Delyth (fy merch) yn ddeunaw oed - Dic Jones Flashcards
Ailadrodd
‘‘Deunaw oed…’’
effaith y mae’r penblwydd arbennig hwn wedi’i gael ar y bardd.Deunaw oed, y deiniadol, ond hefyd mae’n ei lenwi gydag ofn fod amser yn hedfan yn ei flaen ,Dunaw oed fy hennoed i.
Cyferbyniad
‘‘Ddoe’n ddeunaw, heddiw’n ddynes.’’
Cyferbyniad rhwng ieuenctid a henaint. Effeithiol= llwyddo i gael geiriau cyferbyniol i gynganeddu gyda’i gilydd. Nid yn unig ddoe a heddiw ond hefyd deunaw a dynes. Mae’r geiriau hyn yn dynodi’r gwahaniaeth rhwng y ddoe ifanc a’r heddiw sy’n golygu bod Delyth wedi tyfu’n hyn.
Trosiad
‘‘Deunaw oed yw ein hedyn’’
cawn darlun o beth bychan iawn wedi tyfu’n aeddfed. O roi hedyn yn y ddaear, gall dyfu i fod yn blanhighyn hardd, a dyma’n union y mae Delyth wedi’i wneud. Mae’r ffaith mai ffermwr oedd Dic Jones yn dwysau’r trosiad hwn gan ei fod yn gweld hadau’n tyfu yn ei waith bob dydd.
Ansoddeiriau
‘‘dewinol…tragwyddol…deiniadol’’
bardd wedi dewis ansoddeiriau sy’n dyrchafu’r deunaw oed yn yr ail englyn. Cawn ddarlun o fywyd ar ei orau, a bod popeth yn iawn. Mae’n arwyddocaol felly fod yr englyn yn gorffen drwy ein hatoffa nad felly y mae hi mewn gwirionedd.
Mesur y gerdd
Caeth (Englyn)
- cryno, gallu dweud llawer mewn ychydig eiriau
- cofiadwy, y gynghanedd yn gwneud y gerdd yn hawdd i’w chofio
- y neges yn cael ei amlygu yn y mesur; mesur byr: ieuenctid byr Delyth
Neges y gerdd
- Mae amser yn hedfan pan yn ifanc felly mae angen manteisio ar bob munud
- Mae cariad rhiant at blentyn yn rhywbeth gwerthfawr a phan mae’n amser gadael y nyth mae’n amser i symud ymlaen er gwaetha’r colled a thristwch. Ond dyma drefn dynoliaeth ac ni ellir dianc rhagddi.