DIY - Grahame Davies Flashcards
Arwyddocâd y Teitl
DIY - Do It Yourself
Gwrthgyferbynnu gyda’r syniad o gydweithio. Dyma yw’r gymdeithas rwan yn y 21ain ganrif
“Mae angen gwaith ar Neuadd y Gweithwyr”
Eironi a gwrthgyferbyniad - Pam bod angen gwaith yno?
“Neuadd y Gweithwyr”
Trosiad estynedig - Cyfleu’r gymdeithas yn y gerdd. Arfer bod yn le oedd un yn gallu mynd i gymdeithasu a mwynhau
“Mae chwyn yn tyfu yng nghraciau ei chrandrwydd”
Gwrthgyferbyniad - Cymharu ddoe a heddiw. Roedd o’n cael ei barchu ers talwm ond nid erbyn heddiw
“dwyn”
Berfenw - Cyfleu diffyg parch
“Neuadd, capel, clwb”
Rhestru - Rhan hanfodol o bentrefi a chymunedau Cymru
“yn gregyn, yn amgueddfa heb ymwelwyr”
Trosiadau - Pwysleisio’r gwacter
“fel hen bobl a’u plant wedi’u gadael”
Cyfleu cyfrifoldeb di-angen. Niwsans. Cyfleu gwacter
“o gynnal a chadw”
Ailadrodd - Rhywbeth unigol, nid cymdeithasol. Nid oes neb yn gwneud hyn i’r gymdeithas
“nid cyd-ddyheu sy’n codi estyniad”
Adleisio R. Williams Parry - “Cyd-ernes yw’r coed arni cyd-ddyheu a’i cododd hi”. Pwysleisio sut mae cymdeithas wedi newid
“prowla”
Berf - Trosi ni i fod yn anifeiliaid sydd ddim yn gymdeithasol. Gwell ganddynt weithio ar eu pen eu hunain
“y siopau DIY”
Gwrthgyferbynnu gyda “Neuadd y Gweithwyr” yn y pennill cyntaf - Cymharu ddoe a heddiw. Dangos sut mae gymdeithas wedi newid
“fel cyrbibion gwareiddiad”
Cymhariaeth - Cyfeirio at y syniad bod popeth erbyn heddiw yn dameidiog. Yn cael eu rhoi mewn ‘flatpacks’
“ceisiwn”
Berf - Cyfleu cred y bardd yn y syniad o gydweithio cymdogol
“DIY”
Cyfeiriadaeth at deitl y gerdd - Gyda diffyg cymdeithas, mae angen i bopeth fod yn ‘do it yourself’