uned 1.4 - ensymau Flashcards
beth yw diffiniad metabolaeth?
adweithiau cemegol sy’n digwydd mewn celloedd byw
beth yw diffiniad metabolaeth anabolig?
cymryd moleciwlau bach/syml a ffurfio moleciwl mwy cymhleth trwy bondio
cofio anabolig - adio
beth yw diffiniad metabolaeth catabolig?
moleciwlau cymhleth yn cael eu hollti i roi moleciwlau symlach
beth yw diffiniad llwybr metabolaidd?
dilyniant o adweithiau bach yn hytrach nag un mawr ble mae cynhyrchion un adwaith yn adweithion y nesaf
beth ydy ensymau yn gweithredu fel?
catalyddion biolegol
beth yw 4 priodwedd ensymau?
- cyflymu adweithiau cemegol
- dim yn dod i ben
- dim yn newid felly gellir aildefnyddio
- rhif trosiant uchel (catalyddu llawer o adweithiau yr eiliad)
beth yw ensym allgellog?
ensym sy’n gweithio tu allan i gelloedd ar ol cael eu secretu trwy ecsocytosis
beth yw ensym mewngellog mewn hydoddiant?
ensymau sy’n gweithredu tu fewn i gelloedd mewn hydoddiant
beth yw ensym mewngellog ynghlwm wrth bilenni?
ensymau sy’n gweithredu tu fewn i gelloedd ynghlwm wrth bilenni
pa adeiledd protein sydd gan ensymau?
trydyddol
beth yw protein trydyddol?
-wedi wneud o un neu fwy o gadwyni o asidau amino sef cadwyni polypeptid
-cynnwys fondiau ionig, hydrogen a pontydd deusylffid
beth yw safle actif ensym?
safle 3D lle mae’r swbstrad yn rhwymo a’r ensym trwy bondiau gwan
beth yw diffiniad egni actifadu?
isafswm yr egni sydd ei angen er mwyn i foleciwlau adweithio, gan dorri’r bondiau sy’n bresennol yn yr adweithyddion a gwneud rhai newydd
beth ydy ensymau’n gwneud i egni actifadu?
gostwng yr egni actifadu fel bod adweithiau’n digwydd ar dymheredd is i osgoi dadnatureiddiad
beth ydy ensym a swbstrad yn ffurfio a sut?
ensym yn gweithredu ar ei swbstrad drwy ffurfio bondiau dros y safle actif i ffurfio cymhyligyn ensym-swbstrad
wrth i gynhyrchion cael ei ryddhau, oes newid i’r ensym?
dyw’r ensym heb ei newid a’r safle actif yn barod i dderbyn swbstrad arall
sut disgifir y perthynas rhwng siap y safle actif a siap y swbstrad?
mae’n gyflenwol
pwy greuodd y damcaniaeth model glo ac allwedd?
Emil Fischer
beth yw’r damcaniaeth clo ac allwedd?
pob ensym yn benodol i un swbstrad
safle actif yn gyflenwol i siap y swbstrad
beth yw’r damcaniaeth ffit anwythol?
siap safle actif ensym yn newid wrth rhwymo a’i swbstrad felly siap y safle actif yn hyblyg a gallu addasu a newid i’r swbstrad
beth yw enghraifft i gefnogi’r damcaniaeth ffit anwythol?
lysosym mewn lysosomau
cymharu model clo ac allwedd a ffit anwythol - dim ond clo ac allwedd
pob ensym yn benodol i’w swbstrad
dim ond un math o adwaith mae ensym yn gallu ei gatalyddu
cymharu model clo ac allwedd a ffit anwythol - tebygrwydd
siapy y safle actif yn gyflewnol i siap y swbstrad
ffurfio cymhyligyn ensym-swbstrad
cymharu model clo ac allwedd a ffit anwythol - dim ond anwythol
siap safle actif ensym yn newid felly’n hyblyg
newid siap o gwmpas y swbstrad
beth yw diffiniad cyfradd adwaith?
faint o gynnyrch sy’n cael eu greu mewn amser penodedig
beth yw diffiniad atalyddion cystadleuol?
sywleddau sy’n rhwymo ag ensym gan leihau cyfradd ei adwaith
sut ydy atalyddion cystadleuol yn gweithio?
ganddynt siap tebyg i swbstrad arferol yr ensym ac felly’n gyflenwol i’r safle actif. Gall yr atalydd gystadlu gyda’r swbstrad arferol i lenwi’r safle actif. Os yw’r atalydd yn lenwi’r safle, bydd yn atal yr ensym rhag cyfuno gyda’i swbstrad arferol, felly’r cyfradd actif yn lleihau
beth yw enw ar enghraifft o atalydd cystadleuol?
Asid Malonig
pam ydy asid malonig yn atalydd cystadleuol?
achos mae strwythr molecwlar asid malonig yn debyg iawn i asid sycsinig felly mae safleoedd y safle actif yn cael eu llenwi gan asid malonig yn hytrach na’r swbstrad arferol sef asid sycsinig
pam ydy cynyddu crynodiad y swbstrad yn lleihau effaith catalydd cystadleuol?
oherwydd y mwyaf o foleciwlau swbstrad sy’n bresennol, y mwyaf yw eu siawns y bydd swbstrad yn gwrthdaro a safle actif yr ensym a dim atalydd
beth yw atalydd anghystadleuol?
atalydd sy’n cysylltu ei hun i safle gwbl wahanol i’r safle actif, sef safle alosterig
beth yw’r enw ar y safle mae atalydd anghystadleuol yn rhwymo iddo?
safle alosterig
sut ydy atalydd anghystadleuol yn newid siap y safle actif?
mae’r atalydd rhwymo i safle alosterig, sy’n effeithio ar fondiau hydrogen sy’n bwysig i gadw siap trydyddol yr ensymau. Mae hyn yn newid siap y safle actif felly dyw’r siap dim bellach yn gyflenwol, a does dim cymhlygyn ensym-swbstrad yn ffurfio
nodwch enghraifft o atalydd anghystadleuol
cyanid
neu
metelau trwm fel Pb2+
beth yw diffiniad catalydd biolegol?
ensymau sy’n cynyddu cyfradd adweithiau heb cymryd rhan yn yr adwaith
beth yw diffiniad ensym ansymudol?
ensym sydd wedi’u rhwymo, gosod, neu dal ar fatrics anadweithiol fel gleiniau alginad neu ficroffibrolion cellwlos, sy’n wneud hi’n bosib i’r swbstrad symud drostynt
sut gellid creu ensymau ansymudol?
