Bioleg 1.1 Elfennau Cemegol a Chyfansoddion Biolegol Flashcards
Os yw’r atomau yn y moleciwl yr un fath…
Elfen yw’r moleciwl
Os yw’r atomau yn y moleciwl yn wahanol…
Cyfansoddyn yw’r moleciwl
Gall ionau fod:
A gwefr positif - wedi colli un neu fwy o electronau
A gwefr negatif - wedi ennill un neu fwy o electronau
Dim gwefr?
Amholar
Gwefr?
Polar
Beth ydy ionau a chyfansoddion polar yn wneud?
Denu gronynnau a gwefr cyferbyniol ac yn chwarae rol pwysig hyn adeiledd moleciwlau
Bydd ydy cyfansoddion amholar yn wneud?
Ddim yn toddi mewn dwr ond byddant yn toddi mewn lipidau (brasterau/olew) - dywedir eu bod yn lipid-hydawdd.
Swyddogaeth ocsigen, carbon, hydrogen a nitrogen?
Prif gydrannau’r holl foleciwlau organig. Caiff ei ganfod mewn asidau amino/ asidau niwcleig.
Swyddogaeth calsiwm?
Cryfhau dannedd, esgyrn a nerfau mewn anifeiliaid, a waliau celloedd mewn planhigion.
Swyddogaeth ffosfforws (fel ffosffad)?
Yn bresennol mewn cellbilenni/ ATP/ asidau niwcleig.a
Swyddogaeth potasiwm?
Trosglwyddo ysgogiadau nerfol
Swyddogaeth Sylffwr?
Yn bresennol mewn rhai asidau amino
Swyddogaeth Clorin?
Cludo CO2
Swyddogaeth Sodiwm?
Trosgwlyddo impylsau nerfol/
Swyddogaeth Magnesiwm?
Cefnogi gweithrediad ensymau
Swyddogaeth Haearn?
Cludo Ocsigen
Swyddogaeth Copr?
Cefnogi gweithrediad ensymau
Swyddogaeth Manganis?
Cefnogi gweithrediad ensymau
Swyddogaeth Sinc?
Cefnogi gweithrediad ensymau
Swyddogaeth Iodin?
Cefnogi gweithrediad ensymau
Beth ydy cyfansoddion organig wastad yn cynnwys?
Elfennau carbon a hydrogen, ac mae llawer yn cynnwys ocsigen a/ neu nitrogen
Faint o dwr sy’n bresennol mewn bodau dynol?
60-70% o fas ffres bodau dynol
Pam ydy dwr yn hanfodol?
Gan fod yr holl adweithiau biocemegol yn digwydd mewn hydoddiant dyfrllyd h.y wedi’i hydoddi mewn dwr
Pa fath o foleciwl yw dwr?
Moleciwl polar - nid oes ganddo wefr gyffredinol (Hydrogen yn bositif ac Ocsigen yn negatif)
Sut ydym yn cynrychioli moleciwl dwr?
Trwy defnyddio llinellau solet ar gyfer y bondiau rhwng yr hydrogen a’r atomau ocsigen
Sut ydym yn dangos y gwefrau rhannol?
Delta positif a Delta negatif
Oherwydd eu polaredd…?
…mae moleciwlau dwr yn denu ei gilydd drwy ffurfio bondiau hydrogen gwan.
Sut ydym yn cynrychioli y bondiau Hydrogen?
Cyfres o linellau fertigol.
Pam ydynt yn cyfeirio at ddwr fel yr hydoddydd cyffredinol?
Oherwydd eu polaredd, mae moleciwlau dwr yn cael eu denu at foleciwlau dwreraill a gronynnau a gwefr, sy’n helpu gronynnau a gwefr i hydoddi mewn dwr.
Pam ydy dwr yn bwysig mewn adweithiau cemegol?
Gellir cyfuno llawer o foleciwlau organig bach a cholli moleciwl dwr
Priodwedd 1: Mae ia yn llai dwys na dwr.
Ffurfio haen dros wyneb cynefinoedd dyfrol; nid yw pyllau a chynefinoedd dyfrol eraill yn rhewi’n solet, felly gall anifeiliaid symud/ nofio o hyd.
Priodwedd 2: Mae dwr yn hylif ar y rhan fwyaf o dymhereddau ar y Ddaear.
Gellir ei ddefnyddio fel cyfrwng trafnidiaeth e.e yn y gwaed mewn mamaliaid, ac mae dwr yn cludo ionau wedi’u hydoddi fyny’r xylem mewn planhigion.
Priodwedd 3: Mae dwr yn ddi-liw/ tryloyw.
Gallgolau fynd gyrraedd planhigiob dyfrol i ffotosyntheseiddio; gall golau fynd drwy cytoplasm celloedd planhigion fel y gall gyrraedd y cloroplastau.
Priodwedd 4: Mae gan ddwr dyniant arwyneb uchel.
Gall arwyneb y dwr gefnogi’r mas llawer o organebau a dod yn gynefin iddynt.
Priodwedd 5: Mae gan ddwr gynhwysedd gwres sbesiffig uchel - gall amsugno llawer o egni gyda chynnydd bach yn unig yn y tymheredd.
