Y mor - Einir Jones Flashcards
Cyferbyniad
‘‘Ac yna
fe ddaeth yr olew.’’
Wedi agor y gerdd yn obeithiol, a chreu darlun hyfryd o’r pysgod yndawnsio’n loyw, mae’r bardd yn cyferbynnu hyn yn llwyr gyda’r anobaeith ddaw yn sgil llygredd olew. Y r olew sy’n tagu pob bywyd yn y mor. Ar ol agor mor obeithiol, mae’r cyferbyniad yn dod fel mwy o ergyd.
Ansoddair
‘‘dawnsio’n loyw’’
Ychwanegu at darlun o’r pysgod gan ei fod yn cyfleu bywyd ar ei orau. Mae yma ddarlun disglair o’r pysgo, mae’r ansoddair ‘gloyw’ yn llwyddo i gyfleu eu cyflymder a’u bywiogrwydd.
Brawddegau byrion
‘‘Bywyd.
Tarddle’r dechreuad’’
Can ddarlun uniongyrchol o hyfrydwch a gobaith. Clywn gan y bardd fod y mor yn lle perffaith a glan, yn wahanol i’r mor a welwn yn nes ymlaen yn y gerdd.
Trosiad
‘‘yn clincian angau
i lawr y canrifoedd’’
creu darlun o ddiwedd bywyd. Fel arfer, poteli sy’n clincian yn erbyn ei gilydd, ond mae’r clincian hwn yn llawer mwy marwol. Hefyd mae’r iwraniwm yn mynd i achosi marwolaeth am flynyddoed i ddod.
Mesur y gerdd
penrhydd
- dim patrwm pendant
- cyfle i roi pennill byr e.e ‘ac yna fe daeth yr olew’ i bwysleisio difrifoldeb hyn
Neges y gerdd
- Mae llygredd yn dinistrio byd natur felly mae rhybudd yma i ni fel pobl barchu byd natur y mor
- Rydym wedi gweld ambell i ddamwain olew ar y mor yn y gorffenol