uned 1.1 - biocemeg Flashcards
beth yw swyddogaeth calsiwm?
cryfhau dannedd, esgyrn a nerfau mewn anifeiliaid
cryfhau waliau celloedd mewn planhigion
beth yw’r gwahaniaeth rhwng polar ac amholar?
amholar - dim gwefr
polar - gwefr bach
beth yw’r canran calsiwm yn y corff?
2%
beth yw’r canran ffosfforws yn y corff?
1%
ble mae ffosfforws yn y corff?
presennol mewn cellbilenni / ATP / asid niwcleig
beth yw’r canran magnesiwm yn y corff?
0.05%
beth yw swyddogaeth magnesiwm yn y corff?
cefnogi gweithrediad ensymau
cefnogi gweithrediad cloroffyl mewn planhigion
beth yw’r canran o haearn yn y corff?
0.004%
beth yw swyddogaeth haearn yn y corff?
cludo ocsigen (haemoglobin)
beth yw’r gwahaniaeth rhwng organig ac anorganig?
organig - moleciwlau gyda chyfran uchel o atomau carbon a hydrogen (e.e glwcos)
anorganig - moleciwl neu ion sydd ddim yn cynnwys mwy na un atom o carbon (e.e CO2)
pam ydy dwr yn moleciwl polar/deupol?
mae ganddo 2 wefr
atomau hydrogen - wefr rhannol bositif (delta positif)
atom ocsigen - wefr rhannol negatif (delta negatif)
pa bondiau sydd yn bresennol mewn dwr? pam?
bondiau hydrogen
ffurfio oherwydd ei polaredd - mae’r moleciwlau dwr yn denu ei gilydd trwy ffurfio bondiau hydrogen
priodweddau dwr
Mae ia yn llai dwys na dwr - beth yw arwyddocad hyn?
mae’r ia yn ffurfio haen dros wyneb cynefinoedd dyfrol
nid yw chynefinoedd dyfrol yn rhewi’n solet, felly gall yr anifeiliaid symud/nofio o hyd
priodweddau dwr
dwr yn hylif ar ran fwyaf o dymhereddau daearol - beth yw arwyddocad hyn?
gellir ei ddefnyddio fel cyfrwng trafnidiaeth
e.e yn waed mamolion, cludo ionau wedi’i hydoddi i fyny’r sylem
priodweddau dwr
mae dwr yn di-liw/tryloyw - beth yw arwyddocad hyn?
golau yn gallu cyrraedd planhigion dyfrol i ffotosyntheseiddio; gall golau fynd drwy cytoplasm celloedd planhigion i gyrraedd y cloroplastau
priodweddau dwr
mae gan ddwr dyniant arwynebedd uchel - beth yw arwyddocad hyn?
gall arwyneb y dwr gefnogi’r mas llawer o organebau a dod yn gynefin iddynt
priodweddau dwr
mae gan ddwr gynhwysedd gwres sbesiffig uchel - beth yw arwyddocad hyn?
gall amsugno llawer o egni gyda chynnydd bach yn tymheredd. Nid yw tymheredd celloedd a chynefinoedd dyfrol yn newid yn gyflym felly’r amodau’n parhau’n sefydlog
- defnyddiol tu mewn i gelloedd gan nad yw’r ensymau’n dadnatureiddio
priodweddau dwr
mae gan ddwr wres cudd anweddu uchel - beth yw arwyddocad hyn?
mae angen llawer i egni i anweddu dwr fel bod organebau’n defnyddio anweddiad dwr i oeri e.e chwysu
nid yw cynefinoedd dyfrol yn diflannu’n hawdd trwy anweddiad
mae gan ddwr briodweddau cydlynol ac adlynol cryf - beth yw arwyddocad hyn?
oherwydd y bondiau hydrogen, mae moleciwlau dwr yn glynu gyda’i gilydd (cydlyniad), ac yn glynu gyda sylweddau gyda gwefr neu amholar arall (adlyniad)
carbohydradau
beth yw monosacarid?
= uned symlaf carbohydradau gan nad ydynt yn gallu gael ei symleiddio bellach
carbohydradau
beth yw fformiwla cyffredinol carbohydradau?
CnH2nOn
lle mae n = nifer yr atomau
carbohydradau
beth yw isomerau adeileddol?
moleciwlau gyda’r un fformiwla cemegol a’r un nifer o atomau ond gyda wahanol drefniadau o’u hatomau
carbohydradau
beth yw isomeriaeth alffa/beta?
beth yw’r abbreviation i gofio?
gwahaniaeth yn yr adeiledd sef safle’r grwp OH ar atom carbon 1
COFIO ABBA - Alffa Below, Beta Above!!
carbohydradau
beth yw deusacaridau?
siwgrau a wneir o ddwy uned o monosacarid
carbohydradau
sut ffurfir deusacaridau?
trwy adwaith cyddwysiad
- ffurfio bond glycosidaidd a moleciwl o ddwr
sut torrir deusacaridau?
torri’r bond glycosidaidd trwy adwaith hydrolysis
mewnosodir dwr yn cemegol
carbohydradau
beth ydy maltos wedi’i ffurfio o?
