uned 1.5 - asidau niwcleig Flashcards
beth yw’r 3 cydran sy’n ffurfio niwcleotidau?
-ffosffad
-siwgr pentos
-bas nitrogenaidd
faint o basau nitrogenaidd gwahanol sydd?
5
beth yw enwau’r 5 bas nitrogenaidd?
adenin
gwanin
thymin
cytosin
wracil
sut ydy tri is-uned niwcleotid yn cyfuno?
adwaith cyddwyso
beth yw enw’r bond rhwng yr uned ffosffad a siwgr pentos mewn asidau niwcleig?
bond ffosffoester
beth ydy ATP wedi’i wneud o?
bas nitrogenaidd - adenin
siwgr pentos - ribos
grwpiau ffosffad - 3
beth ydy DNA wedi’i wneud o?
bas nitrogenaidd - adenin/thymin, gwanin/cytosin
siwgr pentos - deocsiribos
grwpiau ffosffad - 1
beth ydy RNA wedi’i wneud o?
bas nitrogenaidd - wracil/adenin, cytosin/gwanin
siwgr pentos - ribos
grwpiau ffosffad - 1
pa adwaith sy’n ffurfio ATP? ble mae’r adwaith yn digwydd?
-cyddwyso
-digwydd yn y mitochondria
pam mae celloedd angen ATP?
-resbiradaeth
-cludiant actif
-cyfangu cyhyrau
pa fath o fiomoleciwl yw ATP?
polymer o niwcleotidau
beth yw’r enw ar gyfer y bas adenin a’r siwgr pentos ribos wedi’i bondio mewn ATP?
adenosin
beth yw’r enw ar y tri grwp ffosffad mewn ATP?
triffosffad
pam ydy organebau angen egni?
er mwyn cynnal prosesau:
-cludiant actif
-synthesis proteinau
-trawsyriant nerfol
cyfyngiadau cyhyrol
mae ATP yn ___ egni
mae ATP yn gludydd egni
beth ydyn ni’n galw ATP? (cyfrwng..)
cyfrwng cyfnewid egni cyffredinol
pam ydy ATP yn cael ei alw’n cyfrwng cyfnewid egni cyffredinol?
-mae’n cael ei ddefnyddio gan bob organeb
-mae’n darparu egni am bron pob adwaith biocemegol
sut ydy ATP yn cael ei ffurfio?
ychwanegu ffosffad at ADP (adenosin deuffosffad) mewn adwaith cyddwyso
faint o egni sydd angen er mwyn ffurfio bond ffosffad mewn ATP?
30.6kJmol-1
beth yw enw’r adweithiau lle mae angen mewnbynnu egni i ffurfio bond egni uchel?
adwaith endergonig
beth yw enw’r adweithiau sy’n rhyddhau egni?
adwaith ecsergonig
sut mae ATP yn cael ei ymddatod yn ol i ADP?
adwaith hydrolysis
faint o egni sy’n cael ei ryddhau wrth torri’r bond ffosffad terfynol mewn ATP?
30.6kJmol-1
beth yw 3 o fanteision ATP?
-mae hydrolysis ATP i ADP yn un adwaith sy’n rhyddhau egni ar unwaith
-dim ond un ensym sydd ei angen i ryddhau egni o ATP
-mae ATP yn rhyddhau symiau bach o egni yn ol yr angen
-mae ATP yn hydawdd, bach ac yn hawdd ei gludo i gelloedd
-gellir trosglwyddo gwahanol fathau o egni i ffurf gyffredin
beth yw cadwyn polyniwcleotid?
cadwyn o niwcleotidau
beth ydy DNA wedi’i wneud o?
dau edefyn o niwcleotidau wedi’u dirwyn mewn helics dwbl
beth ydy gwrthbaralel yn golygu yng nghyd-destun DNA?
