Bioleg 1.3 Cellbilenni a Chludiant Flashcards
Beth yw swyddogaethau’r gellbilen?
Mae’r bilen hefyd yn rheoli pa sylweddau sy’n mynd i mewn ac allan o’r gell.
Adnabod celloedd.
Beth ydy’r gellbilen wedi wneud o?
Mae’r gellbilen wedi’i gwneud bron yn llwyr o ffosffolipidau a phroteinau.
Beth ydy ffosffolipidau yn gallu ffurfio?
Mae ffosffolipidau’n gallu ffurfio dwyhaenau, lle mae un llen ffosffolipid yn ffurfio dros un arall.
Beth yw polaredd y pen ffosffad?
Mae pen ffosffad y ffosffolipid yn foleciwl polar (hydroffilig) ac yn cael ei atynnu at foleciwlau polar eraill fel dŵr.
Beth yw polaredd y 2 asid brasterog?
Mae 2 gynffon asid brasterog y ffosffolipid
yn amholar (hydroffobig) ac yn gwrthyrru dŵr.
Beth ydy’r cydran ffosffolipid yn caniatau?
Caniatáu i foleciwlau hydawdd mewn lipidau
(amholar) fynd i mewn ac allan o’r gell, ond yn atal moleciwlau hydawdd mewn dŵr (polar)
rhag gwneud hynny.
Sut ydy’r proteinau wedi trefnu yn y bilen?
Mae’r proteinau wedi’u trefnu ar hap yn wahanol i batrwm mwy rheolaidd y ffosffolipidau.
Ble ydy’r proteinau anghynhenid yn bodoli?
Ar arwyneb y ddwyhaen, neu wedi’u mewnblannu’n rhannol ynddi.
Beth ydy’r proteinau anghynenid yn gwneud?
Maent yn cynnal yr adeiledd. Maent
hefyd yn ffurfio safleoedd adnabod drwy adnabod celloedd.
Beth ydy’r proteinau cynhenid yn gwneud?
Pontio (mynd yr holl ffordd drwy) y ddwyhaen ffosffolipid.
Beth yw swyddogaethau proteinau cynhenid?
Mae rhai’n gweithredu fel sianeli neu gludyddion i hwyluso trylediad moleciwlau polar (hydawdd mewn dŵr), fel ïonau, ar draws y gellbilen.
Mae proteinau cynhenid eraill yn ffurfio pympiau ac yn cyflawni cludiant actif yn erbyn graddiant crynodiad.
Beth yw’r fodel i ddisgrifio trefniad ffosffolipidau a phroteinau mewn cellbilenni?
Enw’r model oedd y model mosaig hylifol gan Singer a Nicholson.
Pam ydy’r ffosffolipidau’n hylifol?
Oherwydd mae pob moleciwl yn gallu symud mewn perthynas â’r lleill o fewn y bilen. Mae’r proteinau’n ffurfio patrwm mosaig o fewn y ddwyhaen ffosffolipid.
Beth yw swyddogaeth ddwy haen ffosffolipid?
Ffurfio sylfaen y gellbilen a chaniatáu cludiant moleciwlau bach
amholar i mewn ac allan o’r gell drwy gyfrwng trylediad syml e.e.
ocsigen a charbon deuocsid.
Beth yw swyddogaeth symudiad?
Mae’r haen ffosffolipid yn gallu symud. Mae cydrannau’r bilen yn rhydd
i symud o gwmpas ei gilydd. Dyma pam rydyn ni’n galw model Singer a
Nicholson yn fodel Mosaig Hylifol.
Beth yw swyddogaeth patrwm mosaig?
Mae’r proteinau wedi’u dotio drwy’r ddwyhaen ffosffolipid i gyd mewn trefniant mosaig.
Beth yw swyddogaeth colesterol?
Mae colesterol yn bodoli mewn celloedd anifail. Mae’n ffitio rhwng y
moleciwlau ffosffolipid, gan wneud y bilen yn fwy anhyblyg a sefydlog.
Beth yw swyddogaeth glycolipidau (glycocalycs)?
Adnabod celloedd eraill.
Beth yw swyddogaeth glycoproteinau?
Mae glycoproteinau (proteinau wedi cyfuno â pholysacarid) hefyd yn ymwthio allan o rai pilenni.
Sut ydy’r bilen yn gweithredu fel rhwystr?
