Y coed - Gwenallt Flashcards
Rhestru
‘‘heb fynwent na bedd na wrn’’
cyfeirio ar farwolaeth yr Iddewon. Yn benodol, cyfeiriant at yr hyn a ddefnyddir fel arfer i gofio am y meirwon. Nid oes yr un ohonynt i gofio am y rhai gafodd eu lladd yn yr holocost. Effaith y rhestru ydy dangos cywilydd na chawsant eu cofio ond drwy gyfrwng y coed.
Ansoddeiriau
‘‘cofgolonau byw’’
‘‘fwyaf barbariadd’’
Ddim llawer o ansoddeiriau yn y gerdd felly mae’r rhai ddewisiodd Gwenallt yn bwysig. Yn y gymhariaeth fel cofgolofnau byw mae’r ansoddair yn llawn eirioni gan fod y coed yn cynrychioli’r Iddewon a fu farw.
Y negyddol
‘‘Nidyw’r dwylo…’’
Caiff y dynoliaeth ei chondemio yn gyson drwy’r gerdd ac mae’r defnydd o’r negyddol yn arf i bwysleisio hyn. Llwydda Gwenallt i droi’r negyddol yn feirniadaeth gadarnhaol, a’n hannog ni i weithredu yn erbyn rhyfel.
Berfau amhersonol
‘‘Plannwyd’’
‘‘Llosgwyd’’
Defnyddir berfau yn gyson drwy’r gerdd. Rhain yn cael ei ddefnyddio mewn cyd-destun ffurfiol a geir yn y cwpled cyntaf. Awgryma’r berfau hyn na wyddwn pwy wnaeth y plannu na phwy wnaeth y lladd. Er hyn, gwyddwn yn iawn am yr holl dioddef.
Mesur y gerdd
Rhydd/ Mydr ac odl
- penillion dwy llinell yn odli. Mesur addas i fyfyrio. Nid oes nifer cyson o sillafu, ond mae 5 curiad i bob llinell. Mae’r mesur yn galluogi’r bardd i:
1) Roi ei feirniadaeth yn gryno
2) O bryd i’w gilydd, mae’n torri allan o’r mesur sylfaenol, er mwyn pwysleisio, e.e
‘‘A gollwng y ddau fom niwclear ar y ddwy dre yn Japan.’’
Neges y gerdd
Ddim ond ychydig wledydd sy’n ddieuog o ryfela
Dyn yn profi tro ar ol tro ni allant byw yn ol gair Duw.