uned 2.3 - cludiant Flashcards
beth yw nodweddion y system cylchrediad?
-cyfrwng addas
-system o bibellau
-pwmp
-falfiau
-pigment resbiradol
oes gan mwydyn (prif genwair) system cylchrediad agored neu caeedig?
caeedig
pa pigment ydy gwaed mwydyn yn cynnwys?
haemoglobin
beth yw ystyr fasgwlareiddio?
mae’n cynnwys system caeedig o bibellau gwaed
pam bod system cylchrediad mwydyn yn cael ei alw’n caeedig?
mae’r gwaed yn cylchrhedeg mewn system barhaus o diwbiau sef bibellau gwaed
pa lliw yw gwaed mwydyn a pam?
coch oherwydd mae’n cynnwys haemoglobin sy’n cario O2
sut mae ocsigen yn cyrraedd gwaed y mwydyn?
tryledu i mewn i’r mwydyn drwy ei groen llaith
oes gan bryfed system cylchrediad agored neu caeedig?
agored
beth yw siap calon pryfed?
siap tiwb dorsal
beth yw ystyr dorsal?
cefn
pa lliw yw gwaed pryfed a pam?
melyn achos nid yw’n cynnwys haemoglobin
beth mae gwaed pryfed yn cario?
glwcos, wrea a cemegion arall
pam bod system cylchrediad pryfed yn cael ei ddisgrifio fel agored?
nid yw’r gwaed yn aros yn y system cylchrediad, mae’n gadael y pibellau ac yn llifo o gwmpas meinweoedd
oes gan pysgod system cylchrediad caeedig neu agored?
caeedig
o ble daw’r ocsigen sy’n cael eu cludo yng nghwaed pysgod?
dwr
beth yw un o anfanteision mwyaf system cylchrediad sengl pysgod?
nid yw’n medru amrywio gwasgedd gwaed i’r tagellau a’r corff
pa fath o system cylchrediad sydd gan famolion?
dwbl caeedig
beth yw manteision system cylchrediad dwbl? (5)
-gallu amrywio gwasgedd y gwaed
-cylchrediad ar wahan i’r corff a’r ysgyfaint
-gwahanu’r gwaed di-ocsigenedig ac ocsigenedig
-cynnal pwysedd gwaed uchel i feinweoedd y corff
-pwysedd gwaed is i’r ysgyfaint
beth yw 3 math o bibell waed?
-rhydweliau
-gwythiennau
-capilariau
lle mae’r rhydweli yn cario gwaed?
o’r galon
beth ydy haen allanol rhydweli wedi’i wneud o?
colagen
pam ydy haen allanol rhydweli wedi’i wneud o golagen?
trwchus i wrthsefyll pwysedd gwaed uchel
beth ydy haen ganol rhydweliau?
edafedd elastig a cyhyryn llyfn
pam ydy haen ganol rhydweliau wedi’i wneud o edafedd elastig a cyhyryn llyfn?
mae’n caniatau i’r bibell ymestyn ac adlamu nol
beth yw pwrpas yr endotheliwm llyfn?
lleihau ffrithiant rhwng y gwaed a’r bibell
beth sy’n uno i greu gwythien?
gwythiennigau
pa trwch o lwmen sydd mewn gwythiennau?
mawr
beth yw rol y cyhyrau sy’n cwmpasu gwythiennau?
gwasgu gwythiennau ac helpu llif y gwaed
beth sydd gyda pwysedd gwaed is - rhydweliau neu gwythiennau?
gwythiennau
beth rol y capilariau?
cyfnewid sylweddau rhwng y gwaed a celloedd
beth yw trwch y capilariau?
trwch wal un gell
beth sy’n gwthio rhannau hylifol y gwaed allan o’r bibell mewn capilariau?
gwasgedd
pa sylweddau sy’n symud allan o’r capilariau?
glwcos ac ocsigen
pa sylweddau sy’n symud mewn i’r capilariau?
wrea, carbon deuocsid a dwr
mae gan gapilariau cyfanswm ____ _____ mwyaf
mae gan gapilariau cyfanswm arwynebedd trawsdoriad mwyaf
oes gan gapilariau pwysedd gwaed uchel neu isel?
isel
sut allwch cynyddu’r pwysedd gwaed yn y gwythiennau?