Mae pilen arwyneb y gell yn ddetholus athraidd i ddŵr a rhai hydoddion. Mae sylweddau hydawdd mewn lipidau (amholar) yn gallu symud drwy’r bilen yn haws na sylweddau hydawdd mewn dŵr (polar).
Sut ydy moleciwlau bach heb wefr yn symud trwy’r bilen?
Yn rhwydd drwy gyfrwng trylediad syml.
Sut ydy moleciwlau hydawdd
mewn lipidau yn symud trwy’r bilen?
Mynd drwy’r bilen, drwy’r ddwyhaen ffosffolipid.
Sut ydy moleciwlau polar yn symud trwy’r bilen?
Mae craidd hydroffobig y bilen yn rhwystro cludiant ïonau a moleciwlau polar.
Sut ydy gronynnau a gwefr yn symud trwy’r bilen?
Ddim yn gallu tryledu ar draws canol amholar (hydroffobig) y ddwyhaen ffosffolipid gan eu
bod nhw’n anhydawdd mewn lipid.
Beth ydy’r proteinau cynhenid yn caniatau?
Caniatáu i’r gronynnau hyn groesi’r bilen.
Beth ydy sianeli a chludyddion yn caniatau?
Trylediad cynorthwyedig (trylediad gyda chymorth protein cynhenid).
Beth sy’n cyflawni cludiant actif?
Y pympiau.
Beth ydym yn gallu defnyddio i ymchwilio i athreidedd y bilen?
Betys coch.
Beth yw enw’r pigmentau coch mewn betys?
Betalainau.
Beth yw’r cyfradd trylediad betalainau allan o’r celloedd yn dibynnu ar?
Nifer o ffactorau, gan gynnwys tymheredd a chrynodiad NaCl.
Beth yw effaith cynyddu’r tymheredd ar athreidedd y gellbilen?
Ar dymheredd dros 40 o celsiws, mae’r gellbilen a’r tonoplast yn mynd yn fwy ansefydlog. Mae mwy o egni gwres yn arwain at fwy o egni cinetig. Mae’r ffosffolipidau’n dirgrynu mwy a mwy ac yn symud yn bellach oddi wrth ei gilydd. Mae hyn
yn cynyddu athreiddedd y bilen.
Felly, wrth i’r tymheredd gynyddu, mae athreiddedd y gellbilen a’r tonoplast yn cynyddu oherwydd bod mwy o darfu ar y pilenni.
Beth sy’n digwydd i proteinau yn y bilen ar dymhereddau uchel?
Maent yn dadnatureiddio, sydd hefyd yn ei
gwneud hi’n haws i’r betalainau dryledu allan o’r celloedd.
Beth yw’r effaith cynyddu crynodiad
ethanol?
Mae hydoddyddion organig fel ethanol yn hydoddi ffosffolipidau. Y mwyaf yw crynodiad yr ethanol, y mwyaf athraidd fydd y pilenni.
Beth yw effaith cynyddu crynodiad
sodiwm clorid?
Mae ïonau sodiwm (Na+) yn glynu wrth yr atomau ocsigen arbennau hydroffilig (ffosffad) y ddwyhaen ffosffolipid. Mae hyn yn lleihau symudedd y moleciwlau ffosffolipid felly mae
llai o’r betalain yn cael ei ryddhau. Wrth i grynodiad sodiwm clorid gynyddu, bydd yr athreiddedd yn lleihau.
Beth yw effaith cynyddu crynodiad
glanedydd?
Mae glanedyddion yn lleihau tyniant arwyneb ffosffolipidau ac yn gwasgaru’r bilen. Wrth i grynodiad y glanedydd gynyddu mae athreiddedd y pilenni’n cynyddu.
Beth yw diffiniad Trylediad?
Symudiad moleciwlau o ardal potensial crynodiad uchel i ardal potensial crynodiad isel i lawr graddiant. Digwydd ar draws pilen athraidd ddetholus.
Beth yw effaith graddiant crynodiad ar gyfradd trylediad?
Y mwyaf yw’r graddiant crynodiad (y gwahaniaeth rhwng crynodiad ïonau neu foleciwlau mewn dau fan) y mwyaf yw cyfradd trylediad. Y mwyaf serth yw’r triongl, y
cyflymaf fydd trylediad yn digwydd.
Beth yw effaith pellter teithio?
Y byrraf yw’r pellter teithio, y mwyaf yw cyfradd trylediad.
Beth yw effaith arwynebedd arwyneb y bilen?
