Bioleg 1.5: Asidau Niwcleig a'u swyddogaeth Flashcards
Beth yw asidau niwcleig?
Polymerau o niwcleotidau. Mae DNA ac RNA yn engreifftiau.
Beth yw DNA a beth yw ei prif swyddogaeth?
DNA yw’r moleciwl sy’n cludo cod genynnol organeb a’i phrif swyddogaeth yw dyblygu a darparu’r cod ar gyfer syntheseiddio proteinau.
Beth yw RNA?
Asid niwcleig arall sy’n ymwneud a synthesis protein.
Beth ydy DNA ac RNA wedi wneud o?
Monomerau o’r enw Niwcleotodau.
Beth yw’r tri is-uned sy’n gwneud lan niwcleotidau?
Ffosffad, Siwgr Pentos a Bas Nitrogenaidd.
Beth yw grwp ffosffad?
Pi/PO4.
Mae pob niwcleotid yn cynnwys un neu fwy ffosffad.
Beth yw siwgr pentos?
Siwgr gyda pump atom carbon. Mae gan DNA siwgr deuocsiribos a mae gan RNA siwgr ribos.
Beth yw bas nitrogenaidd?
Bas organig sy’n cynnwys yr elfen nitrogen.
Beth yw’r 5 bas gwahanol?
Adenin - Thymin
Gwanin - Cytosin
Wracil (RNA yn unig)
Sut ydy’r tri is-uned niwcleotid yn cyfuno a beth yw’r bondiau sy’n ffurfio?
2 adwaith cyddwyso, sy’n ffurfio bond ffosffoester rhwng ffosffad a siwhgr pentos, a bond glycosidig rhwng y siwgr pentos a bas nitrogenaidd.
ATP - grwpiau ffosffad, siwgr pentos a basau nitrogenaidd?
> 3
Ribos
Adenin
DNA - grwpiau ffosffad, siwgr pentos a basau nitrogenaidd?
> 1
Deuocsribos
ATGC
RNA - grwpiau ffosffad, siwgr pentos a basau nitrogenaidd?
> 1
Ribos
AWGC
Beth yw strwythur ATP?
Niwcleotid wedi ei wneud o’r bas nitrogenaidd adenin, y siwgr pentos ribos a llinyn o 3 grwp ffodffad.
Beth yw Adenosin?
BAs adenin a’r siwgr pentos ribos wedi ei bondio.
Beth yw Triffosffad?
Y tri grwp ffosffad, mae’r rhain wedi uno gan fondiau egni uchel.
Beth ydy organebau angen egni ar gyfer?
> Cludiant actif
Synthesis proteinau
Trawsyriant nerfol
Cyfyngiadau cyhyrol
Beth ydy anifeiliaid a phlanhigion yn rhyddhau yn ystod resbiradaeth?
Glwcos.
Beth ydy rhyddhau egni yn afreolus o glwcos yn achosi?
Cynyddu tymheredd gymaint nes y byddai’n dinistrio celloedd.
Beth ydy organebau byw yn wneud yn lle?
Rhyddhau egni’n raddol o glwcos wrth ymddatod y moleciwl mewn cyfres o gamau bach.
Sut ydy’r egni sy’n cael ei rhyddhau yn cael ei ddefnyddio?
Yn ystod camau i ffurfio ATP.
Beth ydy ATP fel gludydd egni yn ei olygu?
ATP yn cludo egni o storfeydd i adweithiau sydd ei angen.
Pam ydym yn galw ATP yn gyfrwng cyfnewid egni cyffredinol?
> Mae’n cael ei ddefnyddio gan bob organeb
Mae’n ddarparu egni ar gyfer bron pob adwaith biocemegol.
Sut ydym yn ffurfio ATP?
Trwy ychwanegu ffosffad at ADP mewn adwaith cyddwyso.
Faint o egni sydd angen mewnbynnu er mwyn ffurfio’r bond ffosffad terfynol?