mae’r edafedd DNA yn mynd i ddau gyfeiriad dirgroes o’r pen 5’ i’r pen 3’ ac o’r pen 3’ i’r pen 5’
sut ydy’r asgwrn cefn siwgr ffosffad mewn DNA yn ffurfio?
mae deocsiribos un niwcleotid yn ffurfio bond gyda ffosffad niwcleotid arall
beth ydy’r bondiau hydrogen rhwng parau o fasau nitrogenaidd mewn DNA yn cysylltu?
cysylltu dau edefyn yr helics dwbl at ei gilydd
pa basau sy’n paru mewn DNA?
adenin a thymin
gwanin a cytosin
beth yw pwysigrwydd paru basau cyflenwol?
-sicrhau bod DNA yn dyblygu’n gywir
-golygu bod yr un gyfran o adenin/thymin a cytosin/gwanin mewn moleciwl DNA
beth yw dyblygiad lled cadwrol DNA?
-helics dwbl gwreiddiol yn rhannu’n dau edefyn
-y ddwy edefyn yn gweithredu fel templed am synthesis edefyn newydd
-moleciwl DNA newydd yn cynnwys un edefyn gwreiddiol ac un edefyn sydd newydd ei ffurfio
beth darganfyddodd arbrawf Meselson a Stahl?
y rhagdybiaeth led-gadwrol am ddyblygu DNA
arbrawf Meselson a Stahl - pa fath o organeb sy’n cael eu tyfu?
bacteria/E.Coli
arbrawf Meselson a Stahl - beth yw’r 2 isotop o Nitrogen defnyddir?
14N + 15N
arbrawf Meselson a Stahl - pa ran o’r DNA bydd hwn yn cael ei ddefnyddio i ffurfio?
basau nitrogenaidd
arbrawf Meselson a Stahl - pam oedd rhaid golchi’r bacteria cyn trosglwyddo i’r gyfrwng newydd?
fel bod y cyfrwng 14N ddim yn cael ei halogi
arbrawf Meselson a Stahl - beth wnaethynt i DNA’r bacteria rhwng pob cenhedlaeth?
echdynnu DNA trwy lysu’r bacteria ac allgyrchu’r DNA
arbrawf Meselson a Stahl - beth sy’n rheoli lle mae’r DNA yn setlo?
dwysedd y DNA
beth yw’r cam cyntaf mewn mecanwaith dyblygiad DNA?
-DNA helicas (ensym) yn torri’r bondiau hydrogen gwan rhwng y parau o fasau cyflenwol
-moleciwl DNA yn dad-ddirwyn a’r ddau edefyn yn gwahanu
beth yw’r ail cam mewn mecanwaith dyblygiad DNA?
-basau heb eu paru yn cael eu dangos
-mae’r ddwy gadwyn yn gweithredu fel templed ac mae niwcleotidau rhydd yn y niwcleoplasm yn trefnu eu hun drws nesaf i’w fasau cyflenwol
beth yw’r trydydd cam mewn mecanwaith dyblygiad DNA?
-DNA polymeras (ensym) yn catalyddu’r proses o ychwanegu niwcleotidau DNA rhydd trwy ffurfio bondiau rhwng niwcleotidau cyfagos
-mae’r ensym yn catalyddu’r adwaith cyddwyso rhwng grwp ffosffad-5’ niwcleotid rhydd ar grwp -OH ar ben 3’ y gadwyn DNA sy’n tyfu i ffurfio bondiau ffosffodeuester
beth yw’r pedwerydd cam mewn mecanwaith dyblygiad DNA?
-mae bondiau hydrogen yn ffurfio rhwng pob par o edafedd DNA cyflenwol
-hyn yn cynhyrchu dau foleciwl DNA sy’n cynnwys un edefyn gwreiddiol ac un edefyn newydd
-bydd y moleciwlau newydd yn ailddirwyn i ffurfio helics dwbl
beth sy’n fyrrach - DNA neu RNA?
