Bioleg 2.3: Cludiant mewn Anifeiliaid a Planhigion Flashcards
Beth yw’r 2 fath o system gylchrediad?
Agored a Caeedig.
Beth sydd mewn system gylchrediad agored?
> Pibellau
Pwmp
Falfiau
Pigment resbiradol (haemoglobin)
Beth sydd mewn system gylchrediad caeedig?
Sengl a dwbl
Pa fath o system gylchrediad sydd gan mwydyn?
Caeedig a phympiau a mae’n cludo nwyon resbiradol yn y gwaed.
Beth yw ystyr fasgwlareiddio?
Mae’n cynnwys system o bibellau gwaed.
Pa fath o system gylchrediad sydd gan bryfed?
Agored, calon siap tiwb dorsal a dim nwyon resbiradol yn y gwaed (dim haemoglobin felly mae’r gwaed yn felyn).
Pa siap yw galon pryfed a beth ydy e’n wneud?
Calon siap tiwb sy’n pwmpio gwaed ymlaen ac allan i wagle llawn hylif y corff HAEMOCOEL ac o gwmpas organau’r corff.
Mae’r gwaed yna yn mynd nol mewn i’r galon drwy agoriadau sy’n cael eu rheoli gan falfiau.
Beth yw ystyr dorsal?
Golygu cefn.
Beth ydy gwaed pryfed yn cario?
Gwastraff y corff, dim nwyon resbiradaeth.
Pam bod y system yn cael ei disgrifio fel “agored”?
Capilariau heb ei gysylltu.
Gwaed dim yn aros yn y pibellau gwaed.
Agored vs caeedig - bwysedd gwaed?
Agored - gwaed yn cael ei bwmpio ar bwysedd isel gan galon hir siap tiwb dorsal.
Caeedig - gwaed yn cael ei bwmpio ar bwysedd uchel gan gyfres o bump o ffug-galonnau cyhyrog.
Agored vs caeedig - taith y gwaed?
Agored - gwaed yn cael ei bwmpio o’r galon i fannau rydyn ni’n eu galw gyda’i gilydd yn geudod gwaed, o fewn ceudod y corff.
Caeedig - gwaed yn cylchredeg mewn system barhaus o bibellau gwaed - dorsal a fentrol sydd mor hir a’r corff.
Agored vs caeedig - trochi?
Agored - gwaed yn trochi’r meinweoedd yn uniongyrchol ac yn cyfnewid defnyddiau.
Caeedig - organau a meinweoedd ddim yn cael ei trochi’n uniongyrchol gan y gwaed, ond gan hylif meinweol sy’n tryddiferu o gapilariau a waliau tenau.
Agored vs caeedig - rheolaeth dros cyfeiriad y llif?
Agored - dim llawer o reolaeth dros gyfeiriad cylchrediad.
Caeedig - rheoli cyfeiriad y llif.
Agored vs caeedig - cyflymder y gwaed?
Agored - gwaed yn dychwelyd i’r galon yn araf.
Caeedig - llif gwaed yn eithaf cyflym.
Agored vs caeedig - beth sy’n symud y gwaed?
Agored - falfiau a thonnau o gyfangiad cyhyrau’n symud y gwaed ymlaen i ardal y pen lle mae’r cylchrediad agored yn ail ddechrau.
Caeedig - gwaed yn cael ei symud gan waith pwmpio’r ffug-galonnau.
Agored vs caeedig - pigment resbiradol?
Agored - dim pigment resbiradol, gwaed ddim yn cludo ocsigen. Y traceau yn cludo ocsigen yn uniongyrchol i’r meinweoedd.
Caeedig - mae’r gwaed yn cynnwys pigment resbiradol (haemoglobin) sy’n cludo ocsigen.
Pa fath o system gylchrediad sydd gan bysgod?
Caeedig sengl gyda chalon un pwmp.
Beth yw un o anfanteision mwyaf system sengl pysgodyn?
Nid yw’n medru amrywio gwasgedd gwaed i’r tagellau a’r corff.
Pa fath o system gylchrediad sydd gan mamolion?
Caeedig dwbl.
Beth yw’r manteision o system dwbl?
> Cylchrediad ar wahan i’r corff a’r ysgyfaint.
Gwahanu gwaed ocsigenedig a deoocsigenedig.
Cynnal pwysedd gwaed uchel i feinweoedd y corff er mwyn rhoi mwy o ocsigen i’r meinweoedd.
Pwysedd gwaed is i’r ysgyfaint.
Rhydweliau - cario gwaed…?
…o’r galon.
Haen allanol a beth yw ei swyddogaeth?
Colagen trwchus i atal gorymestyn.
Beth ydy’r haen ganol yn cynnwys a beth ydy e’n wneud?
Edafedd elastig a cyhyryn llyfn sy’n caniatau i’r bibell ymestyn ac adlamu nol (adlamiad elastig).