uned 2.4 - maeth Flashcards
beth yw diffiniad organebau awtotroffig?
organeb sy’n defnyddio moleciwlau anorganig syml i syntheseiddio moleciwlau organig cymhleth
disgrifiwch organebau ffototroffig
defnyddio egni golau i syntheseiddio moleciwlau organig cymhleth. Enw’r adwaith yma yw ffotosynthesis, defnyddir carbon deuocsid a dwr (anorganig, syml) i greu glwcos (organig, cymhleth)
beth yw enghraifft o organeb ffototroffig?
-planhigion
-rhai bacteria (cyanobacteria)
-rhai protoctista (algae)
disgrifiwch organebau cemotroffig
defnyddio egni o adweithiau cemegol i syntheseiddio moleciwlau organig cymhleth
beth yw enghraifft o organeb cemotroffig?
bacteria sy’n byw mewn agorfeydd hydrothermal a bacteria nitreiddio
ydy organebau ffototroffig yn awtotroffig neu heterotroffig?
awtotroffig
ydy organebau cemotroffig yn awtotroffig neu heterotroffig?
awtotroffig
beth yw diffiniad organebau heterotroffig?
organebau sy’n bwyta a hydrolysu moleciwlau organig cymhleth i ffurfio moleciwlau hydawdd sy’n cael eu amsugno a’u cymathu
beth ydy organebau heterotroffig yn dibynnu ar fel ffynhonnell bwyd?
awtotroffau
disgrifiwch organebau holosoig
organebau sy’n amlyncu bwyd ac yna’n ei dreulio’n fewnol. Mae’r broses yma yn cynnwys amlyncu, treulio, amsugno, cymathu a charthu
beth yw enghraifft o organeb holosoig?
bron pob anifail e.e bodau dynol
disgrifiwch organebau saprotroffig
organebau sy’n bwydo ar ddeunydd sy’n farw neu sy’n pydru. Maent yn treulio eu bwyd yn allgellog drwy secretu ensymau treulio ar sylweddau bwyd tu allan i’r corff ac yna’n amsugno’r cynnyrch hydawdd ar draws y gellbilen trwy drylediad
beth yw enghreifftiau o organeb saprotroffig?
ffwng a bacteria
disgrifiwch organebau parasitig
organebau sy’n byw ar organebau letyol neu y tu mewn iddi. Mae’r parasite yn bwydo ar yr organeb letyol ac yn achosi niwed iddi
beth yw enghreifftiau o organebau parasitig?
lleuen y pen
llyngyren borc
pam ydy dadelfenyddion yn bwysig?
-pydru deunydd gwastraff
-ailgylchu maetholion gwerthfawr e.e carbon a nitrogen
beth yw cigysyddion?
organeb sy’n bwyta anifeiliaid yn unig
beth yw llysysyddion?
organeb sy’n bwyta planhigion yn unig
beth yw hollysyddion?
organeb sy’n bwyta planhigion ac anifeiliaid
beth yw dadelfenyddion/detritysyddion?
organeb sy’n bwydo ar bethau marw
beth yw ectoparasit?
parasit sy’n byw ar organeb letyol
beth yw endoparasit?
parasit sy’n byw y tu mewn i organeb letyol
nodwch enghraifft o ectoparasit
lleuen y pen (head lice)
nodwch enghraifft o endoparasit
llyngyren borc
sut mae lleuen y pen yn bwydo?
trwy sugno gwaed o groen pen yr organeb letyol
sut mae lleuen y pen wedi addasu i aros ar yr organeb letyol?
-datblygu crafangau sy’n gafael yng ngwallt yr organeb letyol
-dodwy wyau sy’n gludo ar waelod y gwallt
sut mae trosglwyddo yn digwydd gyda lleuen y pen?
cyswllt uniongyrchol rhwng dau pobl
lle mae llyngyren borc llawn dwf yn byw?
coludd dynol
y bod dynol yw organeb letyol ___ y llyngyren borc
cynradd
y moch yw organeb letyol __ y llyngyren borc
eilaidd
pa broblemau ydy llyngyren borc yn wynebu wrth oroesi yn y coludd?
