Y Meirwon - Gwenallt Flashcards
“foldiodd”
Berf - Cyfleu mai ei magwraeth sydd wedi ei siapio
“ei fywyd e’”
Iaith lafar - Cyfleu bod o’n gerdd myfyriol a phersonol
“rhaffau dur”
Trosiad - Bardd yn teimlo’n gaeth ac yn anniddig. Trosi’r teimlad o berthyn yn ddelwedd arall o’r ddiwydiant dur
“feisiglau”
Iaith lafar - Siarad yn naturiol am ei brofiadau
“lladrata”
Berf - Cyfleu tlodi’r ardal
“Ni freuddwydiais”
Person cyntaf - Cyfleu mai cerdd personol ydi hi, sy’n siarad am brofiad
“yn chwydu”
Berf ymosodol - Dim yn cuddio’r gwir
“i fwced fudr goch”
Cyflythrennu - Cyfleu dicter y bardd
“Y Merthyron”
- Gair mwys - Wedi aberthu eu bywydau i’r diwydiant
- Eironi - Wedi aberthu eu bywydau i gyflafiaeth
“gennym ni”
Rhagenw cyntaf lluosog - Cyfleu agosatrwydd
“Saethai…i dorri…i dywyllu”
Berfau a berfenwau ymosodol - Cyfleu bod cysgod cyflafiaeth yn ymosod ar normalrwydd eu bywydau
“Sleifiem”
Berf - Cyfleu diniweidrwydd plentyndod
“sbio yn syn”
Ansoddair - Cyfleu erchylltra’r sefyllfa yn effeithio ar ddiniweidrwydd plentyn
“Ar olosg o gnawd yn yr arch, ar ludw o lais”
Delweddau diwydiant (“olosg”) a throsiadau - Cysylltu’r marwolaeth gyda’r mannau gwaith
“Golectau gwrthryfel coch a litaniau trais”
Cyflythrennu ac ansoddair (“coch”) - Cyfuno crefydd a gwleidyddiaeth
“Nid yr angau a gerdd”
Negydd a phersonoli - Rhoi syniad sinistr o farwolaeth i ni
“rhybudd yn swn cloncian…a naid”
Berf - Cyfleu marwolaeth sydyn
“sydyn slei”
Cyflythrennu - Cyfleu bod pobl yn marw cyn eu hamser heb rybudd
“llewpart diwydiannnol a naid yn sydyn slei”
Trosiad - Cyfleu marwolaeth aflan
“hwteraidd”
Ansoddair - Delwedd diwydiannol. Cyfleu bod marwolaeth fel hwter uchel, ni ellir ei guddio
“llychlyd, myglyd, meddw”
Pentyrru ansoddeiriau - Defnyddio delweddau o’r diwydiant dur
“tynghedfen las”
Ansoddair - Cyfeirio at y garreg fedd
“catastroffig, cyntefig, cas”
Cyflythrennu - Pwysleisio dicter cryf y bardd
“dewrfud”
Gair cyfansawdd - Dim dewis ond i ddioddef yn ddistaw
“arian y gwaed”
Idiom - Ond iawndal sy’n cael ei roi am golled eu gwyr
“cario…torri…dodi’r”
Berfenwau - Cyfleu’r gwaith caled. Cyfleu effaith cyflafiaeth ar y menywod
“Y Groes”
Cyfeiriadaeth Feiblaidd - Gwragedd yn uniaethu gyda Mair yn ei galar ar ol aberthiad ei mab
“Sul y Blodau”
Cyfeiriadaeth crefyddol - Dangos bod Gwenallt yn fardd crefyddol
“silicotig”
Ansoddair ymosodol - Disgrifio cochni y rhosod fel petai’r blodyn ei hun wedi cael ei effeithio gan gyflafiaeth a diwydiant
“byd diddosbarth a di-ffin”
Ansoddeiriau - Cyfleu byd delfrydol ble mae dynion yn gyfartal
“Nid oes a erys heddiw…Ond”
Negyddion - Cyfleu naws negyddol, ychydig o obaith yn ymddangos. Y gymuned a brawdgarwch yn parhau