30.6KJmol-1.
Beth yw adweithiau endergonig?
Adweithiau lle mae angen mewnbynnu egni er mwyn ffurfio bond egni uchel.
Beth yw adwaith ecsergonig?
Tynnu egni i ffwrdd i dorri bond egni uchel.
Beth sy’n digwydd mewn adwaith hydrolysis?
Mae ATP yn cael ei ymddatod yn ol i ADP. Mae’r bonmd ffosffad terfynol yn torri ac mae 30.6 kJ mol-1 o egni yn cael ei rhyddhau. Gan fod egni yn cael ei rhyddhau gelwir yr adwaith yn ecsergonig. Mae’r egni yma yn cael ei ddarparu yn syth i adwaith sydd ei angen.
Beth yw 6 mantais o ATP?
> Mae hydrolysis ATP i ADP yn un adwaith sy’n rhyddhau egni ar unwaith. Dadelfennu glwcos yn cymryd hirach i ryddhau’r egni.
Dim ond un ensym sydd ei angen i ryddhau egni o ATP; mae angen llawer ohonynt yn achos glwcos.
Mae ATP yn rhyddhau symiau bach o egni yn ol yr angen; mae glwcos yn cynnwys symiau mawr o egni ac efallai na fydd angen yr holl egni ar unwaith. Llai o egni yn cael ei wastraffu ar ffurf gwres.
Mae ATP yn hydawdd a bach ac yn hawdd ei gludo mewn celloedd i le bynnag y maen ei angen.
Mae angen bond sengl i gael ei dorri/ adwaith un cam er mwyn rhyddhau egni.
Gellir trosglwyddo gwahanol fathau o egni i ffurf gyffredin. Mae hyn yn fwy effeithlon ac yn rhoi mwy o reolaeth i gell.
Beth yw cadwyn polyniwcleotid?
Niwcleotidau yn medru bondio gyda’i gilydd i greu y cadwyn hon.
Beth ydy dwy gadwyn polyniwcleotid yn creu?
Dod at ei gilydd in greu’r asid niwcleig DNA.
Beth ydym yn gweld yn y niwcleotid DNA?
> Siwgr deocsiribos
Basau nitrogenaidd Adenin, Thymin, Gwanin a Cytosin
Un grwp ffosffad.
Beth ydy DNA wedi’i wneud o?
Dau edefyn o niwcleotidau wedi’u dirwyn mewn helics dwbl.
Beth ydy’r ffaith bod edafedd DNA yn wrthbaralel i’w gilydd yn ei olygu?
Mae’r edafedd DNA yn mynd i ddau gyfeiriad dirgroes o’r pen 5 i’r pen 3 i’r pen 5.
Beth ydy deocsiribos un niwcleotid yn ffurfio?
Bond a ffosffad niwcleotid arall i ffurfio’r asgwrn cefn siwgr-ffosffad.
Pa bondiau sydd rhwng parau o fasau nitrogenaidd?
Bondiau Hydrogen sy’n cysylltu dau edefyn yr helics dwbl at ei gilydd.
Sut ydy’r basau nitrogenaidd bob amser yn paru?
PAru yn yr un ffordd ac yn dilyn rheolau PARAU BASAU CYFLENWOL; mae bas pwrin yn paru a bas pyrimidin.
Pam ydy’r paru basau cyflenwol yn bwysig?
I sicrhau bod DNA yn dyblygu’n gywir. Mae hefyd yn golygu bod yr un gyfran o adenin a thymin mewn moleciwl DNA, a hefyd yr un gyfran o gwanin a cytosin.
Beth yw y tri hypothesis ar gyfer dyblygiad DNA?
> Dyblygiad cadwrol
Dyblygiad lled-cadwrol
Dyblygiad gwasgarol
Beth yw dyblygiad cadwrol?
Helics dwbl gwreiddiol yn aros yn gyfan a chaiff helics dwbl cwbl newydd ei greu.
Beth yw dyblygiad lled-cadwrol?
Helics dwbl gwreiddiol yn rhannu’n dau edefyn, a’r naill a’r llall o’r rhain yn gweithredu fel templed ar gyfer synthesis edefyn newydd. Felly, moleciwl DNA newydd yn cynnwys un edefyn gwreiddiol ac un edefyn sydd newydd ei ffurfio.
Beth yw dyblygiad gwasgarol?
Ddau helics dwbl newydd yn cynnwys darnau o ddau edefyn yr helics dwbl gwreiddiol.
Beth yw arbrawf Meselson a Stahl?
Rhagdybiaeth led-gadwrol ar gyfer dyblygu DNA. Mae abrofion a DNA wedi’i arunigo o facteria yn ategu’r rhagdybiaeth hon.
Beth yw’r 6 cam i’r arbrawf?
> Feithrin y bacteriwm Escherichia coli am sawl genhedlaeth mewn cyfrwng yn cynnwys isotop trwm Nitrogen 15.
Bacteria’n derbyn y Nitrogen 15 i’r bas nitrogenaidd yn y niwcleotidau.
Ar ol llawer o genhedlaethau, roedd holl fasau nitrogenaidd yn DNA y bacteria yn cynnwys Nitrogen 15.
Golchi bacteria, yna eu trosglwyddo i gyfrwng yn cynnwys yr isotop ysgafnach Nitrogen 14, gan adael iddynt ddyblygu un genhedlaeth ar y tro.
Ar ol pob genhedlaeth, mae DNA yn cael eu echdynnu o’r gelloedd ac yn cael eu hallgyrchu.
Mae’r safle ble mae’r DNA yn setlo mewn tiwb yn cael ei arsylwi i weld dwysedd y DNA.
Pa fath o organeb sy’n cael ei dyfu?
Bacteria.
Pa ran o’r moleciwl bydd hwn yn cael eu defnyddio i ffurfio?
Bas nitrogenaidd.
Pam oedd rhaid golchi’r bacteria cyn trosglwyddo i’r gyfrwng newydd?
I atal halogeniad.
Beth wnaeth Meselson a Stahl gwneud i DNA’r bacteria rhwng pob cenhedlaeth?
Hallgyrchu’r DNA.
Beth sy’n rheoli lle mae’r DNA yn setlo?
Dwysedd.
Beth oedd canlyniad genhedlaeth 0?
100% trwm.
Beth oedd canlyniad genhedlaeth 1?
100% hybrid.
Beth oedd canlyniad genhedlaeth 2?
50% hybrid, 50% ysgafn.
Beth oedd canlyniad genhedlaeth 3?
75% ysgafn, 25% hybrid.
Pam wnaeth y DNA o genhedlaeth 0 setlo ar waelod y tiwb?
Cynnwys Nitrogen 15 sydd gyda dwysedd uchel.
Pam wnaeth y DNA o genhedlaeth 1 setlo yng nghanol y tiwb?
Cynnwys gymysgedd o Nitrogen 14 a Nitrogen 15.
Pa genhedlaeth sy’n rhoi tystiolaeth bod dyblygiad cadwrol ddim yn digwydd?
Cenhedlaeth 1.
Pa genhedlaeth sy’n rhoi tystiolaeth bod dyblygiad gwasgarol ddim yn digwydd?
Cenhedlaeth 2.
Beth yw’r 4 cam i mecanwaith dyblygiad?
> DNA helicas (ensym) yn torri’r bondiau hydrogen gwan rhwng y parau o fasau cyflenwol. Mae’r moleciwl DNA yn dad-ddirwyn (‘ddatsipio’) a’r ddau edefyn yn gwahanu.