trwy tylino (massage) cyhyrau ysgerbydol
beth yw pwysigrwydd y pibellau coronaidd?
darparu gwaed i’r galon
pam ydy wal y fentrigl chwith yn dewach na’r fentrigl dde?
mae’r fentrigl chwith yn darparu gwaed i’r corff lle mae’r fentrigl dde ond yn darparu gwaed i’r ysgyfaint sy’n agos i’r galon
pam ydy pwysedd gwaed yn yr ysgyfaint yn isel?
osgoi pibellau gwaed yn mynd yn rhwystredig felly’n wneud hi’n anodd i waed llifo trwy’r ysgyfaint
disgrifiwch llif y gwaed trwy’r galon
gwaed yn llifo mewn i’r fena cafa - atriwm dde - falf atrio-fentriglaidd de - fentrigl dde - falf cilgant - rhydweli ysgyfeiniol chwith - gwythiennau ysgyfeiniol chwith - atriwm chwith - falf atrio-fentriglaidd chwith - fentrigl chwith - falfiau cilgant - aorta - o gwmpas y corff
beth yw’r camau systole atriaidd?
-atria’n cyfangu
-gwaed yn llifo drwy’r falfiau atrio-fentriglaidd (dwyrlen a teirlen) i mewn i’r fentriglau
-dydy’r pwysedd sy’n datblygu yn ystod y cyfangiad hwn ddim yn fawr iawn achos waliau tenau’r atria
-falfiau’n cau i atal ol-lifiad
beth yw’r camau mewn systole fentriglaidd?
-fentriglau’n cyfangu (tua 0.1 eiliad ar ol y systole atriaidd)
-falfiau atrio-fentriglaidd yn cau achos pwysau uwch y fentrigl
-falfiau cilgant yn yr aorta a’r rhydweli ysgyfeiniol yn agor
-gwaed yn llifo i’r rhydweliau
-systole fentriglaidd yn para tua 0.3 eiliad
-waliau cyhyrog trwchus yn cynhyrchu pwysedd uwch yn y fentriglau
beth yw’r camau mewn diastole?
-cyhyr y galon i gyd yn llaesu
-gwaed yn llifo o’r gwythiennau i mewn i’r atria
-cylchred cardiaidd yn dechrau eto
beth yw’r camau mewn diastole fentriglaidd?
-cyhyr y galon yn llaesu a gwasgedd y fentriglau’n gostwng
-falfiau cilgant yn cau’n gyflym iawn i atal ol-lifiad gwaed o’r rhydweli i’r fentriglau
beth yw’r 10 cam sydd ar graff sy’n ddangos newidiadau mewn gwasgedd a chyfaint tu fewn i’r galon yn ystod y cylch cardiaidd?
- systole atriaidd. mae waliau’r atria’n cyfangu; mae hyn yn cynyddu’r pwysedd yn yr atria. mae’r gwaed yn cael ei orfodi drwy’r falfiau atrio-fentriglaidd i mewn i’r fentriglau
- mae’r falfiau atrio fentriglaidd yn cau wrth i’r pwysedd yn y fentriglau dechrau cynyddu
- systole fentriglaidd. mae wal y fentrigl yn cyfangu ac mae’r pwysedd yn cynyddu’n gyflym
- mae’r falfiau cilgant yn agor. mae pwysedd gwaed uchel yn gorfodi’r falfiau i agor
- mae’r pwysedd yn cynyddu yn yr aorta wrth i’r gwaed gael ei gorfodi i mewn
- mae’r falfiau cilgant yn cau oherwydd gostyngiad yn y pwysedd fentriglaidd
- mae wal yr aorta’n adlamu’n elastig gan achosi i’r pwysedd cynyddu
- mae’r pwysedd yn parhau i ostwng yn y fentriglau
- mae’r falf atrio-fentriglaidd yn agor wrth i’r pwysedd yn y fentrigl gostwng
- mae’r atria’n llenwi’n oddefol wrth i’r gwaed ddychwelyd o’r gwythiennau
- yn ystod y cyfnod hwn mae wal y fentrigl yn llaesu; diastole fentriglaidd yw hyn
pa fath o gyhyr sy’n ffurfio’r galon?
cardiaidd
mae’r cyhyr cardiadd yn ___
myogenic
beth a olygir wrth ddweud bod cyhyr cardiaidd yn myogenic?