Y mwyaf yw’r arwynebedd arwyneb, y mwyaf yw cyfradd trylediad.
Beth yw effaith trwch y bilen?
Y teneuaf yw’r bilen, y mwyaf yw cyfradd trylediad (mae’r llwybr tryledu’n fyr).
Beth yw effaith cynnydd mewn tymheredd?
Mae cynyddu’r tymheredd yn cynyddu egni cinetig moleciwlau ac felly’n cynyddu cyfradd trylediad.
Beth yw effaith maint y gronynnau?
Mae gronynnau bach yn tryledu’n gyflymach na moleciwlau mwy.
Beth yw enghraifft o drylediad syml?
Mae trylediad moleciwlau amholar fel ocsigen a charbon deuocsid yn digwydd ar draws
y ddwyhaen ffosffolipid.
Sut ydy moleciwlau polar yn croesi’r ddwy haen ffosffolipid?
Rhaid iddynt ddefnyddio protein cynhenid
(sy’n pontio’r bilen) i hwyluso cludiant ar draws y bilen; rydyn ni’n galw hyn yn drylediad
cynorthwyedig.
Beth ydy nifer y proteinau cynhenid sydd ar gael yn gallu cyfyngu ar?
Drylediad cynorthwyedig.
Beth yw’r dwy fath o drylediad cynorthwyedig?
Protein sianelu - bendodol ar gyfer un math o ion, medru agor a chau yn ol angenion y gell.
Proteinau cludo - caniatau trylediad molecylau polar mwyaf e.e glwcos ac asid amino. Newid siap wrth i’r moleciwl tryledu ar draws y bilen.
Ble ydy trylediad syml yn digwydd?
Ar draws y ddwyhaen ffosffolipid.
Beth sy’n digwydd wrth i’r graddiant crynodiad cynyddu?
Bydd cyfradd trylediad hefyd yn cynyddu; cyfrannedd union rhwng cyfradd y mewnlifiad a’r
gwahaniaeth yn y crynodiad ar draws y bilen.
Beth sydd ddim yn atal trylediad?
Atal resbiradaeth neu ladd y gell â thocsin, fel cyanid, oherwydd does dim angen ATP o’r gell ar gyfer trylediad.
Pam dydy gronynnau â gwefr neu ïonau a moleciwlau mawr fel glwcos ddim yn mynd drwy’r gellbilen yn rhwydd?
Gan eu bod nhw’n anhydawdd mewn lipid.
Sut ydy’r moleciwlau protein cynhenid yn helpu yn y bilen?
Pontio’r bilen o un ochr i’r llall ac yn helpu’r gronynnau hyn i dryledu i mewn neu allan o’r celloedd.
Beth yw’r dau fath o brotein sy’n cynorthwyo
(helpu) trylediad?
Proteinau sianel a phroteinau cludo.
Beth ydy proteinau sianel yn cynnwys?
Mandyllau wedi’u leinio â grwpiau polar (hydroffilig), sy’n caniatáu i ïonau â gwefr fynd drwodd (fel Na+). Mae pob protein sianel yn
benodol i un math o ïon.
Pam ydynt yn gallu agor a chau?
Gan ddibynnu ar anghenion y gell (rydyn ni’n galw’r rhain yn sianeli adwyog).
Beth ydy proteinau cludo yn caniatau?
Trylediad cynorthwyedig moleciwlau polar mwy ar draws y bilen, fel siwgrau ac asidau amino.
Beth sy’n achosi i’r protein cludo newid siâp neu gylchdroi o fewn y bilen?
Mae moleciwl penodol yn glynu wrth safle rhwymo protein cludo.
Mae hyn yn rhyddhau’r moleciwl ar yr ochr arall i’r bilen.
Beth sy’n digwydd ar hyd y graddiant crynodiad gyda proteinau cludo a phroteinau sianel?
Cynyddu cyfradd trylediad ar hyd y graddiant
crynodiad heb fod ag angen egni ar ffurf ATP o resbiradaeth.
Beth yw cydgludiant?
Math o drylediad cynorthwyedig sy’n dod â moleciwlau ac ïonau i mewn i gelloedd gyda’i gilydd ar yr un protein cludo.
Beth yw cludiant actif?
Symudiad moleciwlau neu ionau ar draws pilen yn erbyn graddiant crynodiad gan ddefnyddio egni o hydrolysis ATP a gafodd ei wneud gan y gell.
Beth ydy’r moleciwl neu’r ïon mae angen ei gludo yn wneud?
