swyddogaethau’r System Resbiradol
1 - cyfnewid nwyon (pwysicaf), digwydd yn yr alfeoli a’r capilariau
2 - trylediad, O2 yn tryledu o’r alfeoli i’r gwaed
3 - ocsigeniad gwaed
4 - haemoglobin (foleciwlau bach yn celloedd coch y gwaed), pob haemoglobin yn cludo 4 moleciwl o O2 yr un
beth?
Cyfaint Anadlol
beth - cyfaint mwyaf o aer sy’n gallu cael ei allanadlu ar ol mewnanadlu cymaint o aer a phosib.
ymarfer aerobig rheolaidd yn cynyddu cyfaint anadlol
beth?
Cyfaint Cyfnewid
beth - cyfaint yr aer sy’n cael ei fewnanadlu a phob anadliad arferol
beth?
Cyfradd Anadlu
beth - nifer yr anadliadau rydych yn cymryd mewn munud
cynyddu wrth ymarfer