mae’n dechrau impyls trydanol ar ben eu hun (heb ysgogiad)
pa organigyn cell sy’n niferus iawn mewn celloedd cyhyr cardiaidd? pam?
mitochondria
-oherwydd mae llawer o resbiradaeth yn digwydd yn cyhyrau
beth yw camau rheoliadur curiad y calon? (egluro)
-dechrau yn y nod sino-atriaidd yn wal yr atriwm dde
-ton gyffro yn teithio o nod 1 ar draws yr atria sy’n achosi’r atria i gyfangu
-cyffroad yn cyrraedd y nod atrio-fentriglaidd ac ar ol oediad byr bydd ysgogiad yn teithio lawr Bwndwl His i mewn i ffibrau Pwrkyne
-achosi i’r fentriglau gyfangu o’r gwaelod i fyny
beth yw’r 4 cam (simplified) mewn rheoliadur curiad y calon?
- nod sino-atriaidd
- nod atrio-fentriglaidd
- bwndel his
- ffibrau pwrkyne
pam bod hi’n bwysig fod y fentriglau’n cyfangu o’r gwaelod lan mewn rheoliadur curiad y calon?
sicrhau bod yr holl gwaed yn cael ei gwthio i fewn i’r rhydweliau
pam bod hi’n bwysig bod yr atria yn cael eu hysgogi i gyfangu cyn y fentriglau mewn rheoliadur curiad y galon?
rheoli cyfeiriad llif y gwaed
beth ydy ECG yn sefyll amdano?
electrocardiogram
beth ydy ECG yn mesur?
y 3 digwyddiad rheoliadur curiad y calon
beth sy’n digwydd yn ystod ton P mewn ECG?
systole atriaidd
beth sy’n digwydd yn tonnau QRS mewn ECG?
dangos yr ysgogiad trydanol yn mynd i waelod y fentriglau drwy wal y fentrigl
beth yw enw’r llinell ar ECG?
llinell isodrydanol
beth sy’n digwydd yn ystod ton T mewn ECG?
diastole fentriglaidd
beth ydy’r gwaed yn cynnwys?
hylif (plasma) a celloedd - coch, gwyn a phlatennau
pa canran o plasma sydd yn y gwaed?
55%
pa canran o gelloedd sydd yn y gwaed?
45%
beth ydy plasma yn cludo? nodwch enghreifftiau
cludo sylweddau wedi hydoddi
-hormonau
-glwcos
-CO2
-asidau amino
-bwyd
-cynhyrchion ysgarthol e.e wrea
pa lliw yw plasma?
melyn
pa pigment ydy celloedd coch y gwaed yn cynnwys?
haemoglobin
esboniwch addasiadau/nodweddion celloedd coch
-siap deugeugrwm i gynyddu arwynebedd arwyneb er mwyn amsugno/gludo mwy o ocsigen
-dim cnewyllyn i gael mwy o le am haemoglobin
-cynnwys haemoglobin sef pigment resbiradol
beth sy’n cario’r ocsigen o’r ysgyfaint i’r meinwe mewn mamolion? (pigment)
haemoglobin
pa fath o brotein yw haemoglobin?
cwaternaidd sy’n cynnwys haearn
beth ydy ocsigen a haemoglobin yn ffurfio?
ocsihaemoglobin
beth sy’n esbonio’r ffordd mae haemoglobin yn uno gyda ocsigen?
cromlin daduniad ocsigen
pa siap yw cromlin daduniad ocsigen?
Sigmoid (S)
beth ydy cromlin daduniad ocsigen yn dangos?
dirlawnder haemoglobin gyda ocsigen % ar wasgedd rannol ocsigen
y mwyaf y dirlawnder, y mwyaf o ___ mae haemoglobin wedi rhwymo gyda, felly mwy o ___
O2
Ocsihaemoglobin
ar wasgedd ocsigen rhannol uchel beth yw affinedd yr ocsigen i haemoglobin?
affinedd uchel
beth a olygir wrth ddweud bod gan O2 affinedd uchel?
mae’r haemoglobin yn rhwymo wrth ocsigen yn mwy rwydd
ar wasgedd ocsigen rhannol isel beth yw affinedd yr ocsigen i haemoglobin?
affinedd isel
beth a olygir wrth ddweud bod gan O2 affinedd isel?