Cyfuno â phrotein cynhenid penodol, sef
pwmp. Mae ATP yn trosglwyddo grŵp ffosffad i’r pwmp ar y tu mewn i’r bilen. Mae hyn
yn achosi i’r pwmp newid siâp ac yn cludo’r ïon neu’r moleciwl ar draws y bilen. Mae’r
moleciwl neu’r ïon yn cael ei ryddhau i’r gell.
Pa brosesau sy’n cynnwys cludiant actif?
Synthesis proteinau, cyfangiad cyhyrau, trawsyriant ysgogiadau nerfol ac
amsugno mwynau, fel nitradau drwy gelloedd gwreiddflew planhigion.
Pam ydy atalyddion resbiradol (sy’n atal cynhyrchu ATP) yn
effeithio ar gludiant actif?
Gan fod angen ATP ar gyfer y broses hon; mae cyfradd cludiantyn gostwng yn gyflym ar ôl ychwanegu atalydd resbiradol fel cyanid.
Beth yw Osmosis?
Osmosis yw symudiad dŵr o fan â photensial dŵr uwch i fan â photensial dŵr is, drwy
bilen lled-athraidd.
Beth sydd gyda’r potensial dwr uchel?
Dŵr pur sydd â’r potensial dŵr uchaf, sef sero.
Beth sy’n digwydd ar ar grynodiadau uchel?
Mae gan ddŵr fwy o egni potensial h.y.
mae’r moleciwlau dŵr yn hollol rhydd i symud o gwmpas.
Beth sydd gan bob potensial dwr?
Werth potensial dŵr negatif.
Y mwyaf crynodedig yw hydoddiant…?
…y mwyaf negatif yw’r potensial dŵr h.y. y llai o foleciwlau dŵr rhydd sydd.
Beth yw hydoddiant isotonig, hypertonig a hypotonig?
Isotonig - toddiannau gyda potensial dwr hafal.
Hypertonig - toddiannau sydd gyda llai o ddwr.
Hypotonig - toddiannau gyda mwy o ddwr.
Sut ydy dwr yn symud?
Bydd dŵr yn tryledu o fan â photensial dŵr uwch (llai negatif) i fan â photensial dŵr is (mwy negatif).
Beth yw’r hafaliad i ddangos y peethynad rhwng grymoedd mewn celloedd planhigyn?
ψcell = ψh + ψg.
Beth yw’r fformiwla ar gyfer potensial dwr cell?
ψcell = ψs + ψp.
Potensial dwr y cell= Potensial hydoddyn + potensial gwasgedd.
Beth yw’r potensial
hydoddyn (ψs)?
Crynodiad y sylweddau sydd wedi hydoddi yng ngwagolyn y gell. Mae pob potensial hydoddyn (ψs) yn werth negatif.
Beth sy’n digwydd pan mae dŵr yn mynd i wagolyn cell planhigyn drwy osmosis?
Caiff gwasgedd hydrostatig ei greu ac mae’n gwthio allan ar y cellfur.
Beth yw y potensial gwasgedd (ψp)?
Wrth i’r gwasgedd tuag allan gronni mae’r cellfur yn datblygu grym dirgroes. Mae’r potensial gwasgedd (ψp) yn bositif fel rheol.
Beth sy’n digwydd os yw potensial dŵr yr hydoddiant allanol yn hypotonig
(uwch na’r hydoddiant yn y gell)? (anifeiliaid)
Celloedd anifail yn chwyddo a ffrwydro.
Beth sy’n digwydd os yw potensial dŵr yr hydoddiant allanol yn hypertonig (potensial dŵr is na’r gell)? (anifeiliaid)
Celloedd anifail yn colli dwr ac yn crebachu.
Beth yw cyfrwng allanol isotonig?
Mae gan gyfrwng allanol isotonig yr un potensial dŵr â chynnwys y gell. Fydd yna ddim symudiad net dŵr drwy osmosis. Mae celloedd anifail
mewn cyfrwng isotonig yn naturiol; mae homeostasis yn cynnal y sefyllfa hon i atal
colledion neu enillion dŵr.
Beth ydy hydoddiant hyoptonig yn wneud mewn celloedd anifail a phlanhigyn?
Anifail - Celloedd yn chwyddo ac
yn gallu lysu (byrstio). Mae
celloedd coch y gwaed
mewn cyfrwng allanol
hypotonig yn byrstio;
haemolysis yw hyn.
Planhigyn - Mae’r cytoplasm a’r
gwagolyn yn chwyddo
ac yn gwthio yn erbyn y
cellfur; mae’r celloedd
yn mynd yn chwydd-dynn.
Mae celloedd chwydd-dynn
yn cynnal meinweoedd a
ffurfiadau’r planhigyn (mae
hyn yn optimaidd i gelloedd
planhigyn).
Beth ydy celloedd hypertonig yn wneud mewn celloedd anifail a phlanhigyn?
Anifail - Mae’r gell yn crebachu.
Planhigyn - Mae’r cytoplasm a’r
gwagolyn yn crebachu
gan achosi i’r gellbilen
dynnu oddi wrth y cellfur.
Plasmolysis yw’r broses hon
ac rydyn ni’n dweud bod
celloedd yn y cyflwr hwn
wedi plasmolysu.
Beth ydy celloedd isotonig yn wneud mewn celloedd anifail a phlanhigyn?
Anifail - Dyma’r cyfrwng trochi
optimaidd i gell anifail. Mae
potensial dŵr y gell yn hafal
i botensial dŵr y cyfrwng
allanol yn yr achos hwn.
Planhigyn - Mae’r celloedd yn mynd
yn llipa. Dyma bwynt
plasmolysis cychwynnol.
Beth sydd angen er mwyn i gelloedd planhigyn aros yn chwydd-dynn?
Mae angen cyfrwng allanol hypotonig.
Beth ydym yn gallu defnyddio i gyfrifo crynodiad mewnol cell?
Ddefnyddio silindrau tatws.
Beth sy’n digwydd os caiff silindrau
tatws eu trochi mewn amrediad o grynodiadau swcros?
Bydd eu màs yn newid oherwydd
osmosis.
Beth yw disgrifiad ac eglurhad crynodiad swcros o 0.2?
Mae cynnydd màs yn cael ei achosi gan ddŵr yn mynd i mewn i’r celloedd tatws drwy osmosis, o botensial dŵr uchel yn y cyfrwng allanol
i botensial dŵr is yn y celloedd tatws, i lawr graddiant potensial dŵr, ar
draws pilen lled-athraidd.
Beth yw disgrifiad ac eglurhad crynodiad swcros o 0.3?
Does dim newid màs ar y pwynt hwn (lle mae’r llinell wedi’i phlotio’n
croesi’r echelin-x). Mae’n rhaid bod y potensial dŵr ar y ddwy ochr i’r
gellbilen yn hafal. Does dim symudiad dŵr net. Mae potensial hydoddyn
y cyfrwng allanol yn gywerth â photensial hydoddyn y gell. Dyma bwynt
plasmolysis cychwynnol.
Beth yw disgrifiad ac eglurhad crynodiad swcros o 0.1?
Mae gostyngiad màs yn cael ei achosi gan ddŵr yn gadael y celloedd
tatws drwy osmosis, o botensial dŵr uchel yn y celloedd i botensial dŵr
is yn y cyfrwng allanol; i lawr graddiant potensial dŵr, ar draws pilen
lled-athraidd.
Sut ydym yn mesur mesur potensial dŵr celloedd betys?
- Mae defnynnau sy’n symud i lawr yn fwy dwys na’r cyfrwng trochi gwreiddiol, sy’n
awgrymu bod dŵr wedi gadael y cyfrwng trochi a mynd i’r celloedd betys drwy
osmosis. - Mae’n rhaid bod defnynnau sy’n symud i fyny yn llai dwys na’r cyfrwng trochi
gwreiddiol, sy’n awgrymu bod dŵr wedi gadael y celloedd betys a mynd i’r cyfrwng
trochi drwy osmosis. - Os yw defnynnau ddim yn symud i fyny nac i lawr, dydy eu dwysedd heb newid,
sy’n dynodi bod y celloedd betys mewn cyfrwng isotonig ac nad oes symudiad net o
ddŵr wedi digwydd.
Sut ydy gronynnau mawr yn mynd i mewn i gelloedd?
Drwy endocytosis. Mae’r gellbilen yn
amlyncu gronynnau neu hylif i ffurfio fesigl sy’n mynd i mewn i’r cytoplasm.
Beth yw ffagocytosis?
Golygu cell yn bwyta.
Beth yw pinocytosis?
Lle mae hylif yn mynd i mewn i’r gell.
Beth yw ecsocytosis?
Symudiad sylweddau allan o’r gell (Angen ATP).