2 alffa glwcos
- cofia bod y dau’r un peth
carbohydradau
beth ydy swcros wedi’i ffurfio o?
alffa glwcos a ffrwctos
carbohydradau
beth ydy lactos wedi’i ffurfio o?
beta galactos ac alffa glwcos
- cofio gaLACTOS yn ffurfio lactos
carbohydradau - polysacaridau
beth ydy polysacaridau?
- carbohydradau cymhleth
- moleciwlau mawr sy’n cynnwys cadwyni o fonosacaridau sy’n gysylltu gyda bondiau glycosidaidd
carbohydradau - polysacaridau
startsh - beth yw strwythr amylopectin?
- moleciwl canghennog
- cynnwys bondiau glycosidaidd alffa 1-4
- cynnwys bondiau glycosidaidd alffa 1-6 lle mae cangen
carbohydradau - polysacaridau
startsh - beth yw strwythr amylos?
- moleciwl torchog sy’n ffurfio helics
- dim ond bondiau glycosidaidd alffa 1-4
carbohydradau - polysacaridau
glycogen - beth yw ei strwythr a swyddogaeth?
strwythr - bondiau glycosidaidd 1-4 ac 1-6
swyddogaeth - storfa carbohydradau/egni
carbohydradau - polysacaridau
cellwlos - beth yw’r bondiau a pam?
- bondiau glycosidaidd beta 1-4 sy’n ffurfio rhwng y moleciwlau cyfagos (achos mae nhw wedi cylchdroi 180 fel bod yr OH wedi’i trefnu mewn rhes a gellir tynnu moleciwl dwr i ffurfio’r bond)
- bondiau hydrogen (sy’n dal y cadwyni at ei gilydd yn creu edafedd hir sef microffibrolion)
carbohydradau - polysacaridau
beth yw rhai o nodweddion cellwlos?
- cryfder tynnol uchel iawn sy’n anodd torri pan gaiff ei ymestyn
- anodd iawn treulio achos y niferoedd uchel o fondiau hydrogen rhwng y cadwyni
- celloedd yn gwbl anhydawdd
carbohydradau - polysacaridau
summary - pa dau polysacarid sydd yn alffa glwcos? pa dau sydd ddim?
startsh a glycogen - alffa glwcos
cellwlos a citin - beta glwcos
carbohydradau - polysacaridau
summary - pa tair polysacarid caiff ei ddarganfod mewn planhigion? pa un sydd mewn anifeiliaid?
planhigion - cellwlos, amylos, amylopectin
anifeiliaid - glycogen
carbohydradau - polysacaridau
pam ydy’r canghennau mewn amylopectin a glycogen yn fantais?
- gwell am ryddhau glwcos achos bod mwy o bennau lle gellir hydrolysu’r bondiau glycosidaidd a rhyddhau glwcos
- y mwy o glwcos sy’n cael ei rhyddhau, y mwy effeithiol yr resbiradaeth a cynhyrchiant ATP
carbohydradau - heteropolysacaridau
lle gellir darganfod citin?
cellfuriau ffyngau
sgerbydau allanol pryfed
carbohydradau - heteropolysacaridau
pam ydy citin yn heteropolysacarid a nid jyst polysacarid?
mae’n cynnwys yr elfen nitrogen
carbohydradau - heteropolysacaridau
pa bond sy’n ymuno citin?
bond glycosidaidd beta 1-4
carbohydradau - heteropolysacaridau
pam oes gan citin cryfder tynnol mwy na cellwlos?
mae gan citin mwy o bondiau hydrogen oherwydd y grwpiau ochr sy’n cynnwys nitrogen
triglyseridau
beth ydy triglyserid?
moleciwlau sy’n ffurfio brasterau neu olew
triglyseridau
beth ydy triglyseridau wedi’i wneud o?