RNA
beth yw’r 3 math o RNA?
-RNA negeseuol (mRNA)
-RNA ribosomaidd (rRNA)
-RNA trosglwyddo (tRNA)
beth ydy’r RNA negeseuol (mRNA) yn wneud?
-cludo’r cod i’r ribosomau yn y cytoplasm am drosi
beth ydy’r RNA ribosomaidd (rRNA) yn wneud?
-cyfuno gyda protein i ffurfio ribosomau
lle ydy’r RNA negeseuol (mRNA) yn cael ei greu?
yn y cnewyllyn fel copi ategol o’r cod am un polypeptid yn ystod trawsgrifiad
lle mae’r RNA ribosomaidd (rRNA) yn cael ei greu?
yn y cnewyllan
beth yw siap RNA trosglwyddo (tRNA)?
siap clover
sut ydym yn disgrifio RNA trosglwyddo (tRNA)?
-un pen gyda CCA a’r llall yn gwrthgodon sy’n gysylltu a’r mRNA
-cario asid amino ar y pen 3’ i’r ribosom am drosi
mae gwrthgodon y tRNA yn cyfateb i’r ____ ar y top
asid amino
beth sy’n debyg rhwng DNA ac RNA? (4 esiampl)
-asgwrn cefn siwgr a ffosffad
-basau nitrogenaidd cytosin, gwanin, adenin
-polymerau/polyniwcleotid
-un grwp ffosffad ym mhob niwcleotid
beth sy’n cludo cod genynnol organeb?
DNA
beth yw’r cod genynnol?
cod ar gyfer synthesis proteinau
pa fath o genynnau sydd gan gelloedd ewcaryotau?
genynnau amarhaus
pa fath o genynnau sydd gan gelloedd procayotau?
genynnau barhaus
oes gan gelloedd ewcaryotau ecsonau/intronau neu’r ddwy?
ecsonau ac intronau
oes gan gelloedd procaryotau ecsonau/intronau neu’r ddwy?
ecsonau
beth yw ecsonau?
darnau sy’n codio ar gyfer polypeptidau
beth yw intronau?
darnau sydd ddim yn codi am bolypeptidau
beth yw polypeptid?
dilyniant o asidau amino wedi’u cysylltu mewn cadwyn hir
mae’r cod genynnol yn _____
mae’r cod genynnol yn cod tripled, llinol, diamwys, dirwyedig, cyffredinol heb fod yn or-gyffwrdd, ar gyfer cynhyrchu polypeptidau
beth a olygir wrth disgrifio cod genynnol fel cod tripled?
mae un asid amino yn cael eu codio gan tripled o fasau yn y DNA
beth a olygir wrth disgrifio cod genynnol fel cod dirwyedig?
gan mai dim ond 20 asid amino sydd, a 64 codon sy’n bosibl, mae gan y rhan fwyaf o asidau amino fwy nag un codon sy’n codio ar ei gyfer
beth a olygir wrth disgrifio cod genynnol fel cod gyffredin?
ym mhob organeb ar y ddaear mae’r un codon yn codio am yr un asid amino
beth a olygir wrth disgrifio cod genynnol fel cod heb fod yn orgyffwrdd?
codonau wedi’i trefnu un ar ol y llall, felly mae pob bas ond yn cael eu defnyddio mewn un dripled
beth a olygir wrth disgrifio cod genynnol fel cod wedi’u atalnodi?
-pob genyn yn dechrau gyda codon ‘cychwyn a tri codon ‘gorffen’
beth yw’r trefn ‘simplified’ o synthesis protein?
