Y Gwr sydd ar y gorwel - Gerallt Lloyd Owen Flashcards
“Nid eiddil pob eiddilwch, tra dyn, nid llychyn pob llwch”
Paradocs - Cyfleu gall rhywbeth sy’n ymddangos yn wan fod yn nerthol. Cyfeiriad at bortread Saunders Lewis. “llwch” yn pwysleisio di-werth
“Gymru”
Cyfarchiad - G.Ll.O yn trafod yr iaith, y tir, y bobl, y diwylliant
“y gwr sydd ar y gorwel”
Ailadrodd - Clymu dechrau a diwedd y gerdd. Hefyd yn gyfeiriad at deitl y gerdd
“y miniog ei ymennydd, y ffwl anfeidrol ei ffydd”
Cyfleu bod Saunders Lewis yn ddyn galluog ond eto oedd nifer o Gymry yn ei weld fel ffwl
“llwyd”
Ansoddair - Lliw sydd ddim yn glir. Dim yn naturiol
“Ar ei wedd mae ol breuddwyd”
Cynghanedd lusg - Saunders Lewis yn ddyn uchelgeisiol. Eisiau i Gymru lwyddo fel gwlad ac iaith. Breuddwyd wedi gadael craith ar ei wyneb
“Ond ei ddysg a’i ddistaw ddod”
Adlais o gerdd R.W.P - Cyfarch Cymru fel R.W.P yn y gerdd ‘Y Gwrthodedig’ “Hoff wlad, os gelli hepgor dysg”
“fel y Gwr eithafol gynt”
Cymhariaeth - Cymharu Saunders Lewis i Iesu Grist. Arweinwyr Iesu wedi troi yn erbyn o. Cymru wedi troi yn erbyn S.L
“drostynt”
Trydydd person lluosog - Nid yw G.Ll.O yn cynnwys ei hun yn y diffyg deall
“Y gwrol un a gar wlad a gwerin na fyn gariad”
Ansoddeiriau - Cyfleu diffyg cariad y Cymry tuag ato. Cyfleu ymateb y bobl i weithredoedd S.L
“Naddodd ei galon iddi”
Berf a throsiad - Pwysleisio aberth mawr a phoenus. Cyfleu ymdrech a pharhad
“chell”
Enw - Cyfeirio at ban gafodd SL ei garcharu oherwydd digwyddiad ‘Ysgol Fomio’
“ddiffraw”
Ansoddair - Dangos bod y Cymry’n byw y bywyd cyfforddus
“daw y dydd”
Gair pwerus - Adleisio cywyddau y bymthegfed ganrif - “Myn duw mi wn a ddaw”. Arwydd o obaith
“dy gywilydd”
Rhagenw dibynnol blaen - Cyfleu ymdeimlad o agosatrwydd