Basau heb eu paru yn cael eu dangos. Mae’r ddwy gadwyn yn gweithredu fel templed ac mae niwcleotidau rhydd yn y niwcleoplasm yn trefnu eu hun drws nesaf i’w fasau cyflenwol.
DNA polymeras (ensym) yn catalyddu’r broses o ychwanegu niwcleotidau DNA rhydd trwy ffurfio bondiau rhwng niwcleotidau cyfagos Mae’r ensym yn catalyddu’r adwaith cyddwyso rhwng grwp ffosfad-5’ niwcleotid rhydd ar grwp -OH ar ben 3’ y gadwyn DNA sy’n tyfu i ffurfio bondiau ffosffodeuester.
Mae bondiau Hydrogen yn ffurfio rhwng pob par o edafedd DNA cyflenwol. Mae hyn yn cynhyrchu dau foleciwl DNA sy’n cynnwys un edefyn gwreiddiol ac un edefyn newydd ei ffurfio. Bydd y moleciwlau newydd yn ailddirwyn i ffurfio helics dwbl.
Beth ydy RNA fel arfer yn cynnwys?
Un gadwyn polyniwcleotid sydd ddim yn ffurfio siap heligol.
Sut ydy RNA yn wahanol i DNA?
> RNA yn moleciwl byrrach.
Mae strwythur niwcleotidau RNA yn wahanol, ribos yw’r siwgr yn RNA, deocsiribos yn DNA.
Mae’r bas wrasil yn RNA, lle mae thymin yw’r bas mewn DNA.
Beth yw’r 3 math o RNA?
> RNA negeseuol
RNA ribosomaidd (rRNA)
RNA trosglwyddo (tRNA)
Beth yw RNA negeseuol?
Moleciwl hir un edefyn helics.
Cael ei greu yn y cnewyllyn fel copi ategol o’r cod ar gyfer un polypeptid yn ystod y broses drawsgrifio.
Cludo’r cod i’r ribosomau yn y cytoplasm ar gyfer cam trosi.
Beth yw RNA ribosomaidd (rRNA)?
Moleciwl mawr siap helics dwbl a sengl.
Cael ei greu yn y cnewyllan ac yn cyfuno gyda proteinau i ffurfio ribosomau.
Beth yw RNA trosglwyddo (tRNA)?
Moleciwl siap clover.
Mae un pen gyda CCA a’r llal yn gwrthgodon sydd yn gysylltu a’r mRNA.
Mae’n cario asid amino ar y pen 3’ i’r ribosom ar gyfer trosi.
Beth ydy DNA yn cludo?
Cludo cod genynnol organeb.
Beth yw y cod genynnol?
Cod ar gyfer synthesis proteinau, ac felly mae’n hollol hanfodol i fywyd unrhyw organeb.
Beth yw Genyn?
Darn o DNA sy’n ffurfio cod ar gyfer un polypeptid.
Beth yw’r genynnau mewn ewcaryotau?
Amarhaus - mae ganddyn nhw ECSONAU, sef darnau sy’n codio ar gyfer polypeptidau ac INTRONAU, sydd ddim yn codio.
Beth yw’r genynnau mewn procaryotau?
Barhaus - does ganddyn nhw ddim dilyniannau sydd ddim yn codio.
Beth ydy polypeptid wedi’u greu o?
Dilyniant o asidau amino wedi cysylltu mewn cadwyni hir.
Beth sy’n digwydd y broses o syntheseiddio proteinau?
Mae’r cod DNA yn cael ei ‘ddarllen’ ac mae’r asidau amino’n cael eu trefnu yn y dilyniant cywir.
Sawl asid amino sy’n bodoli yn naturiol?
20 asid amino, ond dim ond 4 bas gwahanol sydd i’w gael mewn DNA (ATGC).
Beth yw cod tripled?
Mae un asid amino yn cael eu codio gan tripled o fasau yn y DNA. Caiff y DNA ei drawsgrifio i gynhyrchu CODONAU mRNA ac yna eu trosi i gynhyrchu dilyniant o asidau amino.
