11.12.82 - Iwan Lloyd Flashcards
Personoli
‘‘a’r dail yn diferu atgofion’’
Bardd yn gweld glaw yn llifo oddi ar y dail yn debyg i ddagrau. Dail yn gweld tristwch y diwrnod. Effeithiol= defnyddio’r tywydd i gyfleu’r teimlad hwn.
Trosiad
‘‘toddi’r gaeafddydd’’
Wrth clywed y babi yn crio mae’r gaeafddydd yn toddi. Tywydd yn adlewyrchu teimladau’r bardd, felly son am ei deimladau’n toddi y mae o. Gaeafddydd yn trosiad am yr holl ganrifoedd o drsitwch.
Ansoddeiriau
‘‘yn dawel; yn distaw’’
Rhain gyfystyr a’i gilydd. Distaw yn cyfleu tristwch, dyma rydym ni’n teimlo o golli ein harwr. Tawelwch yn rhoi cyfle i ni feddwl, i gofio ac i obeithio am well dyfodol.
Ailadrodd
‘‘saith canrif’’
Pwysleisio faint o amser syd wedi bod ers marwolaeth Llywelyn. Effeithiol= rhoi patrwm taclus i’r gerdd. Tristwch yn dod mwy amlwg wrth ailadrodd.
Mesur y gerdd
Rhydd
- Patrwm yn y penillion cyntaf
- odl a rhythymn
- newid ym mhatrwm rhythymn y pennill olaf
Neges y gerdd
- Rydym fel Cymry wedi bod rhy ‘dawel’ dros y canrifoedd. Prin iawn yw ein gweithredoedd o’u cymharu a rhai Llywelyn ein Llyw olaf.
Technegau arddull 11.12.82
Personoli: ‘‘a’r dail yn diferu atgofion’’
Trosiad: ‘‘toddi’r gaeafddydd’’
Ansoddeiriau: ‘‘yn dawel; yn distaw’’
Ailadrodd: ‘‘saith canrif’’