Gail Fu Farw - Nesta Wyn Jones Flashcards

1
Q

Ailadrodd

‘‘Mor ddi-ystyr fu ei mynd, a’i dyfod’’

A

Rhoddir y ffeithiau trist o’n blaenau heb wastraffu geiriau ac ailadroddir y frawddeg agoriadol yn ddiweddglo crefftus i’r gerdd sy’n rhoi ysgytwad i ni. Mae ei bywyd yn cael ei grynhoi i un llinell. Pwysleisir nad oedd neb yn poeni dim amdani pan oedd yn fyw ac nad oedd pwrpas i’w bywyd.

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
2
Q

Berfau
‘‘Parselwyd’’
‘‘Gollyngwyd’’

A

Ceir defnydd da o ferfau yn y gerdd, fel parselwyd i ddisgrifio’r modd y cai Gail ei thaflu yn amhersonol o un lle i’r llall.
Yn yr un modd sonnir amdani yn cael ei gollwng yn rhydd i farw. Mae’r gair gollyngwyd yn cyfleu rhyddid, ond, y rhyddid hwn a arweiniodd at farwolaeth.

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
3
Q

Ansoddeiriau
‘‘taclus’’
‘‘mesuriedig’’

A

Ceir dewis gofalus o ansoddeiriau wrth ddisgrifio tywyllwch ei harch. Darlun oeraidd sy’n awgrymu mai ei diwedd oedd yr unig beth a drefnwyd yn ofalus ar ei chyfer. Mae hyn yn wrthgyferbyniad i’w bywyd llawn niwsans a ddisgrifir ar ddechrau’r gerdd.

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
4
Q

Brawddegau byr

‘‘Cartref plant. Borstal. Carchar.’’

A

Mae’r atalnod llawn ar ôl pob gair wrth restru’r holl sefydliadau fu’n gymaint rhan o’i bywyd yn creu rhythm stacato addas ac effeithiol i’r mynegiant. Gosodir y geiriau unigol ar eu pennau eu hunain i dynnu sylw a gwneud i’r darllenydd oedi ac ystyried sefyllfa Gail.

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
5
Q

mesur y gerdd

A

penrhydd

  • nid oes odl rheolaidd
  • rhyddid gan y bardd i amrywio hyd ei llinellau
  • Weithiau ceir llinellau hir, a thro arall rai byr.
  • Mae’r bardd yn gallu defnyddio’r ffurf hon i roi rhyddid iddo ddweud beth yn union y mae eisiau.
How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
6
Q

Neges y gerdd

A

Llawer o bobl ifanc anffodus fel Gail yn y byd, yn ddigartref ac yn gaeth i gyffuriau ac yn cael eu hanwybyddu gan y gymdeithas ac awdurdodau’r wlad.

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly