Bioleg 1.4 Ensymau Flashcards
Beth yw enw ar adweithiau cemegol sy’n digwydd mewn celloedd byw?
Metabolaeth.
Beth yw adweithiau anabolig?
Yr adweithiau sy’n cymryd molecylau syml/bach a trwy broses o fondio yn ffurfio moleciwl mwy cymhleth e.e synthesis proteinau.
Beth yw adweithiau catabolig?
Yr adweithiau lle mae molecylau cymhleth yn cael eu hollti i roi molecylau symlach e.e treuliad.
Beth yw’r llwybr metabolaidd?
Ble mae cynhyrchion un adwaith yn adweithyddion y nesaf.
Beth yw ensymau?
Rheoli holl adweithiau cemegol.
Gweithredu fel catalyddion biolegol (cyflymu’r adwaith).
Beth yw priodweddau ensym?
> Cyflymu adweithiau cemegol.
Ddim yn dod i ben.
Ddim yn newid ac yn gallu cael ei ail-ddefnyddio.
Gyda rhif trosiant uchel (h.y mae nhw’n catalyddu llawer o adweithiau yr eiliad.
Beth fyddai’n digwydd heb ensymau?
Byddai adweithiau cemegol mewn celloedd yn rhy araf i alluogi bywyd.
Ble ydy ensymau yn cael ei syntheseiddio?
Mewn celloedd.
Ble ydy ensymau allgellog yn gweithio?
Gweithio tu allan i gelloedd ar ol cael eu secretu trwy ecsocytosis e.e ensymau treulio fel amylas.
Ble ydy ensymau mewngellol mewn hydoddiant yn gweithio?`
Tu fewn i gelloedd mewn hydoddiant e.e ensymau sy’n ymddatod glwcos yn y cytoplasm yn ystod cam gyntaf resbiradaeth.
Ble ydy ensymau mewngellol ynghlwm wrth bilenni yn gweithio?
Tu fewn i gelloedd ynghlwm wrth bilenni e.e ATP synthetas, sydd ar cristae mitocondria.
Beth yw rhan fwyaf o ensymau?
Protein globwlar.
Beth yw adeiledd ensymau?
> Adeiledd trydyddol.
Gwneud o un neu fwy gadwynau o asidau amino a elwir yn gadwyn polypeptid.
Beth yw priodweddau y gadwyn polypeptid?
Wedi’i blygu’n dynn i roi siap sfferig neu grwn a grwpiau R hydroffilig ar du allan y moleciwl, sy’n golygu bod ensymau’n hydawdd.
Beth ydy’r dilyniant penodol o grwpiau R yn pennu?
Pa fondiau (hydrogen, pontydd deusylffid, ionig) mae’r asidau amino’n gwneud gyda’i gilydd.
Beth yw safle actif yr ensym?
Safle 3D lle mae’r swbstrad yn rhwymo a bondiau gwan. Mae gweddill yr ensym yna i sicrhau bod siap y safle actif yn aros yr un siap.
Beth sydd angen ar foleciwlau i adweithio?
Digon o egni cinetig i fynd yn ddigon agos at ei gilydd i adweithio.
Beth yw’r egni actifadu?
Isafswm yr egni sydd ei angen er mwyn i foleciwlau adweithio, gan dorri’r bondiau sy’n bresennol yn yr adweithyddion a gwneud rhai newydd.
Sut ydym yn gwenud i gemegion adweithio yn gyflymach?
Cynyddu ei hegni cinetig, i wneud gwrthdrawiadau llwyddianus rhyngddynt yn fwy tebygol.
Beth ydy tymhereddau dros 40 C yn gwneud?
Dadnatureiddio proteinau, felly mae ensymau yn gweithio drwy ostwng yr egni actifadu sy’n golygu bod adweithiau’n gallu digwydd ar dymheredd is.
Beth ydyn ni methu newid am ensymau?
> Ni ellir newud faint o gynnyrch a ffurfir yn y pen draw.
Rydym dim ond on gallu rheoli pa mor gyflym y bydd yn ffurfio.
Beth yw y damcaniaeth glo ac allwedd?
Dynodi bod siap unigryw’r safle actif yn golygu mae dim ond un math o adwaith mae ensym yn gallu ei gatalyddu, a felly mae pob ensym yn benodol i un swbstrad.
Sut ydym yn disgrifio siap y safle actif?
Gyflenwol i siap y swbstrad.
Beth yw y damcaniaeth ffit anywthol?
> Damcaniaeth arall i egluro gweithrediad ensym.
Koshland wedi arsylwi bod siap sadle actif ensym yn newid wrth rwymo a’i swbstrad.
Awgrymodd fod siap y safle actif yn hyblyg a gallu addasu a newid fel bod moleciwl y swbstrad yn clymu i’r ensym.