Bioleg 2.4: Addasiadau ar gyfer Maeth Flashcards
Beth ydy pob organeb awtotroffig yn defnyddio?
Moleciwlau anorganig syml i syntheseiddio moleciwlau organig cymhleth.
Beth yw disgrifiad ac enghraifft o Ffototroffig?
Defnyddio egni golau i syntheseiddio moleciwlau organig cymhleth.
Adwaith yw ffotosynthesis, defnyddir CO2 a dwr i greu glwcos.
Enghraifft: Planhigion, rhai bacteria a rhai protoctista.
Beth yw disgrifiad ac enghraifft o Cemoawtotroffig?
Defnyddio egni o adweithiau cemegol i syntheseiddio moleciwlau organig cymhleth.
Enghraifft: Bacteria sy’n byw mewn agorfeydd hydrothermal a bacteria nitreiddio.
Beth ydy organebau heterotroffig yn wneud?
Bwyta ac yn hydrolysu moleciwlau organig cymhleth i ffurfio moleciwlau hydawdd sy’n cael eu hamsugno a’u cymathu.
Beth ydy organebau heterotroffig yn dibynnu ar?
Awtotroffau fel ffynhonnell bwyd.
Beth yw disgrifiad ac enghraifft o Holosoig?
Yn amlyncu bwyd ac yna’n ei dreulio’n fewnol.
Cynnwys amlyncu, treulio, amsugno, cymathu a charthu.
Enghraifft: Bron pob anifail e.e bodau dynol.
Beth yw disgrifiad ac enghraifft o Saprotroffig?
Bwydo ar ddeunydd sy’n farw neu sy’n pydru.
Treulio eu bwyd yn allgellog drwy secretu ensymau treulio ar sylweddau bwyd tu allan i’r corff ac yna’n amsugno’r cynnyrch hydawdd ar draws y gellbilen trwy drylediad.
Enghraifft: Ffwng a bacteria.
Beth yw disgrifiad ac enghraifft o Parasitig?
Byw ar organeb letyol.
Parasite yn bwydo ar yr organeb letyol ac yn achosi niwed iddi.
Beth gelwir Saproffytau a pam maent yn bwysig?
Ddadelfenyddion ac maent yn bwysig er mwyn pydru deunydd gwastraff ac ailgylchu maetholion gwerthfawr fel carbon a nitrogen.
Beth yw Detritysyddion?
Organebau sy’n bwydo ar ddeunydd marw.
Beth yw Parasitiaid?
Organebau hynod o arbenigol sy’n cael eu maeth ar draul organeb letyol.
Organeb letyol ddim yn elwa o hyn, ac mae’n aml yn cael ei niweidio.
Beth yw Ectoparasit ac Endoparasit?
Parasit sy’n byw ar organeb letyol.
Parasit sy’n byw y tu mewn i organeb letyol.
Enghraifft o ectoparasit - Sut ydy Lleuen y pen yn bwydo?
Bwydo drwy sugno gwaed o groen pen yr organeb letyol.
Enghraifft o ectoparasit - Sut ydy Lleue y pen wedi addasu?
I aros ar yr organeb letyol drwy ddatblygu crafangau sy’n gafael yng ngwallt yr organeb letyol a dodwy wyau sy’n gludo ar waelod y gwallt.
Pa fath o parasit yw ectoparasit?
Ble yn unig ydynt yn fyw?
Parasitiaid anorfod.
Dim ond mewn gwallt dynol y gallant fyw.
Enghraifft o endoparasit - ble ydy’r llyngyren lawn dwf yn byw a beth yw’r organeb letyol?
Byw yn y coludd dynol.
Y bod dynol yw organeb letyol gynradd.
Beth yw organeb letyol eilaidd y llyngyren?
Moch - dyma lle mae’r ffurf larfa yn datblygu.
Sut caiff bodau dynol eu heintio?
Drwy fwyta porc sydd ddim wedi’i goginio’n iawn ac sy’n cynnwys larfau byw y llyngeren.
Beth sy’n digwydd yn yr organeb lletyol gynradd?
Lle mae ffurfiau llawn dwf y parasit yn datblygu.
Beth sy’n digwydd yn yr organeb lletyol eilaidd?
Lle ceir ffurfiau larfaidd o’r parasit yn ddatblygu.
Beth yw’r organeb lletyol eilaidd mewn rhai achosion?
Maent yn fectorau sy’n trosglwyddo’r parasit yn uniongyrchol o un prif letywr i brif letywr arall.
Beth yw 6 problem mae’r llyngyren yn wynebu wrth oroesi yn y coludd?
> Byw mewn amodau gyda pH eithafol.
Suddion treulio sy’n cynnwys ensymau a mwcws.
Peristalsis yn ei gorddi a’i wthio yn gyson.
System imiwn yr organeb letyol yn ceisio ei ddinistrio.
Os bydd yr organeb lletyol yn marw bydd y parasit yn marw.
Rhaid ddarganfod ffordd o drosglwyddo o un organeb letyol i’r llall.
Beth yw 6 addasiad y llyngyr i fyw yn system dreulio anifail?
> Pen sgolecs - mae ganddo fachau a sugnolynau i gydio ym mur y coludd i atal gwthio allan gan peristalsis.
Pob proglotid wedi’i orchuddio mewn cwtigl drwchus sy’n amddiffyn rhag newidiadau pH eithafol.
Maent hefyd yn secretu mwcws ac atalwyr ensymau o’r cwtigl i leihau’r risg o dreulio.
Coluddyn bach iawn a dim ceg. Mae’n amsugno maetholion sydd eisoes wedi’u treulio drwy ei chwtigl.
Corff wastad yn denau iawn er mwyn cynyddu’r arwynebedd arwyneb ar gyfer amsugno maetholion o gynhwysion y coludd.
Pob proglotid yn cynnwys organau atgenhedlol gwrywaidd a benywaidd. Medru hunan ffrwythloni.
Beth ydy Protoctista fel yr Amoeba gyda?
Cymhareb arwynebedd arwyneb i gyfaint mawr felly gallant cymryd maetholion i mewn ar draws eu pilen blasmaidd.