-byw mewn amodau pH eithafol
-suddion treulio sy’n cynnwys ensymau a mwcws
-peristalsis yn ei gorddi a’i wthio yn gyson
-system imiwn yr organeb letyol yn ceisio ei ddinistrio
-organeb letyol yn marw = parasite yn marw
-rhaid darganfod ffordd o drosglwyddo o un organeb letyol i’r llall
pa addasiadau strwythurol oes gan y llyngyren borc i fyw yn system dreulio anifail?
-sgolecs (pen) gyda fachau a sugnolynnau
-proglotid wedi’i orchuddio mewn cwtigl drwchus
-secretu mwcws ac atalwyr ensymau o’r cwtigl
-coluddyn bach iawn a dim geg
-corff wastad a denau iawn
-pob proglotid yn ddeurywiad sy’n cynnwys organnau atgenhedlol gwrywaidd a benywaidd
llyngyren borc - beth yw pwrpas y cwtigl trwchus?
gwrthsefyll ensymau treulio, pH eithafol
llyngyren borc - beth yw pwrpas cynhyrchu gwrthensymau?
atal ensymau treulio rhag gweithredu
llyngyren borc - beth yw pwrpas y sgolecs?
cydio yn wal y coludd i atal peristalsis rhag gwthio ymlaen
llyngyren borc - beth yw pwrpas yr arwynebedd arwyneb mawr a denau iawn?
amsugno mwy o maetholion a darparu pellter tryledu byr
llyngyren borc - beth yw pwrpas cynhyrchu nifer fawr o wyau?
cynyddu’r siawns o heintio’r organeb letyol eilaidd
llyngyren borc - beth yw pwrpas beidio cael system dreulio?
bwydo drwy amsugno maetholion sydd eisioes wedi cael eu treulio drwy ei chwtigl
llyngyren borc - beth yw pwrpas y rhan gwrywaidd a benywaidd ym mhob proglotid (deurywiad)?
angen ffrwythlonni wyau eu hunain gan ni allen nhw cyplu
oes gan proctista (ungellog) cymhareb arwynebedd arwyneb i gyfaint mawr neu bach?
mawr
sut ydy proctista (ungellog) yn cymryd maetholion mewn?
ar draws eu bilen plasmaidd
organebau un gellog -sut gall molecylau bach groesi i mewn ar draws bilen y gell?
trylediad
organebau un gellog - sut gall molecylau bwyd mawr groesi i mewn i’r amoeba?
amlyncu gyda lysosomau a’r ensymau sy’n torri hi lawr
disgrifiwch organebau amlgellog syml
-coludd tebyg i goden
-heb gwahaniaethu
-cynnwys un agoriad i dderbyn bwyd a chael gwared ar wastraff
disgrifiwch organebau amlgellog cymhleth
-wedi esblygu coludd tiwb
-dau agoriad (un am amlyncu ac un am garthiad)
-coludd wedi rhannu i adrannau gwahanol sydd wedi arbenigo am swyddogaethau gwahanol
-addasu am ddeiet hollysol
nodwch beth yw’r camau yn y system dreulio
amlynciad
treuliad
amsugniad
cymathiad
carthiad
esboniwch beth yw’r camau yn y system dreulio
amlynciad - cymryd bwyd mewn i’r ceg
treuliad - torri moleciwlau mawr anhydawdd i rai llai hydawdd
amsugniad - cymryd molecylau mewn i’r gwaed a’r lymff trwy fur y coludd
cymathiad - celloedd yn y corff yn ddefnyddio cynhyrchion treulio
carthiad - gwaredu bwyd sydd heb ei dreulio o’r coludd
beth yw pwysigrwydd treulio?
galluogi molecylau mawr anhydawdd (polymerau) torri lawr yn foleciwlau bach hydawdd (monomerau)
beth yw’r dau ffordd mae treuliad yn gallu digwydd?