mae’n anoddach i’r haemoglobin rhwymo gyda’r ocsigen
wrth i wasgedd rhannol uchel O2 gostwng, mae dirlawnder yr haemoglobin yn ___ felly’r ocsihaemoglobin yn daduno gan ____ O2 am resbiradaeth aerobig
gostwng
rhyddhau
disgrifiwch beth a olygir gan Effaith Bohr
Hb gyda affinedd isel am O2 mewn bresenoldeb CO2
Effaith Bohr - wrth cynyddu’r crynodiad CO2 yn y gwaed, mae cromlin daduniad ocsigen yn symud i’r ___
dde
wrth cynyddu CO2 ydy affinedd Haemoglobin am O2 yn lleihau neu cynyddu?
lleihau
sut ydy babanod yn y groth yn derbyn ocsigen?
o waed y fam ar draws y placenta/brych
pam oes angen i affinedd haemoglobin y babi yn y groth fod yn uwch nag affinedd haemoglobin y fam ar ppO2 isel?
achos mae cellraniad angen egni, a mae llawer o gellraniad yn digwydd wrth i faban tyfu
lle gellir darganfod myoglobin?
cyhyrau
pryd ydy myoglobin yn rhyddhau ocsigen?
mewn cyfnodau o ymarfer caled. ar ol i haemoglobin rhyddhau ei holl ocsigen, a pham bydd ppO2 cyhyrau yn isel iawn, fydd myoglobin yn dechrau rhyddhau ei ocsigen
beth yw trefn
-haemoglobin ffetws
-haemoglobin normal
-myoglobin
ar graff daduniad ocsigen?
(chwith)
myoglobin
haemoglobin ffetws
haemoglobin normal
(dde)
pa lliw yw myoglobin?
coch llachar e.e steak
pa ganran o carbon deuocsid sy’n cael ei gludo wedi ymdoddi yn y plasma?
5%
pa ganran o carbon deuocsid sy’n cael ei gludo wedi bondio i broteinau?
10%
pa ganran o carbon deuocsid sy’n cael ei gludo fel ionau hydrogen carbonad?
85%
nodwch ac esboniwch y 7 cam yn cludiant carbon deuocsid sy’n ffurfio ionau carbonad mewn cell coch y gwaed
- CO2 yn y gwaed yn tryledu i’r cell coch
- Mae’r carbonig anhydras yn catalyddu’r cyfuniad o CO2 a H2O gan ffurfio asid carbonig
- Mae asid carbonig yn daduno i ffurfio ionau H+ a HCO3-
- Mae’r ionau HCO3- yn tryledu allan o’r gell coch i’r plasma
- I gydbwyso llif ionau negyddol tuag allan a chynnal niwtraliaeth trydanol, mae ionau Cl- yn tryledu i’r cell coch o’r plasma. Y syfliad clorid yw’r symudiad hyn
- Mae’r ionau H+ yn achosi i ocsihaemoglobin daduno i ffurfio haemoglobin. Mae’r ionau H+ yn cyfuno gyda’r haemoglobin i wneud asid haemoglobonig HHB. Mae hyn yn cael gwared ar yr ionau H+ felly dydy pH y gell ddim yn gostwng
- Mae O2 yn tryledu allan o’r gell ac i’r meinweoedd
diffiniwch hylif meinweol
plasma heb y proteinau plasma, sy’n cael ei orfodi drwy waliau capilariau, gan drochi celloedd a llenwi’r gofod rhwng y celloedd
beth yw pwysedd hydrostatig?
gwasgedd y gwaed wrth iddo llifo drwy’r bibellau gwaed
sut fyddai crynodiad isel o brotein yn y gwaed yn effeithio ar gynhyrchiant hylif meinweol?
Graddiant uwch o ddwr yn y gwaed a llai o ddwr yn cael ei adamsugno trwy osmosis sy’n lleihau’r graddiant potensial dwr. Felly’r hylif meinweol yn cronni.
beth yw lymff?
hylif (tua 10%) sy’n cael ei amsugno o’r gofod rhwng celloedd i gapilariau lymff, yn hytrach nag yn ol i gapilariau
beth ydy’r sylem yn cludo?
cludo dwr a mwynau i fyny’r planhigyn (trydarthiad)
beth ydy’r ffloem yn cludo?
cludo cynhyrchion ffotosynthesis i ddau gyfeiriad e.e swcros, asidau amino (trawsleoliad)
planhigion - beth yw swyddogaeth y cwtigl?