Beth yw cod dirywiedig?
Gan mai dim ond 20 asid amino sydd, a bod 64 codon yn bosibl, mae gan y rhan fwyaf o asidau amino fwy nag un codon sy’n codio.
Beth yw cod gyffredin?
Ym mhob organeb ar y Ddaear mae’r un codon yn codio am yr un asid amino. Mae hyn yn tystiolaeth pellach bod gan pob organeb hynafiad cyffredin.
Beth yw cod heb fod yn or-gyffwrdd?
Codonau wedi’u trefnu un ar ol y llall, felly mae pob bas ond yn cael eu defnyddio mewn un dripled.
Beth yw cod llinol/ cod diamwys?
GAT CAT GAT.
Beth yw cod wedi’u atalnodi?
Pob genyn yn dechrau gyda codon ‘cychwyn’ sef AUG, mae hyn yn codio am yr asid amino methionine, felly mae pob polypeptid yn dechrau gyda methionine. Mae yna hefyd tri codon ‘gorffen’ sef UAA, UAG a UGA sydd ddim yn codio am asid amino.
Beth yw Trawsgrifiad?
Creu mRNA yn y cnewyllyn.
Beth yw’r cam cyntaf i Trawsgrifiad?
DNA helicas (ensym) yn torri’r bondiau Hydrogen rhwng y basau cyflenwol yn yr helics, gan ddad-ddirwyn y DNA, a dangos basau heb eu paru ar yr edefyn templed (edefyn synnwyr).
Beth yw’r ail cam i Trawsgrifiad?
Niwcleotidau RNA rhydd yn paru gyferbyn a’r niwcleotidau cyflenwol ar edefyn templed y DNA (A-U a C-G).
RNA polymeras (ensym) yn cysylltu a’r edefyn templed ar ddechrau’r dilyniant i’w gopio ac yn symud ar hyd yr edefyn gan catalyddu’r broses o ffurfio bondiau rhwng y niwcleotidau rhydd, gan ffurfio asgwrn cefn siwgr-ffosffad yr mRNA cyflenwol.
Y tu hwnt i ddiwedd y genyn mae codon orffen lle mae RNA polymeras yn gadael y DNA.
Beth yw’r trydydd cam i Trawsgrifiad?
Mae’r mRNA yn dod yn rhydd o’r DNA yna mae’r DNA yn ail-gyfuno gan ail-ffurfio helics dwbl.
Beth yw’r pedwerydd cam i Trawsgrifiad?
Mae’r mRNA sy’n cario’r cod DNA yn cael ei gludo allan o’r cnewyllyn drwy’r mandwll cnewyllol ac yn symud i’r ribosomau.
Beth yw’r moleciwl sy’n cael ei gynhyrchu yn syth ar ol trawsgrifio’r genyn DNA?
Rhag-mRNA.
Beth ydy rhag-mRNA yn cynnwys?
Ecsonau ac intronau.
Pryd ydy’r broses addasu ol-drawsgrifio yn digwydd?
Cyn i’r mRNA gadael y cnewyllyn i dynnu’r intronau o’r moleciwl i gynhyrchu mRNA gweithedol sydd yn byrrach gan fod e ond yn cynnwys yr ecsonau.
Beth yw’r ddau cam o addasu’r rhag-mRNA?
- Endoniwcleasau yn torri allan yr intronau.
- Ligasau yn sbleisio (uno’r) ecsonau.
Beth yw Trosiad?
Newid mRNA i polypeptid yn y ribosom.
Ble ydy Trosiad yn digwydd?
Yn y ribosom.
Beth ydy strwythur y ribosom yn caniatau?
Caniatau iddo gyflawni’r swyddogaeth o drosi’r mRNA i bolypeptid.
Beth yw’r is-uned mawr?
Safle glynnu i’r tRNA?