-treuliad mecanyddol
-treuliad cemegol
esboniwch treuliad mecanyddol
torri neu falu bwyd gyda’r dannedd, ac yna cyfangiadau rhythmig y coludd. mae wal y coludd yn cynnwys haenau o gyhyr sy’n cyfangu a llaesu; y cyhyrau hyn sy’n gyfrifol am gymysgu’r bwyd ag ensymau a’i wthio drwy’r coludd (peristalsis)
beth yw pwysigrwydd torri lawr bwyd yn mecanyddol gyntaf, yn nhermau gweithrediad ensymau?
cynyddu’r arwynebedd arwyneb sy’n rhoi mwy o arwyneb i ensymau treulio weithredu arno
esboniwch treuliad cemegol
torri molecylau mawr i lawr yn folecylau llai drwy hydrolysis a gatalyddir gan ensymau treulio sbesiffig.
mae’r ensymau o’r enw hydrolasau yn torri bondiau trwy ychwanegu dwr.
beth yw enw’r ensym sy’n treulio carbohydradau?
carbohydras
beth yw enw’r ensym sy’n treulio proteinau?
proteasau
beth yw enw’r ensym sy’n treulio lipidau?
lipasau
ensymau treulio -
starts —___ —> maltos, lactos swcros
amylas
ensymau treulio -
starts —amylas—> ____
maltos
lactos
swcros
ensymau treulio -
maltos—___–> glwcos alffa
maltas
ensymau treulio -
lactos—___–> glwcos + galactos
lactas
ensymau treulio -
swcros—___–> glwcos + ffrwctos
swcras
ensymau treulio -
maltos—maltas–> ___
glwcos alffa
ensymau treulio -
lactos—lactas–> ___
glwcos + galactos
ensymau treulio -
swcros—swcras–> ___
glwcos + ffrwctos
ensymau treulio -
polypeptid –___–> peptidau
endopeptidas
ensymau treulio - beth yw endopeptidas?
ensymau sy’n torri bondiau peptid yng nghanol y polypeptid
ensymau treulio -
peptidau –___–> asidau amino
ecsopeptidas
beth yw ecsopeptidas?
ensymau sy’n torri bondiau peptid ar y pen i ryddhau asidau amino
ensymau treulio -
peptidau –ecsopeptidas–> ____
asidau amino
ensymau treulio -
polypeptid –endopeptidas–> ___
peptidau
ensymau treulio -
triglyserid –___–> asidau brasterog + glyserol
lipas
ensymau treulio -
triglyserid –lipas–> ___
asidau brasterog + glyserol
beth yw enwau’r dau ran o’r coluddyn bach?
dwodenwm
iliwm
beth yw enwau’r haenau amrywiol ym mur y coludd? (6 haen)
-serosa
-cyhyryn hydredol
-cyhyryn crwn
-isfwcosa
-mwcosa
-epitheliwm
mur y coludd - beth yw swyddogaeth y serosa?
-haen allanol
-cynnwys haen o feinwe gyswllt wydn sy’n diogelu’r coludd ac yn lleihau ffrithiant yn erbyn organau eraill yn ystod peristalsis
mur y coludd - beth yw swyddogaeth y cyhyryn hydredol a’r cyhyryn crwn?
-achosi tonnau o gyfangiadau cyhyrol sef peristalsis sy’n gwthio bwyd drwy’r coludd
-dwy haen gyhyr yn symud i gyfeiriadau gwahanol wrth gyfangu
-hydredol yn cyfangu i fyrhau’r coludd
-crwn yn cyfangu i leihau’r diamedr
mur y coludd - beth yw swyddogaeth yr isfwcosa?
-cynnwys pibellau gwaed (capilariau) a pibellau lymff i gludo cynhyrchion treulio
-cynnwys nerfau sy’n cyd-drefnu peristalsis
mur y coludd - beth yw swyddogaeth y mwcosa?