1 glyserol a 3 asid brasterog
triglyseridau
pa adwaith sy’n ffurfio triglyseridau? pa adwaith sy’n datod triglyseridau?
ffurfio - adwaith cyddwysiad sy’n rhyddhau 3 moleciwl o ddwr
datod - adwaith hydrolysis trwy mewnosod 3 moleciwl dwr
triglyseridau
beth yw enw’r bond mewn triglyseridau? lle mae e?
bond ester
rhwng y carbon a’r ocsigen o’r triglyserid
triglyseridau
lipidau - braster ac olew
pa un yw solet/hylif ar dymheredd ystafell?
braster - solet ar dymheredd ystafell
olew - hylif ar dymheredd ystafell
triglyseridau
beth yw’r gwahaniaeth rhwng y cadwyni hydrocarbon mewn braster ac olew?
braster - cadwyn hydrocarbon hir
olew - cadwyn hydrocarbon byr
triglyseridau
beth yw swyddogaethau triglyseridau?
- mwy effeithlon na charbohydradau
- ynysyddion thermol dda
- darparu amddiffyniad mecanyddol ar gyfer organau sensitif
- darparu hynofedd i anifeiliaid dyfrol achos mae braster yn llai dwys na dwr
- rhai anifeiliaid yn taenu olew ar eu ffwr neu plu i fod yn wrth ddwr
triglyseridau
pa bondiau sydd rhwng yr atomau carbon mewn asidau brasterog dirlawn?
bondiau sengl
triglyseridau
beth ydy asidau brasterog dirlawn yn ffurfio ar dymheredd ystafell?
brasterau (solet)
triglyseridau
pa bondiau sydd rhwng yr atomau carbon mewn asidau brasterog annirlawn?
bond dwbl carbon-carbon
triglyseridau
beth ydy asidau brasterog annirlawn fel arfer yn ffurfio ar dymheredd ystafell?
olew (hylif)
triglyseridau
pa asid brasterog sydd gyda ymdoddbwynt is a pham?
annirlawn neu dirlawn
asidau brasterog annirlawn gyda ymdoddbwynt is achos mae’r grymoedd atyniad rhwng yr asidau brasterog yn wannach, felly mae angen llai o egni i dorri’r bondiau a thoddi’r braster
ffosffolipidau
beth ydy ffosffolipidau’n cynnwys?
- moleciwl glyserol
- pen ffosffad hydroffobig
- dwy gadwyn asid brasterog hydroffobig
- bond ester rhwng y glyserol a’r asidau brasterog
ffosffolipidau
beth sy’n digwydd wrth arllwys ffosffolipidau mewn i ddwr?
- ffurfio haen deuol (bilayer)
- pen hydroffilig yn cael ei denu i foleciwlau dwr
- cynffonau hydroffobig yn cael ei gwrthyrru gan foleciwlau ddwr ac yn cuddio o’r ddwr
braster polyannirlawn - da/drwg? HDL? LDL?
- da
- gostwng LDL y corff (colestrol drwg)
braster monoannirlawn - da/drwg? HDL? LDL?
- da
- gostwng LDL (colestrol drwg)
- cynnal HDL (colestrol da)
braster dirlawn - da/drwg? HDL? LDL?
- canol (bwyta’n gymedrol)
- cynyddu LDL (colestrol drwg)
braster traws - da/drwg? HDL? LDL?
- drwg
- cynyddu LDL (colestrol drwg)
- lleihau HDL (colestrol da)
proteinau
beth yw polymer?
protein sy’n cynnwys tua 20 is-uned asid amino
beth ydy pob asid amino yn cynnwys?
- carbon canolog
- grwp amino NH2
- grwp carbosilig COOH
- atom hydrogen H
- grwp amrywiol R
proteinau
beth yw enw’r bond rhwng y grwp carbocsyl ac amino mewn protein?
bond peptid
proteinau
beth sy’n ffurfio mewn adwaith cyddwysiad protein?
deupeptidau, polypeptidau a dwr
proteinau
beth sy’n cyfuno mewn adwaith hydrolysis protein?
polypeptidau, asidau amino a ddwr yn cyfuno i roi protein
proteinau
beth yw adeiladd cynradd protein?
dilyniant o asidau amino mewn cadwyn polypeptid
proteinau
beth ydy adeiledd eilaidd protein yn cynnwys? pa bond sy’n ffurfio?
llawer o grwpiau polar (amino a carbocsylig)
bond hydrogen
proteinau
pa bondiau ydy’r adeiledd trydyddol protein yn cynnwys?
- ionig
- pont deusylffid (2 sylffwr yn bondio)
- bondiau hydrogen
proteinau
pa siap ydy adeiledd trydyddol protein?
crwn, cryno, 3D
proteinau
beth ydy adeiledd cwaternaidd protein?
trefniant o gadwyni polypeptid gyda adeileddau cynradd, eilaidd a weithiau trydyddol
proteinau
summary - beth yw’r trefn adeiledd proteinau?
cynradd
eilaidd
trydyddol
cwaternaidd