Nid yw tymheredd celloedd a chynefinoedd dyfrol yn newid yn gyflym - mae amodau’n parhau’n sefydlog. Defnyddiol tu mewn i gelloedd gan fod tymheredd y cytoplasm yn sefydlog felly nid yw ensymau’n dadnatureiddio.
Priodwedd 6: Mae gan ddwr wres cudd anweddu uchel.
Mae angen llawer o egni i anweddu dwr fel bod organebau’n defnyddio anweddiad dwr i oeri ac nid yw cynefinoedd dyfrol yn diflannu’n hawdd trwy anweddiad. Mae trydarthiad mewn planhigion hefyd yn cael effaith oeri ar ddail.
Priodwedd 7: Mae gan ddwr briodweddau cydlynol ac adlynol cryf.
Oherwydd bondiau hydrogen, mae moleciwlau dwr yn glynu gyda’i gilydd (cydlyniad) ac yn glynu gyda sylweddau a gwefr neu amholar eraill (adlyniad) - felly gellir gosod moleciwlau dwr o dan rymoedd tynnol uchel a’u tynnu drwy blanhigion yn ystod trydarthiad.
Beth yw diffiniad organig?
Moleciwlau â chyfran
uchel o atomau carbon a hydrogen.
Beth yw diffiniad anorganig?
Moleciwl neu ïon sydd
ddim yn cynnwys mwy nag un atom carbon.
Beth yw Carbohydradau?
Gyfansoddion organig sy’n cynnwys yr atomau carbon, hydrogen ac ocsigen.
Beth yw Monosacaridau?
Monomerau - siwgrau sengl a enwir yn ol nifer yr atomau carbon yn y moleciwl. Maent yn felys ac yn hydawdd.
Beth ydy dau fonosacarid yn ffurfio?
Deusacarid.
Beth ydy sawl foleciwl monosacarid yn ffurfio?
Polysacarid.
Beth yw fformiwla gyffredinol monosacaridau?
CnH2nOn
Sut ydym yn grwpio Monosacaridau?
Gallwn ni eu grwpio nhw yn ôl nifer yr atomau carbon sydd ganddynt. Mae tri atom carbon mewn siwgr trios; mae pump
atom carbon mewn siwgr pentos ac mae chwech atom carbon mewn siwgr hecsos.
Beth yw swyddogaeth Trios?
Pwysig i fetabolaeth. Mae siwgrau trios yn rhyngolynnau yn adweithiau resbiradaeth a ffotosynthesis.
Beth yw swyddogaeth Pentos?
Ansoddion niwcleotidau, e.e. deocsiribos mewn DNA, ribos mewn RNA, ATP ac ADP.
Beth yw swyddogaeth Hecsos?
Mae glwcos yn siwgr hecsos. Mae glwcos yn ffynhonnell egni mewn resbiradaeth. Mae bondiau carbon–hydrogen a bondiau carbon– carbon yn cael eu torri i ryddhau egni, sy’n cael ei drosglwyddo i wneud adenosin triffosffad (ATP).
Beth yw Isomerau Adeileddol?
Moleciwlau gyda’r un fformiwla foleciwlaidd ond gyda gwahanol drefniadau o’u hatomau yn isomerau adeileddol.
Beth yw enghraifft o isomer adeileddol?
Galactos a Ffrwctos.
Beth yw dau isomer Glwcos?
Glwcos Alffa a Glwcos Beta.
Beth yw’r unig gwahaniaeth rhwng y ddau?
Atomau H ac OH wedi’u trefnu’n wahanol ar atom carbon 1.
Sut ydym yn cofio y drefn?
Alpha OH Below Beta OH Above (ABBA()
Beth sy’n digwydd ar atom carbon 1 yn Alffa glwcos?
Atom hydrogen uwch ei ben a grŵp hydrocsyl (OH)
oddi tano.
Beth sy’n digwydd ar atom carbon 1 yn Beta glwcos?
Atom carbon 1 grŵp hydrocsyl uwch ei ben ac atom hydrogen oddi tano.
Beth yw Deusacaridau?
Siwgrau a wneir o ddwy uned monosacarid.
Sut ydym yn ffurfio Deusacaridau?
Adwaith cyddwysiad - o grwpiau OH ar dau fonosacarid.
Beth yw enw’r bond sy’n dal at ei gilydd?
Bond Glycosidaidd.
Sut ydym yn torri bond Glycosidaidd?
Mewnosod dwr yn gemegol - mae hyn yn diwygio’r grwpiau OH ac fe’i gelwir yn adwaith Hydrolysis. Ffurfio dau monosacarid.
Beth ydy enw’r bond yn dibynnu ar?
Alffa neu Beta.
Nifer yr atomau carbon y mae’r grwpiau OH ynghlwm wrthynt, e.e yn Maltos mae’r bond yn gorwedd islaw C1 ac mae dwr yn cael ei golli o C1 ar un glwcos a C4 ar yr ail. Felly, enw’r bond yw Alffa 1-4 glycosidaidd.