Glas - Bryan Martin Davies Flashcards
Trosiad
‘‘pensil coch o dren’’
Tynnu ein sylw at y dren yn y llinell hon. Gwelwn yr olygfa ar y traeth yn glir trwy lygaid plentyn bach yn pennill agoriadol wrth i’r bardd ddefnyddio nifer o ddelweddau a gaiff eu cysylltu a phlant ifanc.
Lliwiau
‘‘rhimyn glas y bae’’
‘‘llongau banana melyn’’
Teitl y gerdd yw glas ac mae’r thema lliwiau yn parhau trwy’r gerdd i greu darlun prydferth bywiog i ni o ddiwrnod braf a phleserus ar y traeth. Pwysleisir glesni’r awyr a’r mor yn arbennig sy’n pwysleisio glaslencyndod y bardd.
Cyferbyniad
‘‘y dyddiau glas…o ddyffryn du’’
Yn y pennill olaf daw’n amlwg bod y bardd yn berson mewn oed yn ail-fyw ei blentyndod, yn myfyrio dros ei brofiad ac yn gweld y cyferbyniad rhwng rhyddid diwrond yn Abertawe a chaethiwed dyffryn du lle mae glowyr a chymdeithas gyfan yn dioddef bywyd caled.
Personoliad
‘‘mor yn Abertawe’n rhowlio chwerthin’’
Trwy gyfrwng y personoliad hwn, cawn ddarlun o fwynhad ar lan y mor. Trosglwydda’r bardd chwerthin y plant i’r mor. Hefyd mae symudiad y tonnau’n awgrymmu’r gair rowlio.
Mesur y gerdd
penrhydd
- dim patrwm pendant
- rhythymn yr iaith lafar yn bwysig
- mesur yn addas i osod gair neu eiriau arwahan i bwysleisio rhwybeth
Neges y gerdd
- mae’n bwysig cael rhyddid oddi wrth pethau anodd mewn bywyd, a chael ymlacio a mwynhau o dro i dro.