Sul y Mamau yn Greenham - Menna Elfyn Flashcards
“Bwrw eira a dynion glas a gwyrdd”
“chwaeroliaeth”
Gwrthgyferbyniad - Defnydd o’r ferf ymosodol ‘bwrw’ yn gwrthgyferbynnu gyda anwylder a chynhesrwydd “chwaeroliaeth”
“chwarae a than”
Pwysleisio bod nhw’n gwneud rhywbeth mentrus
“yn erbyn y symbylau”
Adleisio’r Beibl - Actau Pennod 26, Adnod 14 - “Gwingo yn erbyn y symbylau”
“hir”
Ansoddair - Pwysleisio bod o’n gallu mynd ymlaen am byth
“Y Ffens”
Defnydd o briflythrennau - Pwysleisio ei bwysigrwydd. Dyma beth sy’n eu gwahanu oddiwrth yr arfau niwcwlar
“a’n dwylo ar wifren yn ei thyneru”
Symbol o awdurdod caled ac yn dangos bod y merched yn gallu cyflawni unrhywbeth
“chwarae ty bach”
Trosiad - Pwysleisio diniweidrwydd ond hefyd eu diffyg grym
“sgwrsio a chanu, creu a chrio”
Rhestru berfenwau - Dangos dynoliaeth
“cadw ty”
Adleisio’r gerdd ‘Pa Beth yw Dyn?’ gan Waldo Williams - “Beth yw gwladgarwch? Cadw ty mewn cwmwl tystiolaeth”
“Saffrwm yn codi”
Symboliaeth - Delwedd gobeithiol
“codi”
Berf - Cyfleu’r merched yn codi yn erbyn potensial dinistrol arfau niwcwlar
“blodeuo”
Berf pwerus - Cyfelu’r ystyr o fyw’n llawn
“dan draed”
Ymadrodd - Dangos pa mor anodd oedd yr amgylchiadau i’r blodyn yma, fel y merched. Gallu cyfleu niwsans hefyd, fel y merched i’r awdurdodau
“eto”
Adferf - Dal yn mynd ati, dim yn rhoi fyny. Cyfleu dyfalbarhad
Rhestru trwy gydol 5ed pennill
Cyfleu bod o’n siwrne diddiwedd