-DNA –trawsgrifiad–> mRNA –trosiad–> polypeptid
esboniwch y 4 cam trawsgrifiad (creu mRNA yn y cnewyllyn)
- DNA helicas yn torri’r bondiau hydrogen rhwng y basau cyflenwol yn yr helics, gan ddad-dirwyn y DNA, a dangos basau heb eu paru ar yr edefyn templed
- niwcleotidau RNA rhydd yn paru gyferbyn a’r niwcleotidau cyflenwol ar edefyn templed y DNA. RNA polymeras yn cysylltu gyda’r edefyn templed ar ddechrau’r dilyniant gan catalyddu’r broses o ffurfio bondiau rhwng y niwcleotidau rhydd, gan ffurfio asgwrn cefn siwgr-ffosffad yr mRNA cyflenwol. y tu hwnt i ddiwedd y genyn mae codon gorffen lle mae RNA polymeras yn gadael y DNA
- mae’r mRNA yn dod yn rhydd o’r DNA yna mae’r DNA yn ail gyfuno gan ail ffurfio helics dwbl
- mae’r mRNA sy’n cario’r cod DNA yn cael ei gludo allan o’r cnewyllyn drwy’r mandwll cnewyllol ac yn symud i’r ribosomau
beth yw rhag-mRNA?
enw’r moleciwl sy’n cael ei gynhyrchu yn syth ar ol trawsgrifio’r genyn DNA
beth ydy rhag-mRNA yn cynnwys?
intronau ac ecsonau
pryd ydy’r proses addasu ol-drawsgrifio yn digwydd?
cyn i’r mRNA gadael y cnewyllyn
beth sy’n digwydd yn ystod y proses addasu ol-drawsgrifio?
tynnu’r intronau o’r moleciwl i gynhyrchu mRNA gweithredol sydd yn byrrach gan fod e ond yn cynnwys ecsonau
beth yw’r 2 cam mae addasu’r rhag-mRNA yn digwydd mewn?
- endoniwcleasau yn torri allan yr intronau
- ligasau yn sbleisio (uno)’r ecsonau
beth sy’n awgrymu efallai nad yw’r theori un genyn-un polypeptid yn hollol gywir?
yn ystod yr addasiad ol-drawsgrifiol gellir sbleisio’r ecsonau gyda’i gilydd mewn gwahanol drefn sy’n arwain at ffurfio gwahanol bolypeptidau
pam mae’r broses trawsgrifiad angen digwydd?
creu mRNA am synthesis protein achos DNA methu gadael y cnewyllyn
beth yw enw’r ensym sy’n dad-ddirwyn DNA?
DNA helicas
beth yw enw’r ensym sy’n ffurfio bondiau rhwng niwcleotidau rhydd?
RNA polymeras
beth yw swydd y codon STOP?
rhoi diwedd i’r gadwyn polypeptid
sut mae’r mRNA yn gadael y cnewyllyn?
trwy’r mandyllau cnewyllol
sut mae rhag-mRNA yn cael eu addasu?
tynnu’r intronau allan trwy endoniwcleasau a sbleisio’r ecsonau trwy ligasau
beth sy’n digwydd yn ystod trosiad (simplified)?
newid mRNA i bolypeptid yn y ribosom
pa safle ydy’r is uned mawr mewn ribosom yn glynnu ato?
tRNA
pa safle ydy’r is uned bach mewn ribosom yn glynnu ato?
mRNA
esboniwch y camau mewn trosiad (4 cam)
- bydd y ribosom yn rhwymo wrth y codon cychwyn ar yr mRNA
- mae moleciwlau tRNA yn cludo asid amino i’r ribosom ac yn rhwymo wrth y ribosom trwy rhyngweithiadau codon-gwrthcodon
- bydd bond peptid yn ffurfio rhwng y ddau asid amino trwy adwaith cyddwysiad
- bydd y ribosom yn symud ar hyd yr mRNA un codon ar y tro, nes cyrraedd y codon gorffen
sut ydy’r organigyn golgi yn gallu addasu’r cadwyn polypeptid ymhellach ar ol trosiad?
-plygu a trawsfondio’r polypeptid i siap 3D
-addasu’n gemegol
-cyfuno mwy nag un polypeptid