-lleihau colled dwr drwy anweddiad
-tryloyw i ganiatau i olau fynd drwodd ar gyfer ffotosynthesis
planhigion - beth yw swyddogaeth yr epidermis?
-diogelu’r coesyn
-gall fod ganddynt flew i atal bryfed/anifeiliaid rhag eu bwyta
planhigion - beth yw swyddogaeth y colencyma?
cellfuriau wedi’u tewychu gyda chellwlos i gryfhau’r coesyn wrth aros yn hyblyg
planhigion - beth yw swyddogaeth y cortecs a’r parencyma?
-gall weithredu fel organ storio
-mae gwagleoedd rhyng-gellol yn caniatau symud dwr ac ionau a nwyon
planhigion - beth yw swyddogaeth y bywyn parencyma?
celloedd a waliau tenau sy’n gweithredu fel meinwe pacio - yn aml yn torri i lawr
planhigion - beth yw swyddogaeth y sylem?
-cludo dwr ac ionau o’r gwreiddiau i’r coesyn a’r dail
-rhoi cymorth i’r planhigyn
planhigion - beth yw swyddogaeth y ffloem?
cludo cynnyrch ffotosynthesis i’r gwreiddiau o’r dail
planhigion - beth yw swyddogaeth y cambiwm?
meinwe meristematig sy’n gallu cael mitosis i gynhyrchu mwy o sylem a ffloem
disgrifiwch y llwybr apoplast
mae dwr yn symud yn y cellfuriau. mae dwr yn symud trwy’r gofodau rhwng y ffibrau cellwlos yn y cellfur
disgrifiwch y llwybr symplast
dwr yn symud drwy’r cytoplasm a’r plasmodesmata i cytoplasm
lle ydy’r dwr yn symud trwy yn y llwybr
-gwagolaidd
-symplast
-apoplast
gwagolaidd - gwagolyn
apoplast - cellfuriau
symplast - cytoplasm
disgrifiwch y llwybr gwagolynnol
mae dwr yn symud o wagolyn i wagolyn i lawr graddiant potensial dwr drwy gyfrwng osmosis
beth ydy’r band casparaidd wedi’i wneud o?
swberin
beth ydy’r band casparaidd yn yr endodermis yn wneud?
blocio symudiad dwr yn yr apoplast fel bod y dwr yn symud i’r cytoplasm. ffordd o reoli’r dwr
beth yw trefn yr haenau mae angen i ddwr symud trwyddo mewn planhigion?
epidermis -> cortecs -> endodermis -> periseicl -> sylem
sut ydy’r band casparaidd yn medru rheoli symudiad dwr mewn i’r sylem?
- cludiant actif mwynau i’r sylem
- potensial dwr yn y sylem yn gostwng
- dwr yn symud drwy lwybr symplast o’r endodermis i’r sylem
beth yw diffiniad trydarthiad?
colli dwr ar ffurf anwedd dwr o’r dail ac o rannau eraill o’r planhigyn sydd uwchben y ddaear allan drwy’r stomata ac i’r atmosffer
sut mae trydarthiad yn digwydd?
dwr yn symud o’r gwraidd i’r sylem, i fyny drwy’r coesyn i’r dail ac mae rhan fwyaf ohono’n anweddu
i ble mae’r dwr sydd ddim yn cael ei ddefnyddio yn ystod trydarthiad yn mynd?
celloedd balis ar gyfer ffotosynthesis
symudiad dwr o’r gwreiddiau i’r dail - sut?
-cydlyniad (atyniad dwr at ei gilydd)
-adlyniad (atyniad i leinin hydroffilig y sylem)
-capilaredd (symudiad dwr i fyny tiwbiau cul y sylem)
-gwasgedd gwraidd/hydrostatig (symudiad osmotig dwr i mewn i’r sylem yn gwthio dwr lan y sylem)
enwch y 4 ffactor sy’n effeithio gyfradd trydarthiad
-tymheredd
-lleithder
-symudiad aer
-arddwysedd golau
beth ydy potomedr yn mesur?
cyfradd trydarthu
sut ydych chi’n cydosod potomedr yn gywir?
-torrwch y cyffun dan ddwr
-cadwch y dail yn sych
-cydosodwch y cyfarpar dan dwr
-pob uniad yn aerglos