-haen fewnol
-leinio wal y coludd
-cynnwys chwarennau sy’n secretu mwcws sy’n iro’r mwcosa ac yn ei amddiffyn
-gallu secretu suddion treulio
-amsugno bwyd wedi’i dreulio
mur y coludd - beth yw swyddogaeth yr epitheliwm?
-haen allanol y mwcosa
-dod i gysylltiad uniongyrchol a’r bwyd yn y lwmen
-secretu suddion treulio i’r lwmen
-amsuno’r cynhyrchion treulio
nodwch enghreifftiau o chwarennau mawr y tu allan i’r coludd
-chwarennau poer
-yr iau
-y pancreas
nodwch enghraifft o chwarennau ar ffurf celloedd yn yr isfwcosa
-chwarennau sy’n secretu mwcws i’r dwodenwm
nodwch enghreifftiau o chwarennau ar ffurf celloedd yn y mwcosa
-chwarennau gastrig yn y stumog
-chwarennau yng ngwaelod y fili yn y coluddyn bach
beth ydy’r poer yn cynnwys?
-amylas poerol
-mwcws
-ionau mwynol (CO3^2-, HCO3^-)
-dwr
pam ydy’r dannedd yn torri’r bwyd yn darnau?
-gallu eu lyncu
-cynyddu’r arwynebedd arwyneb i ensymau allu ei dreulio’n cemegol
beth sy’n ffurfio’r bolws yn y ceg?
y tafod yn rholio’r bwyd yn folws
beth sy’n rhwystro’r bwyd rhag mynd i’r tracea?
epiglotis
diffiniwch peristalsis
ton rhythmig o gyfangiadau cydlynol cyhyryn cylchol a hydredol wal yr oesoffagws yn symud y bolws o’r ceg i’r stumog
ydy cyhyrau hydredol yn fyrhau’r coludd neu lleihau diamedr y coludd yn ystod peristalsis?
byrhau’r coludd
ydy cyhyrau cylchol yn fyrhau’r coludd neu lleihau diamedr y coludd yn ystod peristalsis?
lleihau’r diamedr
beth sy’n agor i adael y bolws symud o’r oesoffagws i’r stumog?
sffincter cardiaidd
beth yw enw’r cymysgedd o fwyd hylifol, asidig sy’n gadael y stumog?
dreulfwyd (chyme)
beth yw enw’r tair cell mae chwarennau gastrig yn cynnwys?
-ocsyntig
-prif/peptig
-gobled
beth ydy celloedd ocsyntig yn secretu?
asid hydroclorig
beth ydy celloedd prif/peptig yn secretu?
pepsinogen
beth ydy celloedd gobled yn secretu?
mwcws
pam ydy celloedd gobled yn secretu mwcws?
amddiffyn leinin y stumog
pam ydy celloedd prif/peptig yn secretu pepsinogen?
pepsinogen yn rhagsylweddyn anactif yr ensym pepsin sy’n atal awtolysis
pam ydy celloedd ocsyntig yn secretu asid hydroclorig?
-lladd bacteria
-actifadu pepsinogen i pepsin
-cynnal pH optimaidd am pepsin (pH2)
beth yw enwau ddwy ran y coluddyn bach?
dwodenwm
ilewm
beth sy’n digwydd yn bennaf yn y dwodenwm?
treulio
beth sy’n digwydd yn bennaf yn yr ilewm?
adamsugniad
lle daw’r ensymau ohono mewn y dwodenwm?
o’r pancreas a chwarennau’r isfwcosa
lle ydy bustl yn cael ei greu?
yr afu
sut ydy’r bustl yn teithio o goden y bustl i’r dwodenwm?
trwy dwythell y bustl
oes gan bustl ensymau?
na
beth yw pwysigrwydd y bustl yn y proses treuliad o fewn y dwodenwm?
-cynnwys sodiwm hydrogen carbonad sy’n rhoi pH 7-8, sef pH optimwm i ensymau’r pancreas a’r coluddyn gweithio
-niwtraleiddio asidedd y bwyd
-halwynau bustl yn emwlsio lipidau trwy chwalu globylau mawr i nifer o ddefnynnau bach
pa ensymau ydy sudd pancreatig yn cynnwys?
