Beaufort, Blaenau Gwent mewn gwyrdd Flashcards
“Mae capel Carmel wedi cau”
Cyflythrennu - Pwysleisio adeilad di-bwrpas. Creu darlun anobeithiol
“a boddi mae y beddau”
Eironi - Beddi yn dynodi marwolaeth. Yn yr achos yma, mae nhw hefyd gyda’r siawns o farw
“a chwifio’n fyw mae meini’r meirw”
Gwrthgyferbyniad - Dangos bod o’n dal anadl yn ol
“Yma mae’r Gymraeg yn llwyd”
Personoli - Cyfleu bod yr iaith yn ddi-ddim ym Meaufort
“sy’n nofio fel cyrcs”
Cymhariaeth - Corcyn gyda phriodweddau arnofio. Pwysleisio gobaith ac yn caniatau i’r iaith Gymraeg oroesi
“naddion ar y meini…fel cyrcs”
Gwrthgyferbyniad - Y gair “meini” yn cyfleu nad oes dim bywyd yn perthyn iddynt
“brain”
Symboliaeth - Brain yn symboliaeth o farwolaeth mewn llenyddiaeth Cymraeg. Cyfleu bod y Gymraeg yn cael ei fwyta ac yn marw yn araf bach
“rhythu”
Berfenw - Blin gyda’r gymdeithas ym Meaufort oherwydd nad ydi’r capel wedi cael y gofal cywir, fel yr iaith
“Yna’n ddisymwth”
Trobwynt - Yr iaith heb farw wedi’r cwbl
“i’m hysgwyd o’m sentimentaleiddio”
Adleisio soned cerdd Peilon gan R. Williams Parry - “Be sentimentaleiddiwch”
“tu ol i’r penglog rhwth o gapel”
Trosiad - Cael ei gysylltu gyda marwolaeth. Ydi’r capel ei hun wedi marw?
“yn gawod o liw rhwng meini’r meirw”
Trosiad - Cyferbynnu gyda lliw diflas y capel, a’r lliw llwyd sydd wedi bod dan sylw tan rwan
“fel mellt yn y llwydwyll”
Cymhariaeth - Cyferbynnu gyda’r lliw llwyd sydd wedi bod dan sylw tan rwan
Pennill Olaf
Paradocs - Symboliaeth o dwf yr iaith yn yr ardal
“hen iaith”
Gair cyfansawdd - Yn ei osod yn y gorffennol