-bondio’n cofalent i sylwedd anadweithiol
-mewngapsiwleiddio mewn peli o gel
-gyda matrics o bolymer sy’n creu microamgylchedd
pam defnyddir ensymau ansymudol?
-fwy sefydlog achos mae’n creu microamgylchedd sy’n caniatau adweithiau digwydd ar dymheredd / pH uwch
-mae dal ensymau yn llonydd yn atal bondiau rhag torri a fyddai’n dadnatureiddio y safle actif, felly gallwn defnyddio’r ensymau dan fwy o amrywiaeth o amodau ffisegol na pe bai’n rhydd mewn hydoddiant
beth yw manteision ensymau ansymudol?
-mwy o sefydlogrwydd a gweithio dros amrediad tymheredd a pH mwy nag ensymau rhydd mewn hydoddiant
-ensym ddim yn halogi’r cynhyrchion
-hawdd ychwanegu neu dynnu ensymau sy’n rhoi mwy o reolaeth dros yr adwaith
beth yw anfanteision ensymau ansymudol?
-ensymau ansymudol methu symud felly’n lleihau amlder gwrthdrawiadau llwyddiannus achos y swbstrad yw’r unig foleciwl symudol
-bydd ensymau rhydd yn fwy actif bob amser cyn belled ag nad yw’r tymheredd yn uwch na’r optimwm
Pam bydd ensymau ansymudol mewn gleiniau gyda cyfradd adwaith is nag ensymau ansymudol ar bilen?
mae rhaid i’r swbstrad tryledu trwy’r gleiniau er mwyn cyrraedd yr ensym tu fewn i glain.
Ar bilen, mae’r swbstrad yn dod i gysylltiad uniongyrchol a’r ensym
sut defnyddir ensymau ansymudol?
gallwn llenwi colofnau gwydr gyda ensymau ansymudol, yna ychwanegu’r swbstrad drwy dop y golofn. mae’n llifo lawr, a’r swbstrad yn rhwymo a safleoedd actif yr ensymau ar arwyneb neu thu mewn i’r gleiniau
pam ydy’n fanteisiol i osod ensymau ansymudol mewn gleiniau llai?
am arwynebedd arwyneb mwy, felly all y swbstrad tryledu i’r ensym yn gyflymach a bydd cyfradd yr adwaith yn uwch.
pam ydy’n fanteisiol i sicrhau bod cyfradd llif swbstrad yn araf a’r colofn yn hirach wrth defnyddio ensymau ansymudol?
mae’n cynyddu’r amser mae’r ensym a swbstrad mewn cysylltiad felly bydd mwy o gymhlygion ensym-swbstrad
beth yw glwcos isomeras?
ensym ansymudol a defnyddir yn cynhyrchiad ffrwctos
sut mae ensymau ansymudol yn cael ei ddefnyddio wrth creu syrup corn sy’n cynnwys llawer o ffrwctos (HFCS)?
wrth i’r toddiant llifo heibio’r peli alginad mae’r glwcos yn tryledu mewn i’r gleiniau ac yn ffurfio cymhligyn ensym-swbstrad gyda’r ensym glwcos isomeras
bydd y cynnyrch ffrwctos yn tryledu allan o’r gleiniau ac yn llifo allan o’r gwaelod
sut defnyddir ensymau ansymudol i greu llaeth heb lactos?
wrth i’r llaeth llifo trwy’r colofn, mae’r swbstrad (lactos) yn tryledu i mewn i’r gleiniau alginad ac yn ffurfio cymhlygyn ensym-swbstrad gyda lactas
mae’r monosacaridau glwcos a galactos yn tryledu allan o’r gleiniau ac yn gadael y golofn gyda gweddill y llaeth
beth yw biosynhwyryddion?
dyfais sy’n cyfuno ensym gyda thrawsddygiadur (transducer) sy’n trawsnewid signal cemegol yn signal trydanol er mwyn mesur crynodiad cemegyn
beth yw manteision biosynhwyryddion?
gallu canfod, adnabod a mesur crynodiadau isel iawn o foleciwlau pwysig yn gyflym a manwl gywir
(yn wahanol i Benedict sydd ddim yn rhoi crynodiad, dim ond os yw’n bresennol neu beidio)
beth yw’r camau mae biosynhwyryddion yn cymryd i ganfod glwcos yn y gwaed?
- mae’r ensym glwcos ocsidas yn ansymudol ar bilen athraidd detholus sydd ond yn gadael glwcos trwy
- mae’r bilen yn cael ei osod mewn sampl o waed
- mae’r glwcos yn tryledu trwy’r bilen ac yn rhwymo gyda’r glwcos ocsidas
- mae’r ensym yn catalyddu’r adwaith
- mae’r hydrogen perocsid sy’n cael ei ffurfio o’r adwaith yn cael eu chanfod gan yr electrod sy’n cynhyrchu signal trydanol
- mwyaf yw’r signal trydanol, uwch yw crynodiad glwcos y gwaed