-amylas
-lipas
-trypsinogen
-enterocinas
ensymau sudd pancreatig - beth yw pwysigrwydd amylas?
hydrolysu unrhyw starts/glycogen sydd ar ol i faltos
ensymau sudd pancreatig - beth yw pwysigrwydd lipas?
hydrolysu triglyseridau i fonoglyseridau ac yn y pendraw i asidau brasterog a glyserol
ensymau sudd pancreatig - beth yw pwysigrwydd trypsinogen?
rhagsylwedd anactif yr ensym trypsin. mae hyn yn endopeptidas sy’n hydrolysu proteinau i beptidau
ensymau sudd pancreatig - beth yw pwysigrwydd enterocinas?
actifadu trypsinogen i trypsin. cael ei greu yn mwcosa y dwodenwm
lle mae cryptiau Lieberkun yn cael ei ffindo?
y coluddyn bach - dwodenwm ac ilewm
beth ydy chwarennau Brunner yn secretu? beth yw swyddogaethau rhain?
-sudd alcaliaidd yn cadw pH optimaidd i actifedd ensymau yn y coluddyn ac yn niwtraleiddio asidedd fwyd o’r stumog
-mwcws yn iro ac amddiffyn
mae maltas yn hydrolysu maltos i ffurfio ___
2 moleciwl alffa glwcos
mae swcras yn hydrolysu swcros i ffurfio ___
glwcos a ffrwctos
mae lactas yn hydrolysu lactos i ffurfio ___
glwcos a galactos
sut ydy’r ilewm wedi addasu ar gyfer amsugniad?
-plygion mewn wal yr ilewm
-filysau niferus ar y plygion
-celloedd epithelaidd ar arwyneb y filysau gyda ‘border brwsh’ o microfilysau
-gyda nifer fawr o fitochondroa i ddarparu ATP am gludiant actif
-hir iawn
beth yw swydd y lacteal o fewn filysau’r ilewm?
cael gwared ar asida brasterog a glyserol wedi amsugno
cymharwch adeiledd a swyddogaeth yr ilewm a’r dwodenwm
-dwodenwm yn fyrrach mewn hyd a filysau fyrrach, prif lleoliad treuliad
-ilewm yn hirach o ran hyd a filysau hirach, amsugniad yn bennaf
amsugniad yr ilewm - sut ydy asidau amino yn cael ei amsugno?
trwy gludiant actif i’r celloedd epithelaidd ac yna trwy drylediad cynorthwyedig i’r capilariau
amsugniad yr ilewm - sut ydy glwcos o fonosacaridau eraill yn cael ei amsugno?
trwy cyd-gludiant i gelloedd epithelaidd ac yna trwy drylediad cynorthwyedig i’r capilariau
amsugniad yr ilewm - sut ydy asidau brasterog a glyserol yn cael ei amsugno?
trwy drylediad ar draws haen ddeuol ffosffolipid i gelloedd epithelaidd. yna’n cael eu hail-osod ar ffurf triglyseridau sy’n tryledu i’r lacteal
enwch 4 rhan y coluddyn mawr
-caecwm
-pendics
-colon
-rectwm
beth sy’n digwydd yn y coluddyn mawr?
amsugniad dwr a halwynau mwynol
cynhyrchion treuliad - ble defnyddir glwcos yn y corff?
amsugnwyd o’r gwaed gan gelloedd i’w ddefnyddio i ryddhau egni wrth resbiradu.
caiff gormodedd o glwcos ei storio fel braster
cynhyrchion treuliad - ble defnyddir asidau amino yn y corff?
amsugnwyd ar gyfer synthesis proteinau.
methu storio gormodedd felly’n cael ei ddadamineiddio gan ionau
cynhyrchion treuliad - ble defnyddir lipidau yn y corff?
cellbilenni a hormonau.
caiff gormodedd ei storio fel braster, sy’n storfa egni ac yn ynysydd