Beth yw’r is-uned bach?
Safle glynnu i’r mRNA?
Beth ydy tRNA yn wneud yn ystod Trosiad?
Trosglwyddo asidau amino penodol i’r ribosom er mwyn ffurfio polypeptid.
Mae pob moleciwl tRNA…?
…yn benodol i un asid amino. Mae hyn yn dibynnu ar y gwrthgodon ar y moleciwl tRNA.
Beth yw’r broses actifadu tRNA?
Mae’r asid amino yn cydio yn y safle cydio asid amino ar y moleciwl tRNA.
Beth ydy’r broses yma angen?
Egni ar ffurf ATP.
Beth yw’r cam cyntaf i drosiad?
Is-uned bach y ribosom yn glynu wrth y codon gychwyn ar yr mRNA.
Beth yw’r ail cam i drosiad?
Mae gan pob tRNA asid amino penodol sy’n cael ei phenderfynu gan y gwrthgodon. Mae’r tRNA yn cludo asid amino i’r ribosom.
Gwrthgodon tRNA yn rhwymo i’r codon mRNA yn ol rheol parau basau cyflenwol er mwyn ffurfio cymhlygyn codon-gwrthgodon sy’n cael eu dal gan fondiau Hydrogen.
Y tRNA gyntaf i rwymo yw’r un sydd gyda gwrthgodon sy’n gyflenwol i’r codon gychwyn (AUG) sy’n cludo’r asid amino methionine.
Beth yw’r trydydd cam i drosiad?
Dau safle rhwymo tRNA ar is-uned fawr y ribosom. Felly mae dau tRNA yn gallu rhwymo i’r ribosom ar unrhyw adeg a felly mae dau asid amino yn cael ei ddal yn agos i’w gilydd.
Beth yw’r pedwerydd cam i drosiad?
Bond peptid yn ffurfio trwy adwaith cyddwyso rhwng dau asid amino cyfagos, sef yr asid amino ar y gadwyn sy’n tyfu a’r asid amino ddaeth i mewn gyda’r tRNA newydd. Mae’r broses yma angen egni ac ensym ribosomaidd.
Beth yw’r pumed cam i drosiad?
Mae’r tRNA oedd yn y safle rhwymo cyntaf yn adael ac mae’r ribosom yn symud ar hyd yr mRNA. Mae’r tRNA oedd yn yr ail safle rhwymo yn symud i’r safle rhwymo cyntaf a gall tRNA newydd lenwi’r safle rhwymo gwag. Cyn gynted y mae RNA wedi’i ryddhau o’r ribosom, mae’n rhydd i gasglu asid amino arall o’r gronfa yn y cytoplasm.
Beth yw’r chweched cam i drosiad?
Mae hyn yn barhau a mae’r ribosom yn symud ar hyd yr mRNA gan ddarllen pob codon nes cyrraedd y codon orffen. Mae’r polypeptid wedyn yn cael ei ryddhau ac mae’r gell yn addasu’r bolypeptid i ffurfio protein.
Beth sy’n digwydd ar ol ddiwedd proses trosiad?
Gall organigyn golgi addasu’r gadwyn polypeptid ymhellach.
Sut ydy’r golgi yn addasu’r cadwyn ymhellach?
> Trwy blydu a trawsfondio’r polypeptid i siap 3D.
Trwy addasu’n gemegol e.e ychwanegu cadwyn carbohydrad/ lipad/ ffosffad.
Cyfuno mwy nag un polypeptid e.e fel Haemoglobin.
Beth sy’n digwydd i’r proteinau o fan hyn?
Caiff proteinau secretu eu pinsio i ffwrdd mewn fesiclau. Yna, maen nhw’n teithio i bilen blasmaidd y gell; mae’r fesiclau’n asio a’r bilen blasmaidd ac mae’r protein yn cael ei ryddhau o’r gell drwy ecsocytosis.