Ty'r ysgol - T.H.Parry Williams Flashcards

1
Q

Rhestru
‘‘…sgubo’r lawr’’
‘‘Ac agor y ffenstri…’’

A

Cawn yr argraff felly fod rhywun yn byw yno oherwydd yr holl brysurdeb. Camargraff ydy hyn fel y sylwn yn nes ymlaen. Mae’r lle’n wag, ond mae’r teulu’n dal am ei gadw.

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
2
Q

Trosiad

‘‘y drws ynghlo’’

A

Gallai’r drws fod ar glo yn ffigurol, ond hefyd gallai’r ffaith fod y lle wedi ei werthu olygu fod y drws ar glo i’r teulu, a bod y lle’n llawn dieithriaid. Trosiad ydy’r drws clo am y ffaith y gallai hanes y teulu yn Nhŷ’r Ysgol fod wedi dod i ben.

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
3
Q

Geiriau amhersonol
‘‘rhywun’’
‘‘rhai’’

A

Nid ydym yn dod i wybod pwy ydy’r ‘rhywun’ sy’n edrych ar ôl y tŷ na’r ‘rhai’ sy’n holi. Pobl ddiwyneb ydyn nhw er mwyn cynyddu’r pwyslais a roddir ar y teulu yn y soned. Gan nad ydy’r bobl hyn yn cael eu henwi, mae’r cyfeiriad at y tad a’r fam yn dod yn fwy personol yn y gerdd.

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
4
Q

Berfau
‘‘mygu’’
‘‘sgubo’’
‘‘agor’’

A

cawn ddarlun o brysurdeb yn y tŷ. Mae yma lawer yn digwydd, ond darlun twyllodrus ydy hwn. Ergyd y gerdd yw nad oes dim yn digwydd yno mewn gwirionedd, ac mai cadw’r lle i fynd yn unig ydy’r nod.

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
5
Q

Mesur y gerdd

A

Rhydd (Soned)
mewn soned mae yna:
- pedair llinell ar ddeg
- deg sillaf ymhob llinell

How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly
6
Q

Neges y gerdd

A
  • Weithiau mae ‘rhywbeth’ yn ein meddyliau yn ein rhwystro rhag gwneud rhywbeth ac yn yr achos yma nid yw’r bardd yn gallu gwerthu’r ty a oedd yn eiddo ei dad ei fam er eu bod wedi marw.
  • Mae ardal, cartref a theulu yn agweddau pwysig yng nghydwybod y bardd a hefyd i lawer o bobl.
How well did you know this?
1
Not at all
2
3
4
5
Perfectly