Bioleg 1.2 Adeiledd a Threfniadaeth Celloedd Flashcards
Beth yw damcaniaeth celloedd?
Celloedd yw uned sylfaenol organeb byw;
Mae celloedd newydd yn ffurfio o rhai sy’n bodoli
Cell y uned sylfaenol adeiledd, swyddogaeth a threfniadaeth ym mhob organeb byw.
Beth yw bacteria?
Cell procaryotig.
Beth yw planhigion ac anifeiliaid?
Celloedd ewcaryotig.
Pam ydy pilenni yn bwysig o fewn y gell?
> Darparu arwyneb i ensymau gydio ynddo lle gall adweithiau cemegol digwydd.
Dal cemegion niweidiol.
Gweithredu fel system cludiant.
Beth sydd yng nghnewyllyn?
Mandwll gnewyllol, amlen gnewyllol, cnewyllan, niwcleoplasm, cromatin, RE garw a ribosomau.
Beth yw DNA?
Deunydd genynnol sy’n cael ei drosglwyddo o un genhedlaeth o organeb i’r nesaf gan ddarparu’r cod i synthesieddio proteinau’r corff.
Ble ydy DNA fel arfer yn aros?
O fewn cnewyllyn y gell, ond er mwyn i synthesis protein ddigwydd mae edefyn o mRNA yn gadael y cnewyllyn ac yn mynd i’r cytoplasm ar gyfer gwneud synthesis protein.
Beth yw’r amlen gnewyllol?
Pilen ddwbwl sy’n cynnwys mandyllau cnewyllol sy’n caniatau molecylau mawr fel mRNA a ribosomau i fynd drwyddo.
Mae’r pilen yn barhaus gyda’r reticilwm endoplasmig.
Beth yw’r niwcleoplasm?
Deunydd gronynnog sy’n debyg i cytoplasm. DNA y gell yn bodoli ar ffurf cromatin.
Beth yw cromatin?
DNA ynghlwm a protein. Mae’n cyddwyso i ffurfio cromosomau yn ystod cellraniad.
Beth yw’r cnewyllan?
Cynhyrchu rRNA sy’n ffurfio’r ribosomau.
Beth ydy’r Mitocondria yn wneud?
Rhyddhau egni cemegol ar ffurf ATP yn ystod resbiradaeth aerobig.
Beth ydy pilen ddwbwl y mitocondria yn cynnwys?
Pilen fewnol, allanol a gofod rhyngbilennol.
Beth sy’n digwydd gyda’r pilen fewnol?
Plygu i ffurfio Cristae sydd yn cynyddu arwynebedd arwyneb at gyfer synthesis ATP.
Beth ydy’r matrics yn cynnwys?
Ribosomau 70S a DNA mitocondriaidd, sy’n caniatau i’r mitocondria i hunan-ddyblygu arwahan i gellraniad arferol y gell.
Beth ydy DNA mitocondriaidd yn dystiolaeth o?
Dystiolaeth gall mitocondria wedi byw fel organeb unigol cyn eu hamlyncu i gell ewcaryotig. Gelwir hyn yn damcaniaeth endosymbiotig.
Ble ydy llawer o mitocondria yn y corff?
Beth yw ei addasiad sy’n helpu?
Cyhyrau a’r afu er mwyn cynnal anghenion egni’r meinweoedd yma.
Siap silindrog yn daparu a.a uwch sy’n cynyddu effeithlonrwydd resbiradaeth aerobig.
Beth ydy’r ribosomau yn cynnwys?
Dwy is uned, un fawr ac un fach wedi eu gwneud o RNA ribosomaidd a phrotein. Gallant fod yn rhydd yn y cytoplasm neu fod ynglhwm a’r RE garw.
Pam ydy ribosomau yn bwysig i synthesis protein?
Nhw yw safle trosiad, lle caiff mRNA ei ddefnyddio i gydosod y gadwyn polypeptid.
Beth ydy maint y ribosomau mewn celloedd procaryotig ac ewcaryotig?
Procaryotig = 70S.
Ewcaryotig = 80S.
Beth yw’r reticwlwm endoplasmig?
System gymhleth o bilenni dwbwl paralel sy’n ffurfio codenni fflat a bylchau llawn hylif o’r enw cisternau.
Beth ydy’r R.E yn caniatau?
Cludiant defnyddiau drwy’r gell.
Beth yw R.E garw a beth yw ei swyddogaeth?
Ribosomau ar arwyneb allanol yr RE garw yn syntheseiddio proteinau, sy’n cael ei basio i’r cisternae.
Wedyn yn cael ei ddefnyddio fel system i gludo’r proteinau.
Ble oes llawer o R.E garw?
Celloedd sy’n gwneud llawer o brotein, e.e celloedd sy’n creu amylas.
Beth yw R.E llyfn?
Heb ribosomau ar yr arwyneb allanol.
Safle synthesis a chludiant lipidau.