Bioleg 2.2: Cyfnewid Nwyon mewn Anifeiliaid a Planhigion Flashcards
Beth yw cyfnewid nwyon?
Broses lle mae ocsigen yn cyrraedd celloedd a charbon deuocsid yn cael ei dynnu ohonynt.
Beth yw’r 4 ffactor sy’n effeithio ar cyfnewid nwyon?
> Arwynebedd arwyneb digon mawr (mewn cymhariaeth a maint yr organeb).
Arwynebau cyfnewid tenau (fel bod llwybr tryledu yn fyr).
Arwynebau cyfnewid athraidd (fel gall nwyon basio trwyddo).
Arwyneb cyfnewid llaith (fel bod nwyon yn hydoddi cyn tryledu).
Beth yw Amoeba?
Organeb ungellog sy’n byw mewn pyllau dwr.
Pa fath o gymhareb arwynebedd arwyneb i gyfaint sydd gan Amoeba?
Beth ydy hon yn golygu?
Mawr.
Felly mae ganddo ddigon om arwynebedd fel bod trylediad nwyon drwy’r bilen yn ddigonol am ofynion yr amoeba.
Beth yw arwyddocad pellteray fach o fewn y corff?
Nid oes angen dulliau cludiant arbennig a hefyd mae’r bilen yn llaith gan ei fod yn byw mewn dwr.
Beth yw’r unig ffordd gall organebau barhau i dyfu?
Drwy fod yn amlgellog, ond y mwyaf yw’r anifail y lleiaf yw’r gymhareb arwynebedd arwyneb i gyfaint - felly rhaid gwneud addasiadau i’r corff.
Beth yw Planaria?
Llyngyren ledog.
Beth yw priodweddau planeria yn nhermau eu maint?
Organeb llawer mwy a felly mae eu cymhareb arwynebedd arwyneb i gyfaint yn llai.
Sut mae’r planaria wedi ei addasu felly?
Trwy newid ei siap yn fflat.
Beth yw Mwydyn?
Pryf genwair.
Sut ydy’r mwydyn yn cymharu i’r Planaria?
Mae’r mwydyn yn fwy na’r planaria ac felly mae cymhareb arwynebedd arwyneb i gyfaint yn llai.
Beth ydy hyn yn golygu i’r mwydyn felly?
Mae’n rhaid bod gan y mwydyn addasiadau er mwyn cael cyfnewid cyflenwad digonol o nwyon.
Beth yw tri addasiad sydd gan y mwydyn?
> Arwyneb tenau.
Llaith, athraidd.
System gylchrediad (10 calon) a pigmentau gwaed (haemoglobin)
Beth ydy’r priodweddau yma yn hybu?
Trylediad a dosbarthiad nwyon.
Beth ydy anifeiliaid amlegllog sy’n fwy o faint gyda?
Mwy datblygedig a gyda cyfradd fetabolaidd ychel a chymhareb arwynebedd arwyneb i gyfaint llai.
Beth sydd angen ar organebau amlgellog datblygedig felly?
Arwyneb cyfnewid arbenigol.
Beth sydd gan pryfed say’n wahanol i bysgod ac adar?
Pryfed: Draceau
Pysgod: Tagellau
Adar, ymlusgiad a mamolion: Ysgyfaint
Beth yw ystyr Awyru?
Symud cyfrwng resbiradu (dwr neu aer) dros yr arwyneb cyfnewid.
Beth yw Pryfed?
Organebau amlgellog sy a sgerbwd ecso ddwrglos.
Beth sydd methu tryledu trwy’r sgerbwd allanol yma?
Nwyon, ac felly mae gan bryfed system draceol.
Beth yw’r tyllau yn y sgerbwd allanol?
Sbiraglau.
Ble ydy’r sbiraglau yn arwain i?
Rwydwaith o bibellau sy’n cyrraedd celloedd y corff.
Pam ydy nwyon yn tryledu drwy’r pibellau yma?
Er mwyn cyrraedd celloedd y corff.
Beth ydy’r pibellau wedi ei leinio gyda?
Citin sy’n eu cadw yn siapus.