Y llwynog - R. Williams Parry Flashcards
Cyffelybiaeth
‘‘megis seren wib’’
Greu darlun o ryfeddod byd natur gan weld tebygrwydd rhwng prydferthwch y llwynog a’r seren wib. Hefyd mae’r bardd yn awgrymmu mai prydfertwhch dros dro ydy’r llwynog gan nad ydy’n para ond ychydig eiliadau, yn union fel seren wib.
Ansoddeiriau
‘‘anhreuliedig haul’’
‘‘gwych’’
Ychwnaegu at y darlun trwy glodfori’r haul a mis Gorffenaf. Mae’r bardd, trwy ganmol y rhain, yn paratoi’r ffordd i ni weld pa mor wych ydy’r llwynog. Maent yn gymorth i ni ddeall pam fod y bardd wedi penderfynnu mynd am dro i’r mynydd y diwrnod hwnnw.
Cyferbyniad
‘‘gwahodd tua’r llan’’
‘‘gwahodd tua’r mynydd’
Llan yn cynhrychioli pobl a chrefydd, tra bod y mynydd yn cynrychioli’r awyr agored a thawelwch. Awgryma’r bardd yma fod yn well ganddo dawelwch y mynydd na swn pobl. Mae e’n dewis awyr iach y mynydd.
Trosiad
‘‘dwy sefydlog fflam’’
Mae’r bardd yn creu darlun o lygaid y llwynog. Gall y fflam gynrychioli ofn y llwynog wrth weld y tri gwr yn sefyll o’i flaen, neu gall fod yn adlewyrchiad o’r haul yn llygaid y llwynog.
Mesur y gerdd
soned
- 14 llinell
Neges y gerdd
- Pethau da bywyd ddim yn para’n hir ond yn aros yn ein cof am byth
- Gall byd natur ein syfrdanu weithiau ac mae’n rhaid gwerthfawrogi’r anifeiliad prin
- Natur yn beth dyle ni gwerthfawrogi; dyle ni wneud hynny pan da ni’n gallu