Bioleg 2.1: Mae pob organeb yn perthyn i'w gilydd ddrwy eu hanes esblybiadol Flashcards
Beth yw diffiniad syml dosbarthu?
Sortio pethau mewn i grwpiau.
Sut ydym yn grwpio organebau?
Yn ol eu perthnasoedd esblygiadol, sy’n golygu bod organebau yn yr un grwp yn perthyn yn agosach gan fod nhw yn rhannu cyd-hynafiad mwy diweddar.
Sut ydym yn gallu gynrychioli’r perthynas esblygol rhwng organebau?
Coeden ffylogenetig.
Y pellaf i fyny’r diagram ewch chi…?
…y pellaf ymlaen mewn amser.
Beth ydy hyd y canghennau yn dynodi?
Yr amser rhwng pwyntiau’r canghennau.
Beth ydy pwyntiau’r canghennau yn cynrychioli?
Cyd-hynafiad i’r organebau ar y canghennau uwch.
Ble ydy organebau byw wedi’u dangos ar y goeden?
Ar bennau cangennau.
Ble ydy rhywogaethau hynafol i’w weld?
Yn y boncyff.
Beth ydy’r pwynt cangen gynharaf yng nghoeden esblygol pob organeb fyr yn cynrychioli?
Cyd-hynafiad diwethaf pob peth byw, sef y cyd-hynafiad cyffredinol diwethaf.
Beth ydy dosbarthiad hierarchaidd yn golygu?
Caiff grwpiau mawr eu rhannu’n grwpiau o feintiau sy’n gostwng.
Beth yw arwyddocad fod y grwpiau’n arwahanol?
Ni all organeb berthyn i fwy nag un grwp ar yr un lefel dacsonomaidd.
Beth ydy pob grwp yn cael ei galw?
Tacson.
Beth yw’r grwp tasconomaidd mwyaf a’r lleiaf?
Mwyaf: Parthau
Lleiaf: Rhywogaeth
Beth yw’r trefn?
Parth, Teyrnas, Ffylwm, Dosbarth, Urdd, Teulu, Genws, Rhywogaeth.
Beth yw’r tuedd wrth symud lawr y grwp?
Mae’r berthynas rhwng organebau yn agosau a maent yn ddod yn fwy tebyg.
Beth yw diffiniad rhywogaeth?
Grwp o organebau sy’n gallu rhyngfridioi gynhyrchu epil ffrwythlon.
Beth yw’r pump teyrnas?
Prokaryota, protoctista, fungi, planta ac animalia.
Sut ydy organebau yn cael ei dosbarthu i fewn i un o’r pum teyrnas?
Seiliedig ar debygrwydd morffolegol.
Beth yw prif nodweddion prokaryota?
Mae’r rhain yn cynnwys y bacteria a’r cyanobacteria i gyd. Organebau microsgopig, ungellog heb organynnau pilennog. Mae’r cellfur wedi’i wneud o beptidoglycan neu fwrein (nid cellwlos).
Beth yw prif nodweddion protoctista?
Organebau ewcaryotig ungellog. Dim gwahaniaethiad meinweoedd.
Beth yw prif nodweddion fungi?
Ewcaryotau heterotroffig a chellfur citin. Maent yn defnyddio sborau i atgynhyrchu.
Beth yw prif nodweddion planta?
Ewcaryotau amlgellog ffotosynthetig. Cellfuriau cellwlos.
Beth yw prif nodweddion animalia?
Ewcaryotau amlgellog heterotroffig. Dim cellfur. Cyflyniad nerfol.
Beth ydy rhan fwyaf o ffwng wedi’u ffurfio o?
Edafedd tenau o’r enw HYFFAE.