Cydbwybod - Meirion MacIntyre Huws Flashcards

1
Q

Ailadrodd
‘‘y gŵr nad yw ond geiriau’’
‘‘a’r geg nad yw fyth ar gau.’’

A

Ceir y cwpled hwn yn y pennill cyntaf a’r olaf. Mae’n effeithiol oherwydd fod yna ailadrodd o fewn y cwpled yn ogystal â bod y cwpled ei hun yn cael ei ailadrodd. Ceir yr un ystyr yn y ddwy linell, er nad ydy’n ddim ond geiriau, mae’n dal i fod yn ddraenen yn ystlys y bardd.

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
2
Q

Cyferbyniad

‘‘fy mrawd iach – fy mradychwr’’

A

Gall cydwybod fod yn gyfaill ac yn elyn. Mae’n hawdd gwrando arno ar adegau, ond droeon eraill mae’n dweud pethau nad wyt ti am eu clywed. Mae’r cyferbyniad hwn yn drawiadol gan fod yma ddau eithaf – mae brawd iach yn edrych ar dy ôl, tra bod bradychwr eisiau dy weld yn cwympo.

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
3
Q

Rhestru

‘‘mae cri y dall, mae ciw’r dôl’’

A

Un rhan fach o’r rhestru sy’n y gerdd ydy’r uchod. Gellid dweud mai un rhestr hir ydy’r gerdd o’r hyn ydy cydwybod. Yma, canolbwyntir ar y rhai llai ffodus mewn bywyd, ac ergyd y rhestru ydy ein gwneud ni i sylweddoli y dylen ni wrando ar ein cydwybod yn siarad er mwyn i ni helpu’r trueiniaid hyn.

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
4
Q

Personoli

‘‘swnyn hollbresennol’’

A

Personoli cydwybod a wna’r bardd yn y gerdd hon. Drwy gyfrwng y gair swnyn cawn agwedd ddilornus y bardd tuag at ei gydwybod. Mae’r ansoddair hollbresennol yn awgrymu y byddai’r bardd yn gwerthfawrogi dihangfa oddi wrth y cymeriad yma y mae’n ei alw’n gydwybod.

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
5
Q

Mesur y cerdd

A

Caeth (Cywydd)

  • 7 sillad ym mhob llinell
  • cynghanedd ym mhob llinell, odli fesul cwpled
  • un llinell yn gorffen yn acennog a’r llall yn ddiacen
  • Y gynghanedd yn gwneud y gerdd ac yn gwneud neges y gerdd hefyd yn yn un bwysig.
How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
6
Q

Neges y gerdd

A
  • Dylem adael i’n cydwybod ein pigo weithiau, dylem gofio a meddwl am bob llai ffodus na ni ein hunain.
  • Mor hawdd yw byw bywyd hunanol a chadw pob fronyn o bres i ni ein hunain. A ddylem ymroi yn amlach i helpu eraill drwy gyfrannu at elusennau tybed?
How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly